Ardal Teignbridge
Ardal an-fetropolitan yn sir seremonïol Dyfnaint, De-orllewin Lloegr, yw Ardal Teignbridge (Saesneg: Teignbridge District).
Math | ardal an-fetropolitan |
---|---|
Ardal weinyddol | Dyfnaint |
Prifddinas | Newton Abbot |
Poblogaeth | 135,952 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dyfnaint (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 673.8928 km² |
Cyfesurynnau | 50.582°N 3.628°W |
Cod SYG | E07000045 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of Teignbridge District Council |
Mae gan yr ardal arwynebedd o 674 km², gyda 134,163 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ag Ardal Dwyrain Dyfnaint a Dinas Caerwysg i'r dwyrain, Ardal Canol Dyfnaint i'r gogledd, Bwrdeistref Gorllewin Dyfnaint i'r gorllewin, ac Ardal South Hams a Bwrdeistref Torbay i'r de, yn ogystal â'r Môr Udd i'r de-ddwyrain.
Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974.
Rhennir yr ardal yn 50 o blwyfi sifil. Mae ei phencadlys yn nhref Newton Abbot. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Ashburton, Bovey Tracey, Buckfastleigh, Chudleigh, Dawlish, Kingsteignton, Moretonhampstead a Teignmouth.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ City Population; adalwyd 2 Tachwedd 2020