Yr Helyntion
Cyfnod o wrthdaro ethno-wleidyddol yng Ngogledd Iwerddon oedd yr Helyntion (Saesneg: Lua error in Modiwl:Lang at line 15: attempt to index field 'lang_name_table' (a nil value)., Gwyddeleg: Lua error in Modiwl:Lang at line 15: attempt to index field 'lang_name_table' (a nil value).) a barhaodd o ddiwedd y 1960au hyd Gytundeb Gwener y Groglith ym 1998, er bod ychydig o drais ers hynny. Tair carfan y gwrthdaro oedd lluoedd diogelwch y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon, gweriniaethwyr Gwyddelig (gan gynnwys yr IRA) a'r Unoliaethwyr (gan gynnwys yr UDF a'r UDA). Brwydrodd y gweriniaethwyr a'r Unoliaethwyr dros statws cyfansoddiadol Gogledd Iwerddon, a cheisiodd lluoedd diogelwch y ddwy wladwriaeth dawelu'r ymladd (er bod cyhuddiadau bod rhywfaint o gymorth gan Weriniaeth Iwerddon i'r gweriniaethwyr, a chan y DU i'r Unoliaethwyr).
Math o gyfrwng | sectarian violence, Gwrthdaro ethnig |
---|---|
Dyddiad | 1998 |
Lladdwyd | 3,532 |
Dechreuwyd | 1960s |
Daeth i ben | 1998 |
Lleoliad | Gogledd Iwerddon |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Bu brwydro ar draws Gogledd Iwerddon, yn enwedig yn y brifddinas Belffast, rhwng y cymunedau Catholig, a oedd ar y cyfan yn cefnogi'r gweriniaethwyr, a'r cymunedau Protestannaidd, a oedd ar y cyfan yn gefnogol o'r Unoliaethwyr. Bu'r gwrthdaro hefyd yn ymledu i weddill y Deyrnas Unedig ac i Weriniaeth Iwerddon ar ffurf terfysgaeth.
Llyfryddiaeth
golygu- Michael Hughes, Ireland Divided - The Roots of the Modern Irish Problem. Gwasg Prifysgol Cymru, 1994.