Rhanbarth daearyddol neu grŵp o bobl a gynrychiolir mewn senedd, cynulliad neu gorff etholedig arall yw etholaeth. Mae ystyr gwreiddiol y term yn golygu y corff o bleidleiswyr yn yr etholaeth honno, sef yr etholwyr, dyma hefyd yw'r diffiniad cyfreithiol o etholaeth.

Etholaeth
Mathendid tiriogaethol gweinyddol, endid tiriogaethol gwleidyddol Edit this on Wikidata
Rhan orepresentative democracy, electoral college Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

"Etholwr" yw'r enw am un aelod o'r etholaeth, ac mae hyn yn cynnwys pawb sydd â'r hawl i bleidleisio, heb ots os ydynt yn dewis pleidleisio neu beidio. Pan fydd etholaeth yn ethol cynrychiolydd, bydd y person hwnnw yn gyfrifol am gynrychioli diddordebau'r etholaeth (y bobl a'r ardal), ond byddent yn aml yn derbyn cyfrifoldebau eraill ac yn gorfod ateb i holl etholaeth y senedd neu'r cynulliad.

Gweler hefyd golygu