Exminster
Pentref a phlwyf sifil yn Nyfnaint, De-orllewin Lloegr, ydy Exminster.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Teignbridge. Saif 6 km (3.7 mill) i'r de o ddinas Exeter, ar lan orllewinol Afon Exe.
Math | pentref, plwyf sifil |
---|---|
Ardal weinyddol | Ardal Teignbridge |
Poblogaeth | 4,551 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dyfnaint (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 50.6776°N 3.4945°W |
Cod SYG | E04003208 |
Cod OS | SX9441687563 |
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd poblogaeth y pentref yn 3,368.[2] Ganwyd William Courtenay, yn Exminster, gŵr a fu'n Archesgob Caergaint o 1381 i 1396.[3]
Mae'n hen bentref gyda'i wreiddiau yn ddwfn yn yr Oesoedd Canol, fel y tystia Eglwys Sant Martin, a sefydlwyd yn yr 8g.[4] Yma hefyd oedd cartref ieirll Dyfnaint yn y 14g.
Ychydig i'r dwyrain, ceir corsydd Exminster Marshes, sy'n safle arbennig iawn i adar, yn enwedig rhai mudol[5] e.e. Bras Ffrainc (Emberiza cirlus).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 27 Mawrth 2020
- ↑ "Exminster population 2011". Cyrchwyd 18 Chwefror 2015.
- ↑ http://www.british-history.ac.uk/report.aspx?compid=50577
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-07. Cyrchwyd 2016-10-19.
- ↑ BBC Devon. Adalwyd 18 Mai 2007