Gemau Olympaidd yr Haf 2024
Digwyddiad aml-chwaraeon rhyngwladol ydy Gemau Olympaidd yr Haf 2024, a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r XXXIII Olympiad ac a gynhelir ym Mharis, Ffrainc, o 26 Gorffennaf hyd 11 Awst 2024.[1] Cynhwyswyd tri deg dau o chwaraeon.
Dinas | Tokyo, Japan |
---|---|
Arwyddair | Ouvrons grand les Jeux (Gemau ar agor yn eang) |
Gwledydd sy'n cystadlu | 206 |
Athletwyr sy'n cystadlu | 10,714 |
Cystadlaethau | 339 mewn 33 o Chwaraeon Olympaidd |
Seremoni Agoriadol | Gorffennaf 23, 2021 |
Seremoni Gloi | Awst 8, 2021 |
Agorwyd yn swyddogol gan | Emmanuel Macron, Arlywydd Rfrainc |
Cystadleuodd 68 gwlad gyda phoblogaeth llai na Chymru (gweler isod).
Seremoni agoriadol
golyguCynhaliwyd y seremoni agoriadol yng nghanol Paris. Teithiodd cynrychiolwyr o'r gwledydd oedd yn cystadlu ar hyd yr Afon Seine mewn cwch. Cafwyd perfformiadau gan sawl cerddor a dawnsiwr enwog, gan gynnwys Céline Dion, Lady Gaga, a'r band Gojira.[2]
Medalau
golyguMae gan bob medal yn y Gemau hyn ran o haearn gwreiddiol y Tŵr Eiffel ynddi ar ffurf hecsagon i gynrichioli siâp Ffrainc. Mae ochr ôl y medalau yn dangos Nike (duwies Groeg am fuddugoliaeth) tu fewn i Stadiwm Panathenaic. Dyma lle bu'r Gemau Olympaidd Modern Cyntaf yn 1896. Mae pob medal yn pwyso 455–529g.[3]
Dechrau cystadleuaeth
golyguEnillodd tîm Prydain ei fedal gyntaf ar ddiwrnod cyntaf y gystadleuaeth. Daeth Yasmin Harper a Scarlett Mew Jensen yn drydydd yn y blymio cydamserol gan ennill medal efydd.[4]
Cymry yn y Gemau
golyguRoedd 31 o athletwyr o Gymru'n cystadlu yn y Gemau Olympaidd fel rhan o dîm Prydain yr haf hwn - y nifer fwyaf ers dros ganrif - gan gynnwys enwogion fel Emma Finucane, Jade Jones, Josh Tarling a Jeremiah Azu. Unwaith yn unig y bu mwy na hyn, sef 32 yn Llundain yn 1908, ond bryd hynny 'doedd gan Gymru ddîm tîm hoci yn cystadlu. Roedd 17 o'r 31 yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf.[5]
Y gwledydd a gymerodd ran a'u poblogaeth
golyguDyma restr o'r gwledydd hynny a gymerodd ran yng Ngemau Olympaidd 2024, yn nhrefn eu poblogaeth. Ni chynhwyswyd y Tîm Olympaidd Ffoaduriaid gan mai tabl am boblogaeth yw hwn. Er mwyn cymhariaeth, rydym wedi nodi safle Cymru, gyda'i phoblogaeth (yn 2024) o 3.1 miliwn, er na chystadleuodd Cymru fel gwlad. Pe bai Cymru wedi cymryd rhan, hi fyddai'r 138fed gwlad fwyaf ei phoblogaeth allan o 206 gwlad h.y. roedd 68 gwlad gyda phoblogaeth llai na Chymru'n cymryd rhan.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Butler, Nick (7 Chwefror 2018). "Paris 2024 to start week earlier than planned after IOC approve date change". Inside the Games (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 7 Chwefror 2018.
- ↑ Jazz Monroe, Matthew Strauss. "Lady Gaga, Celine Dion, Gojira, and More Perform at Paris 2024 Olympics Opening Ceremony: Watch". Pitchfork (yn Saesneg). Cyrchwyd 27 Gorffennaf 2024.
- ↑ "Medalau Paris 2024". Olympics.
- ↑ Jonathan Liew (27 Gorffennaf 2024). "Team GB make splash with first medal of Paris Olympics in dramatic diving event". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 27 Gorffennaf 2024.
- ↑ "Y Cymry all ennill medalau yng Ngemau Olympaidd Paris". BBC Cymru Fyw. 24 Gorffennaf 2024.