Ethan Ampadu
Mae Ethan Kwame Colm Raymond Ampadu (ganed 14 Medi 2000) yn chwaraewr pêl-droed rhyngwladol dros Gymru sy'n chwarae hefyd i glwb Chelsea. Mae'n chwarae gan amlaf mewn safle canol cae amddiffynnol, ond gall hefyd chwarae fel amddiffynnwr canol.
Ethan Ampadu | |
---|---|
Ganwyd | Ethan Kwame Colm Raymond Ampadu 14 Medi 2000 Caerwysg |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | pêl-droediwr |
Taldra | 182 centimetr |
Pwysau | 78 cilogram |
Tad | Kwame Ampadu |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Exeter City F.C., Chelsea F.C., RB Leipzig, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru dan 17 oed, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru dan 19 oed, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, Sheffield United F.C., Venezia F.C., Spezia Calcio, Leeds United A.F.C. |
Safle | amddiffynnwr, canolwr |
Gwlad chwaraeon | Lloegr, Cymru |
Mae'n fab i'r cyn-chwaraewr pêl-droed proffesiynol Kwame Ampadu.[1] Chwaraeodd ei gem gyntaf dros Gymru ym mis Tachwedd 2017.
Gyrfa glwb
golyguDinas Caerwysg
golyguYn enedigol o Gaerwysg, Dyfnaint, roedd Ampadu yn perthyn i academi ieuenctid Dinas Caerwysg. Ar 9 Awst 2016, pan oedd yn 15 blwydd 10 mis a 26 diwrnod, chwaraeodd gyntaf yn rownd agoriadol cystadleuaeth Cwpan Cynghrair Lloegr yn erbyn Brentford ym Mharc St James, gan chwarae 120 munud llawn yn y fuddugoliaeth o 1–0.[2] Cafodd ei enwi'n seren y gem, ac ef oedd chwaraewr ieuengaf y clwb erioed, yn torri record Cliff Bastin a oedd wedi sefyll ers 87 o flynyddoedd.[3][4][5] Wythnos yn ddiweddarach, chwaraeodd ei gem gynghrair gyntaf, pan drechwyd Caerwysg adref o 1-0 yn erbyn Tref Crawley yng Ail Adran Cyngrair Bel-droed Lloegr.[6]
Chelsea
golyguAr 1 Gorffennaf 2017, arwyddodd Ampadu gytundeb gyda Chelsea, clwb yn Uwch-Gynghrair Lloegr.
Ar 20 Medi, chwaraeodd Ampadu ei gem gyntaf i Chelsea mewn gem drydedd rownd yng Nghwpan Cynghrair Lloegr yn erbyn Nottingham Forest, gan ddod ymlaen ar ôl 55 munud yn lle Cesc Fàbregas.[7] Gyda hynny, daeth Ampadu yn y cyntaf a oedd wedi'i eni yn y 2000au i chwarae i Chelsea. Yn 17 blwydd a 6 diwrnod, ef hefyd oedd yr ieuengaf i chwarae i'r clwb er dros ddegawd.[8] Ar 12 Rhagfyr, chwaraeodd ei gem gyntaf i Chelsea yn yr Uwch-Gynghrair, pan ddaeth ymlaen fel eilydd yn erbyn Huddersfield Town ar ôl 80 munud.[9]
Gyrfa ryngwladol
golyguMae Ampadu yn chwarae pêl-droed rhyngwladol i dim cenedlaethol Cymru. Gallai hefyd fod wedi chwarae i Loegr, Gweriniaeth Iwerddon neu Ghana.[10]
Ar 26 Mai 2017, pan oedd yn 16 oed, cafodd Ampadu ei alw i garfan Cymru wrth iddynt baratoi ar gyfer gem ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2018, a hynny yn erbyn Serbia.[11] Cafodd ei alw eto ar 1 Tachwedd ar gyfer gemau cyfeillgar yn erbyn Ffrainc a Panama,[12] a chwaraeodd am y tro cyntaf ar 10 Tachwedd yn Stade de France, pan ddaeth i'r cae fel eilydd i Joe Ledley ar ôl 63 o funudau. Enillodd y Ffrancwyr o 2–0.[13]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Exeter City 1–0 Brentford". BBC Sport. 9 Awst 2016. Cyrchwyd 10 Awst 2016.
- ↑ "Exeter City 1–0 Brentford". BBC Sport. 9 Awst 2016. Cyrchwyd 11 Tachwedd 2017.
- ↑ @officialecfc (9 Awst 2016). "15-year-old Ethan Ampadu wins the man-of-the-match award on his full debut for the club. Well done, Ethan!" (Trydariad) (yn Saesneg) – drwy Twitter.
- ↑ "Exeter City vs Brentford: Ethan Ampadu to become Exeter City's youngest ever player". ExeterExpressandEcho.co.uk. 9 Awst 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Awst 2016. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Abbandonato, Paul (10 Awst 2016). "The 15-year-old wonderkid England want to poach has just become big news". Wales Online.
- ↑ "Exeter City 0–1 Crawley Town". BBC Sport. 16 Awst 2016. Cyrchwyd 11 Tachwedd 2017.
- ↑ "Chelsea 5–1 Nottingham Forest". BBC Sport. 20 Medi 2017. Cyrchwyd 20 Medi 2017.
- ↑ "Ethan Ampadu becomes youngest Chelsea player in over a decade". Goal. 20 Medi 2017.
- ↑ "Huddersfield Town 1–3 Chelsea". BBC Sport. 12 Rhagfyr 2017. Cyrchwyd 21 Rhagfyr 2017.
- ↑ Rogers, Gareth (7 Ebrill 2016). "Why Man Utd target Ethan Ampadu chose Wales over England". WalesOnline.co.uk.
- ↑ "Ethan Ampadu: Exeter City youngster included in Wales squad". BBC Sport. Cyrchwyd 26 Mai 2017.
- ↑ Byrom, David (1 Tachwedd 2017). "Chelsea starlet Ethan Ampadu included in Wales squad for Tachwedd friendlies". Devon Live. Cyrchwyd 11 Tachwedd 2017.
- ↑ "France 2–0 Wales". BBC Sport. 10 Tachwedd 2017. Cyrchwyd 11 Tachwedd 2017.