Senedd Cymru
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.[3] Rhwng Mai 1999 a Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales).[4][5] Sefydlwyd y Cynulliad ym 1999 ar ôl cynnal refferendwm ym 1997.
Senedd Cymru Welsh Parliament | |
---|---|
Pumed Senedd | |
![]() | |
Gwybodaeth gyffredinol | |
Math | Unsiambraeth |
Arweinyddiaeth | |
Llywydd y Senedd | Elin Jones, Plaid Cymru |
Is-Lywydd | Ann Jones, Y Blaid Lafur |
Arweinydd y Tŷ | Julie James, Y Blaid Lafur |
Prif Weithredwr a Chlerc | Manon Antoniazzi |
Cyfansoddiad | |
Aelodau | 60 |
![]() | |
Grwpiau gwleidyddol |
Gwrthbleidiau (29)
|
Pwyllgorau |
|
Etholiadau | |
Etholiad diwethaf | 5 Mai 2016 |
Etholiad nesaf | 6 Mai 2021 |
Man cyfarfod | |
![]() | |
Y Senedd, Caerdydd | |
Gwefan | |
senedd.cymru |
- Mae'r erthygl hwn am y sefydliad gwleidyddol. Am yr adeilad sy'n gartref i'r sefydliad gweler Adeilad y Senedd
Cymru |
![]() Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar: |
|
Cymru o fewn y DU
Cymru o fewn yr UE
Gweithgarwch gwleidyddol
|
|
Cynulliadau | |
![]() | |
Tŷ'r Cynulliad |
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Ceir 60 o aelodau, neu 'Aelodau o'r Senedd' (AS) a etholir (ers 2011) am dymor o 5 mlynedd; mae 40 ohonynt yn cynrychioli etholaeth daearyddol ac 20 yn cael eu hethol dan drefn cynrychiolaeth gyfrannol Dull D'Hondt dros y pum etholaeth ranbarthol yng Nghymru. Mae'n system unsiambr, hynny yw, nid oes 'ail siambr' i'r Ddeddfwrfa Gymreig.
Ffurfiwyd y Cynulliad Cenedlaethol yn dilyn Deddf Llywodraeth Cymru 1998, a oedd yn ymateb i Refferendwm datganoli i Gymru, 1997.[6] Mae'r Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn ddau gorff ar wahân - yr un fath â Senedd y Deyrnas Unedig a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Y corff democrataidd sy'n cynrychioli buddiannau Cymru a'i phobl, sy'n llunio cyfreithiau Cymru ac sy'n gwneud Llywodraeth Cymru'n atebol yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru.[7]
Yr enw ar gorff corfforaethol Senedd Cymru yw Comisiwn y Senedd. Caiff yr aelodau etholedig eu cefnogi gan Weision Sifil sy'n gweithio yn y meysydd datganoledig. Mae'r rhain yn cynnwys meysydd allweddol o fywyd cyhoeddus, fel iechyd, addysg a'r amgylchedd.[7]
EtholiadauGolygu
Mae aelodau yn cael eu hethol am dymor penodedig. Pedair blynedd oedd y tymor gwreiddiol, ond yn sgil deddfwriaeth yn San Steffan i greu Seneddau o 5 mlynedd ymestynwyd cyfnod y Cynulliad i 5 mlynedd. Cynhaliwyd etholiadau ym 1999, 2003, 2007, 2011 a 2016. Cynhelir is-etholiadau os oes Etholaeth leol o'r Cynulliad yn dod yn wag, ond os oes gwagle ar y rhestr rhanbarthol bydd pleidiau gwleidyddol yn enwebu yr unigolyn nesaf ar y rhestr i ymuno gyda'r Cynulliad.
Ar 27 Tachwedd 2019 pasiwyd Deddf yn y Cynulliad, Deddf Senedd ac Etholiadau, i roi'r bleidlais i bobl 16 oed, yn dechrau o etholiadau'r Cynulliad nesaf yn 2021. Yn ogystal a hyn bydd preswylwyr tramor yng Nghymru hefyd yn cael yr hawl i bleidleisio. Roedd 41 o 60 aelod y Cynulliad o blaid y newid gyda Llafur a Phlaid Cymru a'r Ceidwadwyr a Phlaid Brexit yn erbyn. Roedd y ddeddf hefyd yn rhoi enw newydd dwyieithog i'r Cynulliad - Senedd Cymru a Welsh Parliament. Yn gynharach yn y mis roedd cynnig i ddewis enw uniaith Gymraeg i'r Senedd ond cafodd ei wrthod gan y mwyafrif.[8]
GrymoeddGolygu
Grymoedd deddfuGolygu
Cafodd grymoedd i basio mesurau deddfwriaethol o fewn meysydd penodol eu rhoi ar ddechrau'r Trydydd Cynulliad ym mis Mai 2007 dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Ar 3 Mawrth 2011, cynhaliwyd Refferendwm ar bwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011 i benderfynu a ddylai'r Cynulliad gael y pwer y lunio deddfau ei hun.
Aelodau'r SeneddGolygu
Mai 2016-presennolGolygu
Plaid: | Etholiad 2016 |
Presennol | |
Llafur | 29 | 28 | |
Ceidwadwyr | 12 | 11 | |
Plaid Cymru | 12 | 10 | |
UKIP | 7 | 1 | |
Democratiaid Rhyddfrydol | 1 | 1 | |
Welsh Nation Party | 0 | 1 | |
Plaid Diddymu Cynulliad Cymru | 0 | 2 | |
Annibynnol[notes 1] | 0 | 6 | |
Seddi eu hangen ar gyfer mwyafrif un plaid | 2 | 0 | |
Mwyafrif y Llywodraeth[notes 2] | 0 | 2 |
- ↑ Mae 3 aelod, Mandy Jones, Caroline Jones a David Rowlands, yn rhan o grŵp annibynnol yn y Senedd The Independent Alliance for Reform.
- ↑ Mae hwn yn cynnwys Llafur, Rhyddfrydwyr Democrataidd, ac o Rhagfyr 2016, Dafydd Elis Thomas.
2011-Mai 16Golygu
Plaid | Mai 2011 | |
---|---|---|
Llafur | 30 | |
Y Ceidwadwyr | 14 | |
Plaid Cymru | 11 | |
Y Democratiaid Rhyddfrydol | 5 | |
Annibynnol | 0 |
CyfeiriadauGolygu
- ↑ http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-38371425
- ↑ https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/55729973
- ↑ "Gwybodaeth am y Cynulliad". 2012. Cyrchwyd 30 Ebrill 2012.
- ↑ "Gwybodaeth bwysig am newid enw'r sefydliad". National Assembly for Wales. Cyrchwyd 2020-05-05.
- ↑ "Bil i gyflwyno enw newydd a gostwng oed pleidleisio yn dod yn Deddf". Cynulliad Cenedlaethol Cymru. 15 Ionawr 2020.
- ↑ legislation.gov.uk; adalwyd 6 Mai 2016.
- ↑ 7.0 7.1 "Cynulliad Cenedlaethol Cymru". 8 Medi 2011. Cyrchwyd 30 Ebrill 2012.
- ↑ Cynulliad: Pasio deddf i roi'r hawl i bleidleisio yn 16 , BBC Cymru Fyw, 27 Tachwedd 2019. Cyrchwyd ar 28 Tachwedd 2019.