Pella
Pella (Groeg Πέλλα) oedd prifddinas teyrnas Macedon yn Ngwlad Groeg.
Math | dinas hynafol, safle archaeolegol, polis |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Pella archaeological site |
Sir | Pella Municipality |
Gwlad | Gwlad Groeg |
Uwch y môr | 38 metr |
Cyfesurynnau | 40.76°N 22.51917°E |
Statws treftadaeth | listed archaeological site in Greece |
Manylion | |
- Am y dref fodern, gweler Pella (Gwlad Groeg).
Sefydlwyd y ddinas gan Archelaus I o Facedon (413–399 CC) fel prifddinas ei deyrnas, gan gymryd lle'r hen balas-ddinas yn Aigai (Vergina). Ar ôl hynny roedd yn ganolfan grym i Philip II o Facedon a'i fab Alecsander Fawr, goresgynnwr Ymerodraeth Persia. Yn 168 CC, cafodd ei difetha gan y Rhufeiniaid. Yn ddiweddarach, dinistriwyd Pella gan ddaeargryn ond codwyd y ddinas o'r newydd ar ei hadfeilion. Erbyn 180 OC, medrai'r awdur Rhufeinig Lucian ei disgrifio fel "lle dinod heddiw, heb fawr neb yn byw yno". Yn ei dydd bu'n borthladd pwysig hefyd, a gysylltai Macedon â dinasoedd Groeg y de fel Athen.
Cyfeirir at Pella am y tro cyntaf gan Herodotus (Hanes VII, 123) yng nghyd-destun ymgyrch yr ymerodr Persiaidd Xerxes i oresgyn Groeg. Cyfeirir ati gan Thucydides (II, 99,4 a 100,4) hefyd, mewn perthynas â rhyfel Macedon yn erbyn Sitalces, brenin Thrace. Yn ôl Xenophon, ar ddechrau'r 4 CC, Pella oedd dinas fwyaf Macedon. Cyfeirir ati hefyd gan yr haneswyr Rhufeinig Polybius a Livy fel prifddinas Philip V o Facedon a Perseus o Facedon.
Oherwydd grym a dylanwad Macedon daeth yn atynfa mawr i artistiaid a llenorion Groeg fel y bardd Timotheus o Filetos a'r dramodydd enwog Euripides, a dreuliodd ei ddyddiau olaf yno yn cyfansoddi'r ddrama Archelaus (ar fywyd y brenin). Yma hefyd y chwarewyd un o ddramâu enwocaf Euripides, Y Bacchae, tua 408 CC. Daeth Aristotlys i Pella i fod yn diwtor i'r Alecsander Fawr ifanc. Bu farw'r bardd enwog Aratus ym Mhella tua 240 CC.
Ar ôl y goresgyniad Rhufeinig daeth Pella yn brifddinas ranbarthol ym nhalaith Rufeinig Macedonia. Roedd yn gorwedd ar briffordd strategol bwysig y Via Egnatia (Strabo VII, 323), ar y llwybr rhwng Dyrrachium a Thessalonika. Arosodd Cicero yno yn 58 CC.
Dirywiodd y ddinas ar ôl y ganrif 1af CC, yn rhannol oherwydd y ddaeargryn. Erbyn cyfnod yr Ymerodraeth Fysantaidd, dim ond pentref mawr gyda mur amddiffynnol o'i amgylch oedd ar y safle.