Evan Keri Evans
gweinidog gyda'r Annibynwyr
Cofiannydd ac athro prifysgol oedd Evan Keri Evans (2 Mai 1860 – 7 Mehefin 1941). Roedd yn frawd i D. Emlyn Evans.[1]
Evan Keri Evans | |
---|---|
Ganwyd | 2 Mai 1860 Pontceri |
Bu farw | 7 Mehefin 1941 Llanelli |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor, athro |
Roedd yn frodor o blwyf Pontceri, ger Castell Newydd Emlyn, Sir Gaerfyrddin. Ar ôl dechrau fel prentis saer coed graddiodd yn y Clasuron ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Glasgow yn 1888. Fe'i penodwyd yn Athro Athroniaeth yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru ac aeth ymlaen i lenwi'r un swydd yng Ngholeg y Presbyteriaid, Caerfyrddin. Ymddeolodd yn 1907 i ganolbwyntio ar ysgrifennu. Yn ogystal i'w gofiannau, cyhoeddodd hunangofiant yn 1938, sef Fy Mhererindod Ysbrydol, a ystyrir ei waith mwyaf nodedig.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- Cofiant D. Emlyn Evans (1919)
- Cofiant Joseph Parry (1921)[2]
- Cofiant David Adams (1924)
- Fy Mhererindod Ysbrydol (1938). Hunangofiant.