Esgyll
Dwy linell olaf englyn unodl union ydy esgyll (neu'r cwpled cywydd).
Dyma esgyll englyn enwog Dewi Emrys i'r "Gorwel":
Hen linell bell nad yw'n bod,
Hen derfyn nad yw'n darfod.
Cyfres o'r cwpledi hyn ydyw'r cywydd deuair hirion.
Paladr yr englyn ydy'r ddwy linell gyntaf.