SpaceX

cwmni fforio'r gofod o UDA

Mae'r Space Exploration Technologies Corporation, neu SpaceX, yn gwmni awyrofod a chludiant a sefydlwyd gan Elon Musk yn 2002 er mwyn gwladychu planed Mawrth drwy ddatblygu rocedi a thechnoleg newydd. Sefydlwyd pencadlys SpaceX yn Hawthorne, Califfornia. Mae'r cwmni'n cynhyrchu'r Falcon 9, y Falcon Heavy, a cherbydau lansio Starship, sawl injan roced, llong ofod Cargo Dragon a Crew Dragon, a lloerennau cyfathrebu Starlink.

SpaceX
Falcon 9 yn 2016
Enghraifft o'r canlynoldiwydiant awyrofod, launch service provider, busnes Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu14 Mawrth 2002 Edit this on Wikidata
PerchennogElon Musk Edit this on Wikidata
Prif weithredwrElon Musk Edit this on Wikidata
SylfaenyddElon Musk Edit this on Wikidata
Gweithwyr12,000 Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolDelaware corporation Edit this on Wikidata
Cynnyrchautonomous spaceport drone ship, SpaceX Draco, Dragon SpaceX, Falcon, Kestrel, Merlin, Octagrabber, Raptor, Starhopper, SuperDraco Edit this on Wikidata
PencadlysHawthorne Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.spacex.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ym Mai 2012, yn dilyn lansiad llwyddiannus y Dragon cyntaf i'r orsaf (heb griw), dechreuodd NASA dalu am ei defnyddio er mwyn cludo deunyddiau i'r Orsaf Ofod Rhyngwladol.[1]

Pad lawnsio a hangar yng Nghanolfan Ofod Kennedy; Rhagfyr 2015.

Llwyddodd SpaceX i danio roced a yrrwyd gan danwydd allan o afael y ddaear ac i'r gofod (Falcon 1 in 2008), ac yn ei ôl yn gyfan (Dragon yn 2010).[2]. Dyma'r tro cyntaf i rocedi preifat gwbwlhau'r campau hyn yn llwyddiannus. SpaceX hefyd yw'r unig gwmni preifat hyd yma (2018) i yrru roced i'r Orsaf Ofod Ryngwladol (Dragon yn 2012)[3] a hyd at 2018 roedd wedi gwneud hynny ddeg o weithiau ar gytundeb masnachol gyda NASA.[4].Rhoddodd NASA gytundeb arall i SpaceX yn 2011 - i gludo pobl i'r orsaf a'u dychwelyd yn ddiogel i'r Ddaear. [5]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Kenneth Chang (September 27, 2016). "Elon Musk's Plan: Get Humans to Mars, and Beyond". New York Times. Cyrchwyd 27 Medi 2016.
  2. Stephen Clark (28 Medi 2008). "Sweet Success at Last for Falcon 1 Rocket". Spaceflight Now. Cyrchwyd 1 Mawrth 2017.
  3. Kenneth Chang (25 Mai 2012). "Space X Capsule Docks at Space Station". New York Times. Cyrchwyd 25 Mai 2012.
  4. William Graham (13 Ebrill 2015). "SpaceX Falcon 9 launches CRS-6 Dragon en route to ISS". NASASpaceFlight. Cyrchwyd 15 Mai 2015.
  5. Kirstin Brost (19 Ebrill 2011). "SpaceX Wins NASA Contract to Complete Development of Successor to the Space Shuttle". SpaceX. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-04-26. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2015.