Gemau Olympaidd yr Haf 2020
Digwyddiad aml-chwaraeon rhyngwladol ydy Gemau Olympaidd yr Haf 2020, a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r XXXII Olympiad ac a gynhelir yn Tokyo, Japan, o 23 Gorffennaf hyd 8 Awst 2021. Yn wreiddiol i fod i gael ei gynnal rhwng 24 Gorffennaf a 9 Awst 2020, gohiriwyd y digwyddiad ym mis Mawrth 2020 oherwydd y pandemig COVID-19.[1] Cynhwyswyd tri deg tri o chwaraeon.
Dinas | Tokyo, Japan |
---|---|
Arwyddair | Unedig gan Emosiwn |
Gwledydd sy'n cystadlu | 206 |
Athletwyr sy'n cystadlu | 11,326 |
Cystadlaethau | 339 mewn 33 o Chwaraeon Olympaidd |
Seremoni Agoriadol | Gorffennaf 23, 2021 |
Seremoni Gloi | Awst 8, 2021 |
Agorwyd yn swyddogol gan | Naruhito, Ymerawdwr Japan |
Cynnau'r Fflam | Naomi Osaka |
Yn y seremoni agoriadol ar 23 Gorffennaf, cafodd y tîm o Brydain Fawr ei hysgrifennu "EIKOKU" (英国) ar y placard ond cyflwynodd y cyhoeddwr NHK y tîm "IGIRISU" ("Lloegr"). Roedd y hwylwraig Cymreig Hannah Mills yn cario'r faner Prydain Fawr, gyda Mohamed Sbihi.[2]. Yn ystod y Gemau, gwnaeth ei chanlyniadau hi'r morwr benywaidd mwyaf llwyddiannus erioed.[3]
Tîm nofio Prydain oedd y mwyaf llwyddiannus erioed, ar ôl ennill pedair medal aur, tair arian ac un efydd.[4]
Oherwydd cyfyngiadau COVID, roedd yn rhaid i'r holl gystadleuwyr ddychwelyd i'w mamwlad cyn pen dau ddiwrnod o'u digwyddiad olaf.
Medalyddion o dîm Prydain Fawr
golygu
|
Diwedd y Gemau
golyguUn o'r enillwyr medalau aur ar y diwrnod olaf oedd y bocsiwr Cymreig Lauren Price.[5] Ar yr un diwrnod, enillodd y seiclwr Jason Kenny seithfed medal aur Olympaidd ei yrfa.[6]
Gorffennodd Prydain Fawr yn bedwerydd yn y tabl medalau, gyda'r un cyfanswm nifer o fedalau ag y gwnaethon nhw ennill yn Llundain yn 2012.
Yn y seremoni gloi'r Olympaidd 2020 ar 8 Awst 2021, pasiodd maer Tokyo y faner Olympaidd i faer Paris, Anne Hidalgo.[7] Cafodd y gair "arigato" (Japaneaidd am "diolch") ei arddangos ar sgrîn anferth wrth i'r athletwyr adael y cae am y tro olaf.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Joint Statement from the International Olympic Committee and the Tokyo 2020 Organising Committee". olympic.org (yn Saesneg). IOC. 24 Mawrth 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Mawrth 2020. Cyrchwyd 25 Mawrth 2020.
- ↑ "Tokyo Olympics opening ceremony: Hannah Mills and rower Mohamed Sbihi to be Team GB flag bearers". BBC (yn Saesneg). 22 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2021.
- ↑ "Aur i Hannah Mills yn yr hwylio yn Tokyo". BBC Cymru Fyw. 4 Awst 2021. Cyrchwyd 5 Awst 2021.
- ↑ Nicola Slawson (2 Awst 2021). "Team GB swimmers come home after most successful Olympics". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 5 Awst 2021.
- ↑ "Live Tokyo 2020, boxing live: GB's Lauren Price wins gold medal fight against Li Qian". Telegraph (yn Saesneg). 8 Awst 2021.
- ↑ McCurry, Justin (8 Awst 2021). "Jason Kenny's seventh gold makes him most decorated GB Olympian". theguardian.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 8 Awst 2021.
- ↑ "Tokyo passes Olympic baton to Paris after imperfect, irrepressible games". NBC News (yn Saesneg). 8 Awst 2021.