Meirionnydd (etholaeth seneddol)

etholaeth seneddol

Etholaeth seneddol Meirionnydd oedd yr etholaeth seneddol ar gyfer yr hen Sir Feirionnydd (Meirion). Un o'r gwleidyddion enwocaf i gynrychioli'r etholaeth wledig hon oedd y Rhyddfrydwr radicalaidd Tom Ellis, fu'n AS Meirionnydd rhwng 1886 ac 1899.

Meirionnydd
Etholaeth Sir
Creu: 1542
Diddymwyd: 1983
Math: Tŷ'r Cyffredin
Aelodau:Un

Yr AS olaf i ddal sedd Meirionnydd yn San Steffan oedd Dafydd Elis-Thomas (Plaid Cymru), a ddaeth yn ddiweddarach yn un o'i harweinyddion. Cafodd y sedd ei dileu ym 1983 pan ffurfiwyd etholaeth newydd Meirionnydd Nant Conwy, a gipiwyd gan Dafydd Elis-Thomas i Blaid Cymru.

Aelodau Seneddol golygu

ASau 1542-1868 golygu

[1]

Blwyddyn Aelod Plaid
1542 Edward Stanley
1545 Rhys Vaughan
1547 Lewys ab Owain
1553 (Mawrth) Lewys ab Owain
1553 (Hyd) John Salesbury
1554 (Ebrill) Lewys ab Owain
1554 (Tach) Lewys ab Owain
1555 Elis Prys
1558 Elis Prys
1559 (Ion) Siôn Wyn ap Cadwaladr
1563 (Ion) Elis Prys
1571 Hugh Lewis Owen
1572 John Lewis Owen
1584 (Tach) Cadwaladr Price
1586 Robert Lloyd
1588 (Tach) Robert Salusbury
1593 Griffith Nanney
1597 (Medi) Thomas Myddelton
1601 (Hyd) Robert Lloyd
1604-1611 Syr Edward Herbert
1614 Ellis Lloyd
1621-1622 William Salisbury
1624 Henry Wynn
1625 Henry Wynn
1626 Edward Vaughan
1628-1629 Richard Vaughan
1629–1640 Dim Senedd
Ebrill 1640 Henry Wynn
Tach 1640 William Price
Chwef 1644 Dim cynrychiolaeth
1646 Roger Pope
1647 John Jones
1653 Dim cynrychiolaeth
1654 John Vaughan
1656 John Jones
Ion 1659 Lewys ab Owain
Mai 1659 Dim cynrychiolaeth
1660 Edmund Meyricke
1661 Henry Wynn
1673 William Price
1679 Syr John Wynn
1681 Syr Robert Owen
1685 Syr John Wynn
1695 Hugh Nanney (1669-1701)
1701 Richard Vaughan
1734 William Vaughan
1768 John Pugh Pryse
1774 Evan Lloyd Vaughan
1792 Syr Robert Williames Vaughan
1836 Richard Richards
1852 William Watkin Edward Wynne
1865 William Robert Maurice Wynne

ASau 1868-1983 golygu

Etholiad Aelod Plaid
1868 David Williams Rhyddfrydol
1870 Samuel Holland Rhyddfrydol
1885 Henry Robertson Rhyddfrydol
1886 Thomas Edward Ellis Rhyddfrydol
1899 Owen Morgan Edwards Rhyddfrydol
1900 Syr Osmond Williams Rhyddfrydol
1910 Syr Henry Haydn Jones Rhyddfrydol
1945 Emrys Owain Roberts Rhyddfrydol
1951 Thomas William Jones Llafur
1966 William Henry Edwards Llafur
1974 Dafydd Elis Thomas Plaid Cymru
1983 dileuwyd: gweler Meirionnydd Nant Conwy

Canlyniadau Etholiadau ers Deddf Diwigio'r Senedd 1832 golygu

Ffynhonnell:[2]

Etholiadau 1832 i 1868 golygu

 
Syr Robert Williames Vaughan
 
Richard Richards
 
William Watkin Edward Wynne
 
William Robert Maurice Wynne
 
David Williams
Etholiad cyffredinol 1832: Meirionnydd

Nifer yr etholwyr 580

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Syr Robert Williames Vaughan diwrthwynebiad
Ceidwadwyr yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1835: Meirionnydd

