Erving Goffman
Roedd Erving Goffman (11 Mehefin 1922 – 19 Tachwedd 1982) yn gymdeithasegydd, seicolegydd cymdeithasol, ac ysgrifennwr Canadaidd-Americanaidd, a ystyrir gan rhai fel "y cymdeithasegydd Americanaidd mwyaf dylanwadol yn yr 20g".[1] Yn 2007 fe'i rhestrwyd gan The Times Higher Education Guide fel yr awdur a gyfeirwyd fwyaf ond pump yn y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol, y tu ôl i Anthony Giddens, Pierre Bourdieu a Michel Foucault, ac o flaen Jürgen Habermas.[2]
Erving Goffman | |
---|---|
Ganwyd | 11 Mehefin 1922 Mannville |
Bu farw | 19 Tachwedd 1982 Philadelphia |
Dinasyddiaeth | Canada, Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cymdeithasegydd, awdur ffeithiol, anthropolegydd |
Swydd | President of the American Sociological Association |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | The Presentation of Self in Everyday Life |
Prif ddylanwad | Ray Birdwhistell |
Priod | Gillian Sankoff |
Plant | Alice Goffman |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim |
Goffman oedd y 73ain arlywydd o'r American Sociological Association. Ei gyfraniad mwyaf adnabyddus i ddamcaniaeth cymdeithasol yw ei astudiaeth o ryngweithedd symbolaidd. Gwnaed hyn drwy ddadansoddiad dramatwrgiaeth, gan gychwyn gyda'i lyfr yn 1956, The Presentation of Self in Everyday Life. Mae prif waith arall Goffman yn cynnwys Asylums (1961), Stigma (1963), Interaction Ritual (1967), Frame Analysis (1974), a Forms of Talk (1981). Mae ei brif feysydd astudio yn cynnwys cymdeithaseg bywyd bod dydd, yr adeiladwaith cymdeithasol o'r hunan, trefniant cymdeithasol (neu 'fframio') profiad, ac yn enwedig elfennau penodol o fywyd cymdeithasol fel total institutions a stigmâu.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Fine and Manning (2003), tud. 34.
- ↑ The most cited authors of books in the humanities; Times Higher Education; 26 Mawrth 2009; adalwyd 16 Tachwedd 2009.