Falls Memories
Llyfr gan Gerry Adams, arweinydd Sinn Féin yw Falls Memories, a gyhoeddwyd yn 1982. Mae'n disgrifio hanes a chymeriadau ardal y Falls Road yng Ngorllewin Belffast, lle ganed yr awdur yn 1948. Mae'n cynnwys hefyd nifer o atgofion personol a detholiad o ganeuon a rhigymau poblogaidd.
Enghraifft o'r canlynol | llyfr |
---|---|
Awdur | Gerry Adams |
Dyddiad cyhoeddi | 1982 |
Er bod Helyntion Gogledd Iwerddon a hanes gwleidyddol y Chwe Sir (Gogledd Iwerddon) yn rhan anorfod o'r deunydd, mae'r pwyslais ar y personol ac mae'n fwy o gyfrol o atgofion a darlun o gymuned unigryw nag o lyfr hanes gwleidyddol. Cafodd ei ddisgrifio gan Paddy Devlin fel llyfr "sy'n llawn o hiwmor diniwed".[1]
Ychwanegir at werth y gyfrol gan y detholiad o ganeuon a rhigymau o'r Falls sy'n britho'r llyfr. Ceir yn ogystal sawl darlun inc gan yr arlunydd Michael McKernon.
Manylion cyhoeddi
golygu- Gerry Adams, Falls Memories (1982; argraffiad newydd, Llyfrau Brandon, 1993). ISBN 0-86322-013-4
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Falls Memories (argraffiad newydd, 1993), adolygiadau'r clawr.