Eurgain ach Maelgwn Gwynedd

santes Gymreig

Santes o'r 6g oedd Eurgain ach Maelgwn Gwynedd, un o nifer bach o santesau brodorol Gwynedd. Priododd Elidir Mwynfawr a laddwyd mewn brwydr naill yn erbyn ymosodiad o'r gogledd, neu mewn gwrthryfel yn erbyn Maelgwn. Mae fersiwn arall o'r hanes yn dweud yr oedd hi mewn cariad gyda pennaeth Sacsoneg oedd yn ymladd yn erbyn ei thad. Claddwyd hi ar bryncyn ger Rhuddlan.[1]

Eurgain ach Maelgwn Gwynedd
Ganwyd510 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Dydd gŵyl29 Mehefin Edit this on Wikidata
Eglwys Llaneurgain yn Sir y Fflint.

Cysegriadau golygu

Safydlodd Eurgain Llaneurgain yn Sir y Fflint ar ben twmpath cyn-hanesyddol, lle saif hyd heddiw. Cofnodir yr enw Llaneurgan yn 1315 a Llanurgain yn 1566.[2]

Gwelir Hefyd golygu

Dylid darllen yr erthygl hon ynghyd-destun "Santesau Celtaidd 388-680"

Cyfeiriadau golygu

  1. Breverton, T.G. 2000, The Book of Welsh Saints, Glyndwr publishing
  2. Dictionary of Welsh Place names, 2008, Gwasg Gomer