Agor y brif ddewislen

Llaneurgain

pentref yn Sir y Fflint

Pentref a chymuned yn Sir y Fflint yw Llaneurgain ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (Saesneg: Northop), yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Fe'i lleolir hanner ffordd rhwng Yr Wyddgrug a'r Fflint, ar groesffordd 33 ar yr A55, tua 12 milltir i'r gorllewin o ddinas Caer. Yng Nghyfrifiad 2001 roedd gan y pentref boblogaeth o 2,983,[1] ac erbyn 2011 roedd yma 3,049.[2]

Llaneurgain
Northop church - geograph.org.uk - 1587179.jpg
Math Pentref, Cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sir y Fflint Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.2046°N 3.1303°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000202 Edit this on Wikidata
Cod OS SJ246681 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Hannah Blythyn (Llafur)
AS/au David Hanson (Llafur)

Mae ganddo boblogaeth o tua 3000. Ceir dwy dafarn, clwb criced a chlwb golff ynddo. Yng nghanol y pentref saif eglwys Sant Eurgain a Sant Pedr, gyda'i chlochdy'n codi 98 troedfedd uwchben y pentref. Ceir ynddo yn ogystal Goleg Garddwriaeth, sydd bellach yn cael ei reoli gan Brifysgol Glyndŵr a Choleg Cambria.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Hannah Blythyn (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw David Hanson (Llafur).[3][4]

Yr eglwysGolygu

Yn ôl traddodiad sefydlwyd 'Eglwys Santes Eurgain' yn y 6g; newidiwyd ei henw'n ddiweddarach i Eglwys y Santes Eurgain a Sant Paul. Dywedir fod Eurgain, nith Sant Asaph, wedi ei sefydlu ar ben twmpath cynhanesyddol, lle y saif hyd heddiw. Ceir cofnodion o'r 12g am y gwaith o godi'r eglwys, gyda'r clochdy'n cael ei ychwanegu yn 1571. Cafodd yr adeilad presennol ei atgyweirio'n sylweddol yn 1840 ac eto yn 1877. Mae'r eglwys yn sedd i blwyf Llaneurgain o hyd, sy'n cynnwys Llaneurgain ei hun, Neuadd Llaneurgain, Sychdyn, Helygain, Rhosesmor, a Mynydd y Fflint. Yn y gorffennol roedd yn cynnwys Cei Connah hefyd.

Yn y fynwent ceir hen adeilad ysgol ramadeg Llaneurgain, a godwyd yn y 16g.

Cofrestrwyd yr eglwys berpendicwla hon yn adeilad Gradd I yn Nhachwedd 1962 oherwydd ei dŵr, tŵr tebyg i dyrau Wrecsam a Gresffordd a rhannau o'r Oesoedd Canol.

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llaneurgain (pob oed) (3,049)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llaneurgain) (503)
  
17.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llaneurgain) (1562)
  
51.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llaneurgain) (386)
  
30.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Pobl o LaneurgainGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. 2001 Census: Northop, Office for National Statistics, http://neighbourhood.statistics.gov.uk/dissemination/LeadTableView.do?a=3&b=800995&c=northop&d=16&e=15&g=414718&i=1001x1003x1004&m=0&r=1&s=1214862873679&enc=1&dsFamilyId=779, adalwyd 30 Mehefin 2008
  2. "Community/Ward population 2011". Cyrchwyd 26 Mai 2015.
  3. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013