Corsygedol
Plasdy hynafol sy'n ffermdy heddiw, ym mhlwyf Llanddwywe (Llanddwywe-is-y-graig), ger Dyffryn Ardudwy, Meirionnydd, yw Corsygedol (cyfeiriad grid SH600231). Mae ganddo le pwysig yn hanes llenyddiaeth Gymraeg fel aelwyd i deulu o noddwyr beirdd a chartref i gasgliad o lawysgrifau Cymraeg, yn cynnwys Llyfr Gwyn Corsygedol.
Math | plasty gwledig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | ystad Corsygedol |
Lleoliad | ystad Corsygedol, Dyffryn Ardudwy |
Sir | Dyffryn Ardudwy |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Uwch y môr | 157.8 metr |
Cyfesurynnau | 52.7871°N 4.07726°W |
Perchnogaeth | Teulu Fychan, Mostyn |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Gorwedd y plasdy, sy'n fferm y dyddiau hyn, tuag un milltir i'r dwyrain o bentref Dyffryn Ardudwy, ger lan afon Ysgethin, ar esgair sy'n codi i fryniau'r Rhinogydd, yn Ardudwy.
Cyrchai beirdd Gwynedd y plasdy i fwynhau nawdd Fychaniaid Corsygedol am yn agos i dair canrif a hanner. Mae'r cerddi cynharaf yn dyddio i ddiwedd y 15g, ond credir y bu'n blasdy pwysig ymhell cyn hynny hefyd. Dechreuwyd adeiladu'r plasdy presennol gan Rhisiart Fychan yn 1576, ac ychwanegwyd iddo gan ei fab Gruffudd Fychan. Yn 1630 ychwanegwyd y porth mawr gan William Fychan, mab Gruffudd.
Canodd y bardd Gruffudd Philip i Gorsygedol ddechrau'r 17g:
- Gwal y gaer yn glaer deg lân,
- Gwydr troeog ydyw'r traean.[1]
Edmyga'r bardd y ffenestri gwydr ardderchog, un o newyddbethau'r oes. Cerrig lleol a ddefnyddwyd i godi'r plasdy, sy'n nodweddiadol hefyd am ei simneiau mawr yn arddull lleol y rhan honno o Sir Feirionnydd.
Trwy gydbriodas, unwyd aelwyd Corsygedol a theulu Nannau, ger Dolgellau. Yr aelod mwyaf adnabyddus o'r teulu yn y cyfnod hwnnw yw William Vaughan (AS) (1707-75), Arglwydd Raglaw Sir Feirionnydd ac un o gyfellion pennaf y Morysiaid, yn enwedig Lewis Morris.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ dyfynnir gan Enid Roberts, Tai Uchelwyr y Beirdd 1350-1650 (Cyhoeddiadau Barddas, 1986).
Llyfryddiaeth
golygu- Teulu Vaughan, Corsygedol yn y Bywgraffiadur Cymreig