Evan Lloyd Vaughan
swyddog, gwleidydd (1700-1791)
Gwleidydd o Gymru oedd Evan Lloyd Vaughan (? - 4 Rhagfyr 1791[1]),
Evan Lloyd Vaughan | |
---|---|
Ganwyd | 1700s |
Bu farw | 4 Rhagfyr 1791 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | swyddog, gwleidydd |
Swydd | Aelod o 13eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 14eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 15fed Senedd Prydain Fawr, Aelod o 16eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 17eg Senedd Prydain Fawr |
Tad | Richard Vaughan |
Redd yn fab i Richard Vaughan, Corsygedol a Margaret, merch ac etifeddes Syr Evan Lloyd, 2ail farwnig Bodidris yn Iâl ac yn frawd i William Vaughan. Roedd yn gwnstabl Castell Harlech.[2] Etifeddodd Corsygedol oddi wrth ei frawd, ef oedd cynrychiolydd gwrywol olaf y teulu, felly etifeddodd ei nith, Margaret, gwraig Syr Roger Mostyn, 5ed Barwnig, yr ystad.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ VAUGHAN (TEULU), Corsygedol, plwyf Llanddwywe, sir Feirionnydd..
- ↑ Archaeologia Cambrensis, ISBN 0003066924. Cambrian Archaeological Association,argraffwyd gan W. Pickering (1846).
Senedd Prydain Fawr | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: John Pugh Pryse |
Aelod Seneddol dros Feirionnydd 1774 – 1791 |
Olynydd: Syr Robert Williames Vaughan |