Nifer yr etholwyr 698

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Syr Robert Williames Vaughan diwrthwynebiad
Ceidwadwyr yn cadw Gogwydd

Fe ymddiswyddodd Syr Robert Williames Vaughan o'r sedd ar 27in Gorffennaf 1836 a chynhaliwyd isetholiad

Is Etholiad 1836: Meirionnydd

nifer yr etholwyr 785

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Richard Richards 501 76.9
Rhyddfrydol Syr Watkin Wynn 150 23.1
Ceidwadwyr yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1837: Meirionnydd

Nifer yr etholwyr 698

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Richard Richards diwrthwynebiad
Ceidwadwyr yn cadw Gogwydd

Fe barhaodd Richard Richards i fod yn AS Geidwadol diwrthwynebiad yn etholiadau 1841 a 1847. Yn etholiad 1852 etholwyd William Watkin Edward Wynne yn AS Ceidwadol heb wrthwynebiad.

Etholiad cyffredinol 1859: Meirionnydd

Nifer yr etholwyr 1,091

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr William Watkin Edward Wynne 389 52.7
Rhyddfrydol David Williams 351 47.3
Ceidwadwyr yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1865: Meirionnydd

Nifer yr etholwyr 1,527

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr William Robert Maurice Wynne 610 51.3
Rhyddfrydol David Williams 579 48.7
Ceidwadwyr yn cadw Gogwydd

Wedi gweld yr ysgrifen ar y mur penderfynodd y sgweieriaid Ceidwadol i beidio a sefyll ymgeisydd yn etholiad 1868 ac etholwyd David Williams, Castell Deudraeth, yn ddiwrthwynebiad ar ran y Blaid Ryddfrydol. Fe barhaodd Meirionnydd fel sedd Ryddfrydol o 1868 i 1951

Etholiadau'r 1870au y 1880au a'r 1890au golygu

 
Samuel Holland AS Meirion 1870-1885
 
Henry Robertson
 
Tom Ellis AS Meirion 1886-1899
 
O.M.Edwards AS Meirion 1899-1900

Bu farw David Williams [3] yn Rhagfyr 1869 a chynhaliwyd isetholiad yn Ionawr 1870.

Isetholiad Ionawr 1870: Meirionnydd

Nifer yr etholwyr 3,187

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Samuel Holland 1,610 62.6
Ceidwadwyr C. T. Tottenham 963 37.4
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Ail etholwyd Samuel Holland yn ddiwrthwynebiad ym 1874

Etholiad cyffredinol 1880: Meirionnydd

Nifer yr etholwyr 3,571

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Samuel Holland 1,860 63.4
Ceidwadwyr A M Dunlop 1,074 36.6
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1885: Meirionnydd

Nifer yr etholwyr 9,333

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Henry Robertson 3,784 47.9
Ceidwadwyr W R M Wynn 2,209 27.9
Rhyddfrydwr Annibynnol Morgan Lloyd 1,907 24.2
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Nodyn: Er iddo gael ei ethol fel ymgeisydd swyddogol y Blaid Ryddfrydol fe ddaeth Henry Robertson yn Rhyddfrydwr Unoliaethol yn fuan ar ôl yr etholiad. Fe unodd y Rhyddfrydwyr Unoliaethol a'r Blaid Geidwadol mewn gwrthwynebiad i gefnogaeth Y Brif Weinidog Gladstone i ymreolaeth i'r Iwerddon. Fe drodd Morgan Lloyd at yr Unoliaethwyr hefyd, gan sefyll drostynt yn etholaeth Môn ym 1892 [4]

Etholiad cyffredinol 1886: Meirionnydd

Nifer yr etholwyr 9,333

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Thomas Edward Ellis (Rhyddfrydwr Gladstonaidd) 4,127 59.1
Ceidwadwyr W R M Wynn 2860 40.9
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1892: Meirionnydd

