Evan Jenkin Evans
gwyddonydd ac athro mewn prifysgolion
Gwyddonydd o Gymru oedd Evan Jenkin Evans (20 Mai 1882 – 2 Gorffennaf 1944). Un o Lanelli, graddiodd ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1902 ac ymlaen wedyn i Goleg Gwyddoniaeth De Kensington, Llundain, lle'r ymchwiliodd i sbectrosgopi yn yr adran ffiseg. Ymlaen â fo wedyn i Brifysgol Victoria, Manceinion yn 1908. Cyhoeddodd erthygl bwysig yn 1915 ar heliwm. Daeth yn ddirprwy reolwr labordai Manceinion, ble gweithiai Rutherford.
Evan Jenkin Evans | |
---|---|
Ganwyd | 20 Mai 1882 Llanelli |
Bu farw | 2 Gorffennaf 1944 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ffisegydd |
Priod | Myra Evans |
Yn 1920 dychwelodd i Gymru: i gadair yr adran ffiseg ym Mhrifysgol Cymru, Abertwae.