Fertigo
Mae fertigo yn gyflwr meddygol ble mae'r person yn teimlo fel pataen nhw neu'r gwrthrychau o'u cwmpas yn symud pan nad ydynt.[1] Mae'n aml yn teimlo fel symudiad o droelli neu siglo. Gall hyn fod yn gysylltiedig â chyfog, chwydu, chwysu, neu anhawster cerdded. Fel arfer, mae'n gwethygu wrth symud y pen. Pendro yw'r math mwyaf cyffredin o bendro.
Delwedd:Vertigo 08018.jpg, Vertigo in objects.jpg | |
Enghraifft o'r canlynol | symptom neu arwydd |
---|---|
Math | arwydd meddygol, pendro |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y clefydau mwyaf cyffredin sy'n achosi fertigo yw fertigo lleoliadol paroxysmaidd diniwed, clefyd Ménière, a labyrinthitis. Mae achosion llai cyffredin yn cynnwys strôc, tiwmorau yr ymenydd, anaf i'r ymenydd, sclerosis ymledol, meigrynau, trawma, a phwysedd afreolaidd rhwng y clustiau canol.[2][3] Gall fertigo ffisiolegol ddigwydd ar ôl bod yn agored i symudiad am gyfnod hir megis ar long neu droelli gyda'r llygaid ar gau.[4][5] Gall achosion eraill gynnwys dod i gysylltiad â thocsinau megis carbon monocsid, alcohol, neu aspirin.[6] Mae fertigo yn broblem mewn rhan o'r system gynteddol. Mae achosion eraill o bendro yn cynnwys presyncope, diffyg cydbwysedd, a phendro amhenodol.[7]
Mae fertigo lleoliadol paroxysmaidd diniwed yn fwy tebygol yn rhywun sy'n cael achosion cyson o fertigo gyda symudiad ac sydd fel arall yn normal rhwng yr achosion hyn. Dylai'r achosion o fertigo barhau am llai nag un munud. Mae'r prawf Dix-Hallpike fel arfer yn achosi cyfnod o symudiad cyflym yn y llygad sy'n cael ei alw'n nystagmus yn y cyflwr hwn. Mewn clefyd Ménière's disease ceir tinitws yn aml, nam ar y clyw, a gall y pyliau o fertigo barhau am dros ugain munud. Gyda labyrinthitis daw'r fertigo yn sydyn ac mae'r nystagmus yn digwydd heb symudiad. Yn y cyflwr hwn gall fertigo barhau am ddyddiau. Dylid ystyried achosion mwy dwys hefyd.[8] Mae hyn yn arbennig o wir os ceir problemau eraill fel gwendid, cur pen, golwg dwbl, neu ddiffrwythdra.
Mae pendro yn effeithio ar tua 20–40% o bobl ar rhyw adeg neu'i gilydd, tra bod tua 7.5–10% yn cael fertigo.[9] Mae tua 5% yn cael fertigo o fewn blwyddyn. Mae'n dod yn fwy cyffredin gydag oedran ac yn effeithio ar fenywod ddwy i dair gwaith yn fwy aml na dynion. Mae fertigo yn gyfrifol am tua 2–3% o ymweliadau i'r uned frys yn y byd datblygedig.[10]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Post, RE; Dickerson, LM (2010). "Dizziness: a diagnostic approach". American Family Physician 82 (4): 361–369. PMID 20704166. http://www.aafp.org/afp/2010/0815/p361.html.
- ↑ Wicks, RE (January 1989). "Alternobaric vertigo: an aeromedical review.". Aviation, Space, and Environmental Medicine 60 (1): 67–72. PMID 2647073.
- ↑ Buttaro, Terry Mahan; Trybulski, JoAnn; Polgar-Bailey, Patricia; Sandberg-Cook, Joanne (2012). Primary Care - E-Book: A Collaborative Practice (yn Saesneg) (arg. 4). Elsevier Health Sciences. t. 354. ISBN 0323075851.
- ↑ Falvo, Donna R. (2014). Medical and psychosocial aspects of chronic illness and disability (arg. 5). Burlington, MA: Jones & Bartlett Learning. t. 273. ISBN 9781449694425.
- ↑ Wardlaw, Joanna M. (2008). Clinical neurology. London: Manson. t. 107. ISBN 9781840765182.
- ↑ Goebel, Joel A. (2008). Practical management of the dizzy patient (arg. 2nd). Philadelphia: Lippincott Williams & Wilkins. t. 97. ISBN 9780781765626.
- ↑ Hogue, JD (June 2015). "Office Evaluation of Dizziness.". Primary Care: Clinics in Office Practice 42 (2): 249–258. doi:10.1016/j.pop.2015.01.004. PMID 25979586.
- ↑ Kerber, KA (2009). "Vertigo and dizziness in the emergency department". Emergency Medicine Clinics of North America 27 (1): 39–50. doi:10.1016/j.emc.2008.09.002. PMC 2676794. PMID 19218018. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2676794.
- ↑ von Brevern, M; Neuhauser, H (2011). "Epidemiological evidence for a link between vertigo & migraine". Journal of Vestibular Research 21 (6): 299–304. doi:10.3233/VES-2011-0423. PMID 22348934.
- ↑ "Vertigo: epidemiologic aspects". Seminars in Neurology 29 (5): 473–81. November 2009. doi:10.1055/s-0029-1241043. PMID 19834858.