Euripides
ysgrifennwr, bardd, dramodydd, athronydd, awdur trasiediau
(Ailgyfeiriad o Ewripedes)
Dramodydd Groegaidd oedd Euripides (Groeg: Εὐριπίδης) (ca. 480 CC–406 CC). Ef oedd yr olaf o dri trasiedydd mawr Athen, gyda Aeschylus a Sophocles. Mae deunaw o'i ddramâu wedi goroesi.
Euripides | |
---|---|
Ganwyd | 480s CC Athen yr henfyd, Ynys Salamis, Ynys Salamis |
Bu farw | 400s CC Macedon, Pella |
Dinasyddiaeth | Athen yr henfyd |
Galwedigaeth | awdur trasiediau, dramodydd, ysgrifennwr, bardd, athronydd |
Adnabyddus am | Alcestis, Andromache, Y Bacchae, Hecuba, Helen, Electra, Herakles' Children, Herakles, The Suppliants, Hippolytus, Iphigenia in Aulis, Iphigenia in Tauris, Ion, Cyclops, Medeia, Orestes, Rhesus, The Trojan Women, The Phoenician Women |
Arddull | Greek tragedy |
Tad | Mnesarchus |
Mam | Cleito |
Plant | Euripides Yr Ieuengaf |
Dywedir ei fod yn enedigol o Ynys Salamis, ac iddo gael ei eni ar 23 Medi 480 CC, dyddiad Brwydr Salamis. Treuliodd ei ddyddiau olaf yn Pella, prifddinas teyrnas Macedon, yn cyfansoddi'r ddrama Archelaus.
Dramâu wedi goroesi'n gyflawn
golygu- Alcestis (438 CC)
- Medeia (431 CC)
- Heracleidae (c. 430 CC)
- Hippolytus (428 CC)
- Andromache (c. 425 CC)
- Hecuba (c. 424 CC)
- Y Deisyfwyr (c. 423 CC)
- Electra (c. 420 CC)
- Heracles (c. 416 CC)
- Gwragedd Troia (415 CC)
- Iphigeneia yn Tauris (c. 414 CC)
- Ion (c. 414 CC)
- Helen (412 CC)
- Merched Ffenicaidd (c. 410 CC)
- Orestes (408 CC)
- Bacchae ac Iphigeneia yn Aulis (405 CC)