Nifer yr etholwyr 9,137

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Thomas Edward Ellis 5,175 72.8
Ceidwadwyr H Owen 1,937 27.2
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Gan iddo gael ei ddyrchafu yn Arglwydd Gomisiynydd y Trysorlys yn Awst 1892 bu'n rhaid cynnal isetholiad ond ail etholwyd Tom Ellis yn ddiwrthwynebiad

Etholiad cyffredinol 1895: Meirionnydd

Nifer yr etholwyr 8,983

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Thomas Edward Ellis 5,173 69.9
Ceidwadwyr C E Owen 2,232 30.1
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Bu farw Thomas Edward Ellis ar 5 Ebrill 1899. Etholwyd Owen Morgan Edwards i'w olynu yn ddiwrthwynebiad, safodd Edwards i lawr ar ddiwedd y tymor etholiadol heb geisio cael ei ail-ethol

Etholiadau 1900 - 1918 golygu

 
Osmond Williams

Dim ond un etholiad cystadlaeol bu yn y cyfnod yma.

Yn etholiadau 1900 a 1906 cafodd Arthur Osmond Williams, mab hynaf David Williams AS Meirionnydd rhwng 1868 a 1870, ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Blaid Ryddfrydol.[5]

Etholiad cyffredinol Ionawr 1910: Meirionnydd

Nifer yr etholwyr 9,365

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Henry Haydn Jones 6,065 76.4
Ceidwadwyr R Jones Morris 1,873 23.6
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Ail-etholwyd Haydn Jones yn ddiwrthwynebiad yn etholiadau mis Rhagfyr 1910 a 1918

Etholiadau'r 1920au golygu

 
Etholiad cyffredinol 1922: Meirionnydd

Nifer yr etholwyr 22,017

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Henry Haydn Jones 9,903 58.3
Llafur J J Roberts 7,071 41.7
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1923: Meirionnydd

Nifer yr etholwyr 22,666

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Henry Haydn Jones 11,005 60.5
Llafur J J Roberts 7,181 39.5
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1924: Meirionnydd

Nifer yr etholwyr 23,013

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Henry Haydn Jones 9,228 47.8
Llafur J J Roberts 6,393 33.1
Ceidwadwyr R Vaughan 3,677 19.1
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1929: Meirionnydd

Nifer yr etholwyr 28,836

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Henry Haydn Jones 11,865 48.2
Llafur J J Roberts 7,980 32.5
Ceidwadwyr C Philbbs 4,731 19.3
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Etholiadau'r 1930au golygu

Etholiad cyffredinol 1931: Meirionnydd

Nifer yr etholwyr 28,973

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Henry Haydn Jones 9,756 40.8
Llafur J H Howard 7,807 32.6
Ceidwadwyr C Philbbs 6,372 26.6
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1935: Meirionnydd

Nifer yr etholwyr 28,985

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Henry Haydn Jones 9,466 40.0
Llafur Thomas William Jones 8,317 35.2
Ceidwadwyr C Philbbs 5,686 24.8
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Etholiadau'r 1940au a'r 1950au golygu

 
Emrys Owain Roberts AS
Etholiad cyffredinol 1945: Meirionnydd

Nifer yr Etholwyr 28,845

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Emrys Owain Roberts 8,495 35.8
Llafur H M Jones 8,383 35.4
Ceidwadwyr C P Hughes 4,474 18.5
Plaid Cymru Gwynfor Evans 2,448 10.3
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1950: Meirionnydd

Nifer yr Etholwyr 27,941

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Emrys Owain Roberts 9,647 38.8
Llafur O Parry 8,577 34.6
Ceidwadwyr J F W Wynne 3,846 15.5
Plaid Cymru Gwynfor Evans 2,754 11.1
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1951: Meirionnydd

Nifer yr Etholwyr 28,019

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Thomas William Jones 10,505 42.9
Rhyddfrydol Emrys Owain Roberts 9,457 38.7
Ceidwadwyr William Geraint Oliver Morgan 4,505 15.5
Llafur yn disodli Rhyddfrydol Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1955: Meirionnydd

Nifer yr Etholwyr 27,472

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Thomas William Jones 8,577 38.8
Rhyddfrydol H E Jones 6,370 26.9
Plaid Cymru Gwynfor Evans 5,243 22.1
Rhyddfrydwr Cenedlaethol a Cheidwadol J V Jenkins 3,001 12.7
Llafur yn cadw Gogwydd
 
