Ynys Salamis
Ynys Salamis (Groeg Ddemotig: Σαλαμίνα, Salamina; Hen Roeg/Katharevousa: Σαλαμίς, Salamis) yw'r ynys fwyaf yng Ngwlff Saronica, tua 1 filltir forwrol (2 km) dros y dŵr o borthladd Piraeus, Attica, Gwlad Groeg. Ei phrif borthladd yw Paloukia, yn ail i Piraeus yn unig o ran ei maint yn Ngwlad Groeg. Tybir fod yr enw Salamis yn tarddu o'r gair Salam (chalam), 'heddwch'; cyfeirir ati gan Homer. Yn ôl damcaniaeth arall mae'n tarddu o enw mam Cychreus, brenin cyntaf yr ynys.
Math | ynys, polis |
---|---|
Poblogaeth | 39,220 |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Islands Regional Unit |
Gwlad | Gwlad Groeg |
Arwynebedd | 95 km² |
Uwch y môr | 375 metr |
Gerllaw | Gwlff Saronica |
Cyfesurynnau | 37.9381°N 23.4853°E |
Cod post | 189 xx |
Mae'r ynys yn adnabyddus am Frwydr Salamis, a ymladdwyd rhwng y Groegiaid a'r Persiaid yn 480 CC. Yn ôl traddodiad ganwyd yr arwr Aias (Ajax) a'r dramodydd Clasurol Ewripides yno hefyd.
Heddiw mae'n gartref i wersyllfa sy'n bencadlys i Lynges Groeg. Bomiwyd yr harbwr gan y Luftwaffe Almaenig yn 1941, gan suddo'r llongau rhyfel Groegaidd Kilkis a Lemnos.