William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth)
Bardd Cymraeg oedd William Thomas Edwards (21 Tachwedd 1863 – 20 Mawrth 1940), neu Gwilym Deudraeth, a gofir yn bennaf fel englynwr bachog a ffraeth.
William Thomas Edwards | |
---|---|
Ffugenw | Gwilym Deudraeth |
Ganwyd | 21 Tachwedd 1863 Caernarfon |
Bu farw | 20 Mawrth 1940 Lerpwl |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, chwarelwr, gorsaf-feistr |
Magwraeth
golyguGaned y bardd yn 'Hen Walia', yn nhref Caernarfon yn 1863 yn un o 11 o blant, ac fe'i magwyd ym mhentref Penrhyndeudraeth, Meirionnydd, Gwynedd. Cymerodd ei enw barddol o'r fro honno. Roedd yr awdures llyfrau plant, Fanny Edwards, yn chwaer iddo. Morwr oedd ei dad a dilynodd Gwilym ef ar un daith o Borthmadog i Ffrainc, ond bu'n sâl yr holl ffordd, diflasodd yn llwyr a rhoddodd y gorau i'r syniad o ddilyn ei dad i'r môr.
Treuliodd ei flynyddoedd gweithio cynnar ymmro Penrhyndeudraeth, gan weithio fel chwarelwr yn Chwarel yr Oakeley, Blaenau Ffestiniog ac wedyn fel gorsaf-feistr gorsaf y Dduallt ar Reilffordd Ffestiniog, lle cafodd fyw yn 'Dduallt House'. Mae nifer o'i englynion yn coffáu ei gyfnod ar y rheilffordd, ac yn tystio i ddiflastod gweithio yn ngorsaf unig y Dduallt (neu 'Rhosllyn', fel y'i gelwid ganddo). Pan adawodd unigeddau Rhosllyn a'i reilffordd sgwennodd yr englyn hwn:
- Ciciwch fi i werthu cocos - neu hyrddiwch
- Fi i Iwerddon i aros,
- 'Waeth ple, i rhywle, i Rhos!
- Put me in Ynys Patmos!
Mae'r englyn ysgafn hwn yn dangos ffraethineb ei gymeriad a'i ddefnydd o iaith y cyfnod, yn hytrach na ieithwedd crefyddol a nodweddai'r cyfnod.
Priododd Harriet, o Lanferes, a symudodd y ddau i Lerpwl lle treuliodd weddill ei oes yn goryfed, yn aelod amlwg a thlawd o'r gymdeithas Gymraeg oedd yno.
Bu farw yn 1940. Ysgrifennodd ei nai, Trefor, gofiant iddo, Bardd yr Awen Barod; roedd Trefor yn Brifathro mewn ysgol breifat yn Llundain.[1]
Llyfryddiaeth
golyguGwaith Gwilym Deudraeth
golyguCyhoeddodd ddwy gyfrol o gerddi:
- Chydig ar Gof a Chadw (1926)
- Yr Awen Barod (1943). Cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth.
Llyfrau amdano
golygu- Trefor Edwards, Bardd yr Awen Barod - Gwilym Deudraeth a Theulu Cambrian View (2003)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.