Fanny Winifred Edwards
athrawes, llenor plant a dramodydd
(Ailgyfeiriad o Fanny Edwards)
Athrawes, awdures llyfrau plant ac ysgrifennwr dramau oedd Fanny Winifred Edwards (21 Chwefror 1876 – 16 Tachwedd 1959). Roedd yn chwaer i'r bardd William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth) a'r ieuengaf o 12 o blant William Edwards, morwr a'i wraig Jane (née Roberts).
Fanny Winifred Edwards | |
---|---|
Ganwyd | 21 Chwefror 1876 Penrhyndeudraeth |
Bu farw | 16 Tachwedd 1959 Ffestiniog |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athro ysgol, dramodydd, llenor |
Ganwyd ym Mhenrhyndeudraeth, Meirionnydd a fe'i haddysgwyd yn Ysgol Gynradd Penrhyndeudraeth ac yno hefyd y bu'n athrawes cyn ymddeol yn Rhagfyr 1944. Ni phriododd, a bu farw yn Ffestiniog ar 16 Tachwedd 1959.[1]
Ffynonellau
golygu- ↑ Y Bywgraffiadur Ar-lein; adalwyd 4 Mawrth 2016
- Meic Stephens (gol.) (1986) Cydymaith i lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru)