Fertibra

(Ailgyfeiriad o Fertebra)

Asgwrn onglog yn yr asgwrn cefn ydy fertebra (lluosog: fertebrâu). Mae 33 ohonynt o fewn asgwrn cefn y bod dynol, fel arfer wedi'u gosod mewn trefn arbennig ac sy'n eithaf hyblyg er mwyn i'r corff symud. Mae 5 ohonyn nhw, fodd bynnag yn stiff, yn anhyblyg a gelwir y 5 yma yn fertebrâu sacrol, ac felly hefyd y pedwar ar y gwaelod un, sef fertibrâu'r cwtyn (h.y. cwtyn y cefn).

Fertibra
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o endid anatomegol Edit this on Wikidata
Mathasgwrn afreolaidd, human bone, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Rhan oAsgwrn cefn Edit this on Wikidata
Yn cynnwysbody of vertebra, pedicle of vertebral arch, vertebral foramen, lamina of the vertebral arch, vertebral arch, transverse processes Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r tair rhan uchaf yr asgwrn cefn yn cynnwys: y fertebrâu gyddfol (7 fertebra), y fertebrâu thorasig (12 fertebra) a'r fertebrâu meingefnol (5 fertebra). Ar adegau, ceir un yn ormod neu un fertebra yn brin. Gellir teimlo'r rhan fwyaf ohonynt gyda'r bysedd noeth, a'u cyfri.

Dyma'r teuluoedd o fertebrâu: