Teulu o rocedi gwennol (aml-ddefnydd) yw'r Falcon a gynhyrchir gan un o gwmniau Elon Musk: Space Exploration Technologies Exploration (neu SpaceX) ac a elwir yn 'rocedi lansio'. Yn 2017 roedd y rocedi a ddefnyddiwyd yn cynnwys y Falcon 1 a'r Falcon 9.

Falcon
Enghraifft o'r canlynolteulu o rocedi Edit this on Wikidata
Mathcerbyd lansio Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Rhan ocerbydau lawnsio SpaceX Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2006 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysFalcon 1, Falcon 9, Falcon Heavy Edit this on Wikidata
GwneuthurwrSpaceX Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Lansiwyd y Falcon 1 lwyddiannus yn gyntaf ym Medi 2008, wedi sawl methiant blaenorol. Mae'r Falcon 9 (EELV)-class gryn dipyn yn fwy na'r Falcon 1 ac roedd ei thaith lwyddiannus gyntaf i'r gofod ar ei lansiad cyntaf, sef ar 4 Mehefin 2010; defnyddiai gynllun 'gwennol', sef fod rhannau o'r roced yn dychwelyd i'r Ddaear er mwyn eu hailddefnyddio drachefn a thrachefn. Lansiwyd y Falcon Heavy, gyda thair rhan iddi am y tro cyntaf ar 6 Chwefror 2018.

Ymhlith cynlluniau'r cwmni SpaceX mae gwladychu'r blaned Mawrth. Bwriada'r cwmni hefyd barhau i gynllunio, i gynhyrchu ac yna i lansio prosiect BFR, a wnaed yn gyhoeddus am y tro cyntaf ym Medi 2017. Dyma'r teulu o rocedi a fydd, ryw ddydd, yn cymryd drosodd o deulu'r Falcon.

Teulu o rocedi Falcon (Ch. i Dde): Falcon 1, Falcon 9 v1.0, 3 fersiwn o'r Falcon 9 v1.1, 3 fersiwn o'r Falcon 9 v1.2 (Full Thrust), 3 fersiwn o'r Falcon 9 Block 5, 2 fersiwn o'r Falcon Heavy

Yr enw golygu

Nododd Elon Musk, Prif Weithredwr a sefydlydd SpaceX y galwyd y teulu hwn yn "Falcon" ar ôl y Millennium Falcon o'r gyfres ffilm Star Wars.[1]

Y rocedi cyfredol golygu

Falcon 9 "Full Thrust" v1.2 golygu

Uwchraddiwyd y Falcon 9 v1.2 (llysenw: "Full Thrust") o'r Falcon 9 V1.1 ac fe'i lansiwyd yn llwyddiannus am y tro cyntaf ar 22 Rhagfyr 2015 ar gyfer cludo ORBCOMM-2 o bad lansio SLC-40, Cape Canaveral. Yr uwchraddio oedd newid tanc y tanwydd hylif ocsigen i un llawer mwy: daeth hyn a chynydd o 33% ym mherfformiad "Full Thrust".[2]

Falcon Heavy golygu

Fel yr awgryma'r enw, mae'r roced yma'n medru cario prif-lwyth (payload) trwm. Addasiad ydyw o'r Falcon 9 ac mae'n cynnwys 3 Falcon 9 gyda'r tiwb canol wedi'i atgyfnerthu a dau bwstryr o'i bopty. Mae'r dair rhan wedi'u cynllunio er mwyn iddynt ddychwelyd i'r Ddaear a'u hail ddefnyddio dro ar ôl tro. Lansiwyd y Falcon Heavy am y tro cyntaf ar 6 Chwefror 2018. Fel arfer, mewn arbrofion cychwynnol fel hyn, cludir talp o goncrid fel prif-lwyth, ond y tro hwn, gyda synnwyr digrifwch arferol Elon Musk, cariwyd un o geir ei gwmni [[Tesla (cwmni ceir) ]], sef y Tesla Roadster, a hynny i gyfeiliant Space Oddity, gan David Bowie.[3]

Rocedi na chaiff eu defnyddio golygu

Falcon 1 golygu

Yn wahanol i'r rocedi a ddaeth ar ei ôl, nid oedd defnydd gwennol, aml-ddefnydd i'r Falcon 1. Fe'u cynhyrchwyd gan SpaceX rhwng 2006–2009.[4] Ar 28 Medi 2008, daeth y Falcon 1 y cerbyd gofod preifat (tanwydd hylif) cyntaf i fynd i orbit o amgylch y Ddaear. Roedd ganddi ddwy ran a defnyddiai hylif ocsigen (LOX/RP-1) fel tanwydd, gydag un injan-roced Merlin ac yna un injan-roced Kestrel.

Eraill golygu

Falcon 1e
Falcon 9 v1.0
Falcon 9 v1.1
Grasshopper

Gohiriwyd golygu

Gohiriwyd y prosiectau canlynol:

Falcon 5
Falcon 9 Air

Cyfeiriadau golygu

  1. "Joseph Gordon-Levitt at SpaceX". Youtube. t. timeindex 2:25.
  2. SpaceX ORBCOMM-2 webcast
  3. "SpaceX Falcon Heavy launch successful". CBS News. 6 Chwefror 2018. Cyrchwyd 6 Chwefror 2018.
  4. Engel, Max (2013-03-01). "Launch Market on Cusp of Change". Satellite Today. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-02-18. Cyrchwyd 2013-02-15. SpaceX is not the first private company to try to break through the commercial space launch market. The company, however, appears to be the real thing. Privately funded, it had a vehicle before it got money from NASA, and while NASA’s space station resupply funds are a tremendous boost, SpaceX would have existed without it.