Gwynfor Evans yn ymgyrchu yn Etholiad Meirionnydd 1959
 
T. W. Jones, Arglwydd Maelor
Etholiad cyffredinol 1959: Meirionnydd

Nifer yr Etholwyr 26,435

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Thomas William Jones 9,095 40.8
Rhyddfrydol B G Jones 8,119 36.3
Plaid Cymru Gwynfor Evans 5,127 22.9
Llafur yn cadw Gogwydd

Etholiadau'r 1960au golygu

 
Wil Edwards
 
Dafydd Wigley
Etholiad cyffredinol 1964: Meirionnydd

Nifer yr Etholwyr 26,392

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Thomas William Jones 8,420 38.4
Rhyddfrydol Richard Oliver Jones 7,171 32.7
Plaid Cymru Elystan Morgan 3,697 16.8
Ceidwadwyr A Lloyd Jones 2,656 16.8
Llafur yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1966: Meirionnydd

Nifer yr Etholwyr 25,395

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur William Henry Edwards 9,628 44.2
Rhyddfrydol E G Jones 7,733 35.5
Plaid Cymru J L Jenkins 2,490 11.4
Ceidwadwyr A Lloyd Jones 1,948 8.9
Llafur yn cadw Gogwydd

Etholiadau'r 1970au golygu

Etholiad cyffredinol 1970: Meirionnydd

Nifer yr Etholwyr 26,434

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur William Henry Edwards 9,628 39.8
Plaid Cymru Dafydd Wigley 5,425 24.3
Rhyddfrydol E Thomas 5,034 22.6
Ceidwadwyr D E H Edwards 2,965 13.3
Llafur yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol Chwefror 1974: Meirionnydd

Nifer yr Etholwyr 26,566

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Plaid Cymru Dafydd Elis Thomas 7,823 34.6
Llafur William Henry Edwards 7,235 32.08
Rhyddfrydol Iolo ab Eurfyl Jones 4,153 18.4
Ceidwadwyr Roy R Owen 3,392 15
Plaid Cymru yn disodli Llafur Gogwydd
 
Dafydd Elis Thomas AS Meirion 1974-1983
Etholiad cyffredinol Hydref 1974: Meirionnydd

Nifer yr Etholwyr 26,728

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Plaid Cymru Dafydd Elis Thomas 9,543 42.5
Llafur William Henry Edwards 6,951 32.08
Rhyddfrydol Richard Oliver Jones 3,454 15.4
Ceidwadwyr Roy R Owen 2,509 11.2
Plaid Cymru yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1979: Meirionnydd
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Plaid Cymru Dafydd Elis Thomas 9,275 40.8
Ceidwadwyr Robert Harvey 5,365 23.6
Llafur R. H. Jones 5,332 23.5
Rhyddfrydol John H. Parsons 2,752 12.1
Mwyafrif 3,910 17.2
Y nifer a bleidleisiodd 22,724 83.4
Plaid Cymru yn cadw Gogwydd

Cyfeiriadau golygu

  1. Cynrychiolaeth Sir Feirionnydd Y Celt, 14 Awst 1885 [1] adalwyd 17 Mai 2015
  2. James, Arnold J a Thomas, John E. Wales at Westminster - A History of the Parliamentry Representation of Wales 1800-1979 Gwasg Gomer 1981 ISBN 0 85088 684 8
  3. Seren Cymru 24 Rhag 1869 "Marwolaeth Mr D Williams AS Casteldeudraeth" http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3198504/ART38/
  4. Y Bywgraffiadur ar Lein Morgan Lloyd (1820 - 1893)http://yba.llgc.org.uk/cy/c-LLOY-MOR-1820.html?query=Morgan+Lloyd&field=name
  5. Y Bywgraffiadur Ar Lein WILLIAMS (TEULU), Bron Eryri (a elwid Castell Deudraeth yn ddiweddarach), sir Feirionnydd http://yba.llgc.org.uk/cy/c-WILL-BRO-1800.html?query=osmond+williams&field=content