Fair Isle
ynys i'r de o Shetland, yng ngogledd yr Alban
Ynys rhwng Ynysoedd Erch ac ynysoedd Shetland yng ngogledd yr Alban yw Fair Isle (Hen Lychlynneg: Frjóey, Gaeleg: Eileann nan Geansaidh). Daw dan Shetland yn weinyddol, er ei bod ychydig yn nes at North Ronaldsay yn Ynysoedd Erch nag at unrhyw fan y Shetland.
![]() | |
Math |
ynys ![]() |
---|---|
| |
Poblogaeth |
68 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Shetland ![]() |
Sir |
Shetland, Dunrossness ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
768 ha ![]() |
Uwch y môr |
271 metr ![]() |
Gerllaw |
Cefnfor yr Iwerydd ![]() |
Cyfesurynnau |
59.5417°N 1.6225°W ![]() |
Hyd |
4.8 cilometr ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth |
George Waterston, Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban ![]() |
Mae'r ynys yn 4.8 km o hyd a 2.4 km o led. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 69. Ceir un ysgol gynradd ar yr ynys, ond rhaid i'r plant fynd i Lerwick am addysg uwchradd. Mae'r ynys yn adnabyddus am ei gwylfa adar, lle gwelir nifer fawr o rywogaethau prin yn y gwanwyn a'r hydref, ac am dechneg gweu Fair Isle.