Asbrin

(Ailgyfeiriad o Aspirin)

Mae asbrin (hefyd aspirin), neu asid acetylsalicylic (ASA), yn feddyginiaeth a ddefnyddir i drin poen, twymyn neu lid. Ymysg y cyflyrau llidiol penodol y mae asbrin yn cael eu defnyddio ar eu cyfer mae'r afiechyd Kawasaki, pericarditis, a thwymyn riwmatig. Gall asbrin, o'i roi i glaf yn fuan ar ôl trawiad ar y galon, leihau'r risg o farwolaeth. Defnyddir asbrin hefyd fel meddyginiaeth reolaidd tymor hir i helpu i atal trawiad ar y galon, strôc isgemig, a chlotiau gwaed mewn pobl sydd â risg uchel. Gall hefyd leihau'r risg o rai mathau o ganser, yn enwedig canser y colon a'r rectwm.

Asbrin
Delwedd:Acetylsalicylicacid-crystals.jpg, Aspirin.jpg
Enghraifft o'r canlynolmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
Mathcyfansoddyn cemegol Edit this on Wikidata
Màs180.042 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₉h₈o₄ edit this on wikidata
Clefydau i'w trinGorwres, poen, llid, crydcymalau gwynegol, osteoarthritis, gout attack, twymyn gwynegon, acute myocardial infarction, clefyd y galon, ffibriliad atrïaidd, acute coronary syndrome edit this on wikidata
BeichiogrwyddCategori beichiogrwydd awstralia c, categori beichiogrwydd unol daleithiau america c edit this on wikidata
Label brodorolAcidum acetylsalicylicum Edit this on Wikidata
Yn cynnwysocsigen, carbon, hydrogen Edit this on Wikidata
Enw brodorolAcidum acetylsalicylicum Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Asbrin
Aspirin
Enghraifft o'r canlynolmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
Mathcyfansoddyn cemegol Edit this on Wikidata
Màs180.042 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₉h₈o₄ edit this on wikidata
Clefydau i'w trinGorwres, poen, llid, crydcymalau gwynegol, osteoarthritis, gout attack, twymyn gwynegon, acute myocardial infarction, clefyd y galon, ffibriliad atrïaidd, acute coronary syndrome edit this on wikidata
BeichiogrwyddCategori beichiogrwydd awstralia c, categori beichiogrwydd unol daleithiau america c edit this on wikidata
Label brodorolAcidum acetylsalicylicum Edit this on Wikidata
Yn cynnwysocsigen, carbon, hydrogen Edit this on Wikidata
Enw brodorolAcidum acetylsalicylicum Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ar gyfer poen neu dwymyn, mae effaith asbrin, fel arfer, yn dechrau o fewn 30 munud. Mae asbrin yn gyffur gwrthlid ansteroidal (NSAID) ac mae'n gweithio'n debyg i NSAIDau eraill ond hefyd yn atal gweithrediad arferol platennau.[1]

Defnydd

golygu

Mae asbrin yn analgesia effeithiol ar gyfer poen difrifol, ond fe'i hystyrir yn israddol i ibuprofen i liniaru poen yn gyffredinol oherwydd bod asbrin yn fwy tebygol o achosi gwaedu yn y stumog neu'r coluddion. Fel gyda NSAIDs eraill, mae cyfuniadau o asbrin a chaffein yn gallu lleddfu poen ychydig yn fwy nag asbrin yn unig. Mae fformwleiddiadau o asbrin eferw, megis Alka-Seltzer, yn lleddfu poen yn gyflymach nag asbrin mewn tabledi caled, sy'n eu gwneud yn ddefnyddiol i drin y meigryn. Gall aspirin argroenol fod yn effeithiol ar gyfer trin rhai mathau o boenau niwropathig.

