Cwtyn y cynffon
Cwtyn y cefn (neu asgwrn cynffon) yw asgwrn bach trionglog ar fôn yr asgwrn cefn mewn bodau dynol ac epaod digynffon. Fe'i lleolir yn union o dan y sacrwm, ac mae'n cael ei gyfansoddi o bedwar fertebra cynffonnol ymasiedig; ond weithiau mae'r nifer un yn llai neu un yn fwy. Mewn tua 5% o'r boblogaeth, mae'r esgyrn yn sownd yn ei gilydd; yn y rhelyw, ceir symudiad bychan rhyngddyn nhw. Tailbone a coccyx yw'r geiriau Saesneg am gwtyn y cefn, yr olaf sy'n dod o'r Hen Roeg am ‘cwcw, y gog’, oherwydd bod cwtyn y cefn yn debyg i big y gog.
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o endid anatomegol ![]() |
Math | asgwrn, asgwrn afreolaidd, endid anatomegol arbennig ![]() |
Rhan o | posterior part of pelvis ![]() |
Cysylltir gyda | Sacrwm, Sacrospinous ligament, Sacrotuberous ligament ![]() |
Yn cynnwys | Co1 vertebra, Co2 vertebra, Co3 vertebra, Co4 vertebra ![]() |
![]() |