Femke Bol
Athletwr o'r Iseldiroedd yw Femke Bol (ganed 23 Chwefror 2000).[1] Mae hi'n arbenigo mewn rhedeg 400 metr ar y fflat a chlwydi 400 metr. Mae hi wedi ennill medal aur yn y Gemau Olympaidd, y Pencampwriaethau Ewropeaidd a Phencampwriaethau'r Byd.
Femke Bol | |
---|---|
Ganwyd | 23 Chwefror 2000 Amersfoort |
Dinasyddiaeth | Yr Iseldiroedd |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd |
Taldra | 1.84 metr |
Partner | Ben Broeders |
Gwobr/au | Marchog Urdd Orange-Nassau |
Chwaraeon | |
Tîm/au | AV Altis |
Gwlad chwaraeon | Yr Iseldiroedd |
Cafodd Bol ei geni yn Amersfoort, Iseldiroedd.[1]
Gyrfa athletau
golyguEnillodd hi dair medal aur yn ystod y Pencampwriaethau Ewropeaidd 2022 yn Munich. Hi oedd y fenyw gyntaf erioed i ennill y 400m a chlwydi 400m mewn pencampwriaeth mawr.[2]
Enillodd fedal efydd clwydi 400m yng Ngemau Olympaidd 2020 yn Japan.
Ym Mhencampwriaethau'r Byd 2023 cwympodd i lawr ychydig cyn y llinell derfyn yn y ras gyfnewid gymysg 400m. Ond aeth hi ymlaen i ennill medal aur yn y clwydi 400 metr.[3] Wedyn enillodd ras gyfnewid 400m y merched dros ei gwlad ar ôl pasio Prydain Fawr a Jamaica yn y 30 metr olaf.[4]
Enillodd medal aur am ras gyfnewid gymysg 400m yng Nghemau Olympaidd 2024 ym Mharis, ond enillodd fedal efydd yn y ras clwydi 400 metr, wedi colli i Sydney McLaughlin-Levrone o'r Unol Daleithau.[5]
Mae gyda Bol y llysenw "Bambi" oherwydd ei thechneg osgeiddig dros y clwydi.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Bouman, Liselot (9 Awst 2023). "Lees hier alles over atlete Femke Bol" (yn Iseldireg). Runners World. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-08-16. Cyrchwyd 5 Awst 2024.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ 2.0 2.1 McAlister, Sean (7 Medi 2022). "Five things to know about 400m hurdles star Femke Bol". IOC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Medi 2022. Cyrchwyd 6 Awst 2024.
- ↑ Ewing, Lori (24 Awst 2023). "Dutchwoman Bol wins long-awaited gold in 400m hurdles". Reuters (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Awst 2024.
- ↑ "Bol turns relay grief into glory with her grandstand finish" (yn Saesneg). World Athletics. 27 Awst 2023. Cyrchwyd 7 Awst 2024.
- ↑ Agnijeeta Majumder (10 Awst 2024). ""Just the pace was too fast for her profile" - Femke Bol's coach explains Dutch athlete's loss to Sydney McLaughlin-Levrone at Paris Olympics 2024". Sportskeeda. Cyrchwyd 11 Awst 2024.