Ffestiniog

pentref yng Ngwynedd

Pentref, chymuned a phlwyf eglwysig yng Ngwynedd, Cymru, yw Ffestiniog ("Cymorth – Sain" ynganiad ) neu Llan Ffestiniog. Saif rhwng Blaenau Ffestiniog a Maentwrog, yng Nghwm Ffestiniog. O'r pentref ceir golygfeydd braf o'r Moelwynion, Cnicht a bryniau Blaenau. Yn y plwyf ceir Rhaeadr y Cwm a Phwlpud Huw Llwyd ar lan Afon Cynfal.

Ffestiniog
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirFfestiniog Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9552°N 3.9292°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH705415 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Enw ysgol y pentref yw Ysgol Bro Cynfal. Mae un dafarn yn y pentref o'r enw Y Pengwern ac un siop, swyddfa bost a hefyd neuadd bentref. Llan Ffestiniog yw cartref Clwb Golff Ffestiniog.

Trafnidiaeth a Chludiant golygu

Mae cefnffordd de-gogledd yr A470 yn rhedeg drwy'r pentref. Mae gwasanaethau bws rheolaidd yn cysylltu'r pentref gyda Blaenau Ffestiniog a'i orsaf drenau a Phorthmadog a gwasanaeth arall i Ddolgellau. Arferai'r pentref gael ei wasanaethu gan reilffordd o Flaenau Ffestiniog i'r Bala tan yr 1960au.

Traddodiad golygu

Dyma'r fro a gysylltir â Blodeuwedd, Lleu Llaw Gyffes a Gronw Pebr yn y Pedair Cainc y Mabinogi. Gelwir hen garreg ar lan Afon Cynfal, i'r de o'r pentref, yn Llech Ronw. Mae twll ynddi a chredid mai hon oedd y garreg a afaelodd Gronw ynddi i amddiffyn ei hun rhag tafliad gwaywffon Lleu. Dwy filltir i'r gogledd-ddwyrain o'r pentref mae Llyn y Morynion, a gysylltir â morwynion Blodeuwedd a gerllaw iddo mae Beddau Gwŷr Ardudwy.

Enwogion golygu

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Ffestiniog (pob oed) (4,875)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Ffestiniog) (3,689)
  
78.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Ffestiniog) (3670)
  
75.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Ffestiniog) (974)
  
42.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Gweinidogion golygu

  • J. W. Edwards
”14 Rhagfyr 1890 J.W. Edwards, Ffestiniog. Go lew. Nid yw yn fedrus iawn fel traddodwr.”[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Dyddiaduron Fy Nhaid, Owen Hughes, TREGWEHELYTH, Bodedern (Gwasg y Lolfa - argraffiad cyfyngedig)