Eva Braun
Eva Braun (6 Chwefror 1910 – 30 Ebrill 1945) oedd meistres Adolf Hitler. Roedd hi'n enedigol o München yn Bafaria, de'r Almaen. Roedd hi'n ysgrifenyddes i ffotograffwr ar staff Hitler ac ar ôl peth amser dechreuodd hi fod yn feistres i Hitler. Am ddeuddeg mlynedd neu ragor roedd hi'n ganolog i fywyd personol yr unben, yn ôl tystion o'r cyfnod. Ymddiddorai mewn tynnu lluniau ("y Ferch Rollei" oedd ei llysenw, ar ôl y camerau Rollei) ac mae cyfran fawr o'r lluniau o fywyd personol Hitler yn ffrwyth ei difyrwaith. Roedd hi hefyd yn hoff o dorheulio'n noethlymun (roedd noethlymiaeth yn boblogaidd iawn yn yr Almaen yn y cyfnod Natsïaidd). Lladdodd ei hun, gyda Hitler, yn y byncer yn Berlin ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Mae rhai haneswyr yn dweud bod Eva Braun a Hitler wedi priodi cyn y diwedd.
Eva Braun | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
Eva Anna Paula Braun ![]() 6 Chwefror 1912 ![]() München ![]() |
Bu farw |
30 Ebrill 1945 ![]() Achos: gwenwyno gan syanid ![]() Führerbunker ![]() |
Dinasyddiaeth |
Ymerodraeth yr Almaen, Gweriniaeth Weimar, yr Almaen Natsïaidd ![]() |
Galwedigaeth |
ffotograffydd, photo lab technician, model ![]() |
Cyflogwr | |
Tad |
Friedrich Braun ![]() |
Mam |
Franziska Braun ![]() |
Priod |
Adolf Hitler ![]() |
Partner |
Adolf Hitler ![]() |
Perthnasau |
Hermann Fegelein, Paula Hitler, Angela Hitler, Ida Hitler, Otto Hitler, Gustav Hitler, Alois Hitler, Jr., Edmund Hitler, Klara Pölzl, Alois Hitler ![]() |
Llofnod | |
![]() |