Andrew Sachs
Actor o Loegr a anwyd yn yr Almaen oedd Andrew Sachs (ganed Andreas Siegfried Sachs; 7 Ebrill 1930 – 23 Tachwedd 2016).[1] Daeth i amlygrwydd ar rhaglenni yn y Deyrnas Unedig ac mae'n fwyaf adnabyddus am ei bortread o'r Sbaenwr Manuel ar Fawlty Towers. Ei rôl ddiweddaraf oedd Ramsay Clegg ar yr opera sebon o Fanceinion, Coronation Street.
Andrew Sachs | |
---|---|
Llais | Andrew Sachs voice.ogg |
Ganwyd | Andreas Siegfried Sachs 7 Ebrill 1930 Berlin |
Bu farw | 23 Tachwedd 2016 Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | digrifwr, actor llais, actor ffilm, actor llwyfan, actor teledu, actor, sgriptiwr, ysgrifennwr |
Priod | Melody Sachs |
Plant | John Sachs, Kate Sachs |
Fe'i ganwyd yn Berlin, yn fab i Katharina (née Schrott-Fiecht) a Hans Emil Sachs. Yn 1938 symudodd y teulu i Lundain er mwyn dianc rhag y Natziaid.
Cafodd ei enwebu am Wobr BAFTA am chwarae rhan Manuel yn Fawlty Towers. Gwnaeth lawer o waith trosleisio yn enwedig fel cyflwynydd rhaglenni dogfenol teledu a radio.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Andrew Sachs, the much loved Fawlty Towers actor, dies age 86. telegraph.co.uk (1 Rhagfyr 2016).