Eryl Glynne
Meddyg a botanegydd o Gymraes oedd Eryl Glynne Jones (1893 – 1930).
Eryl Glynne | |
---|---|
Ganwyd | Glynne c. 1893 Bangor |
Bu farw | 25 Ionawr 1930 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | meddyg, casglwr botanegol, botanegydd |
Priod | Malcolm Arthur Smith |
Ganwyd yng Nglandyl, Bangor Uchaf, y ferch hynaf o naw o blant, i’r twrnai John Glynne Jones a’i wraig Dilys. Hannai ei thad o deulu Cymryd Archifwyd 2020-01-25 yn y Peiriant Wayback,[1] Conwy a’i mam yn un o Gymry Llundain, merch y cerflunydd a cherddor William Davies (Mynorydd).[2] Mynychod Ysgol Merched Bangor lle bu ei Mam yn lywodraethwraig. Yn 1910 buodd yn ffodus i oroesi damwain cwch lle bu farw Gerald, mab yr Athro Reginald William Phillips.
Astudiodd meddygaeth yn Llundain, yn graddio yn 1918.[3] Wedi priodi ei chyd-feddyg (a herpetolegydd enwog) Dr. Malcolm Arthur Smith yn 1921, aethant i Siam lle bu Malcolm Smith yn feddyg i’r llys frenhinol. Roedd Eryl yn fotanegydd dawnus, yn arbennigo ar redynau.[4] Casglodd dros 2000 o samplau ar draws y Dwyrain pell.
Wedi dychwelyd i fyw ym Mhrydain yn 1925, bu’n gweithio yng Ngerddi Kew tra bu ei gwr yn gweithio yn yr Amgueddfa Hanes Natur yn Kensington.
Lladdwyd Eryl yn 1930 mewn damwain car ger Llundain. Roedd ganddi dri o blant yn cynnwys y dringwr Cymryd (“Cym”) Smith[5] â laddwyd mewn damwain beic modur yn 27 oed yn 1952. Enwyd nifer o flodau, e.e. Lobelia eryliae, i’w anrhydeddu. Roedd ei chwaer Mary Dilys Glynne hefyd yn wyddonydd ac yn gweithio yn Sefydliad Ymchwil Amaethyddol Rothamsted.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Cymryd Deeds - Archives Hub". archiveshub.jisc.ac.uk. Cyrchwyd 2020-01-25.
- ↑ "DAVIES, WILLIAM (Mynorydd; 1826 - 1901), sculptor and musician | Dictionary of Welsh Biography". biography.wales. Cyrchwyd 2020-01-25.
- ↑ "SmithEG". www.nationaalherbarium.nl. Cyrchwyd 2020-01-25.
- ↑ "Smith, Eryl (c. 1893-1930) on JSTOR". plants.jstor.org. doi:10.5555/al.ap.person.bm000325633 Check
|doi=
value (help). Cyrchwyd 2020-01-25. - ↑ "Climbers' Club – Obituaries". The Climbers' Club (yn Saesneg). 2016-03-14. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-04-08. Cyrchwyd 2020-01-25.