Ymysg y cyflyrau poen cyffredinol y mae asbrin yn cael ei ddefnyddio i'w trin yw'r danodd a phoenau'r misglwyf.[2]

Cur pen

golygu

Mae asbrin, naill ai ar ei ben ei hun neu mewn ffurfiad cyfunol, yn trin rhai mathau o gur pen yn effeithiol, ond ni fydd mor effeithiol ar gyfer eraill.

Mae'r Dosbarthiad Rhyngwladol o Anhwylderau Cur Pen Ymhlith y cur pen cynradd, yn gwahaniaethu rhwng cur pen tensiwn (y mwyaf cyffredin), meigryn a chur pen clwstwr. Mae asbrin neu analgyddion eraill dros y cownter yn cael eu cydnabod yn eang yn effeithiol ar gyfer trin pen tensiwn. Mae asbrin, yn enwedig fel elfen o gyfuniad asbrin / parasetamol / caffein, yn cael ei ystyried yn therapi llinell gyntaf wrth drin y meigryn, yn arbennig wrth i ymosodiad cychwyn.

Os achosir cur pen gan drawma, dylid ymofyn triniaeth feddygol broffesiynol yn hytrach na'i drin eich hunan gyda dos o boenliniarydd dros y cownter, megis asbrin.

Y Dwymyn

golygu

Mae asbrin yn cael ei ddefnyddio i leihau tymheredd uchel yn y corff. Er ei fod wedi ei hen sefydlu fel moddion i drin y dwymyn mewn oedolion, mae llawer o gymdeithasau meddygol ac asiantaethau rheoleiddiol yn cynghori yn gryf yn erbyn defnyddio asbrin ar gyfer trin twymyn mewn plant a phobl ifanc o dan 16 mlwydd oed. Mae yna risg o ddatblygu syndrom Reye, salwch prin, ond yn aml yn angheuol, sy'n gysylltiedig â defnyddio asbrin neu salicylatau eraill mewn plant yn ystod cyfnodau o haint firaol neu facteriol.[3]

Defnyddir asbrin fel asiant gwrthlidiol ar gyfer llid difrifol a hirdymor, yn ogystal â thrin clefydau llidiol fel rhiwmatig a'r gwynegon.

Teneuo'r gwaed

golygu

Mae triniaeth hirdymor gyda dosau isel o asbrin - 75mg fel arfer - yn cael effaith ar y platennau gan wneud y gwaed yn llai gludiog ac yn gallu atal clotiau gwaed rhag datblygu. Gan hynny bydd meddygon yn argymell ei ddefnydd gan bobl sydd wedi dioddef o drawiad ar y galon neu angina, strôc neu ymosodiad isgemig dros dro (TIA), clefyd rhydweli ymylol (PAD) neu lawdriniaeth osgoi rhydweli coronaidd neu weithred arall ar y galon neu'r pibellau gwaed.

Sgil effeithiau

golygu

Cyffredin

golygu
  • Camdreuliad neu boen bol - gall cymryd y feddyginiaeth gyda bwyd helpu i leihau'r perygl hwn
  • Gwaedu neu gleisio yn haws nac arfer

Llai cyffredin

golygu
  • Llosg dynad - brech boeth sy'n codi'n gyflym
  • Tinitws (y gloch fach / canu yn y glust) - clywed synau sy'n dod o du fewn y glust
  • Anawsterau anadlu neu ymosodiad asthma
  • Adwaith alergaidd - gall hyn achosi problemau anadlu, chwyddo'r geg, gwefusau neu wddf, a brech sydyn
  • Gwaedu yn y stumog - gall hyn achosi carthion tywyll, lliw tar neu waedu wrth chwydu
  • Gwaedlif ar yr ymennydd - gall hyn achosi cur pen sydyn, difrifol, problemau golwg a symptomau strôc, megis lleferydd a gwendid ar un ochr i'r corff

Cyfeiriadau

golygu
  1. Drugs.com. American Society of Health-System Pharmacists. 6 mehefin 2016 Aspirin adalwyd 13 Ionawr 2016
  2. "NHS:Aspirin". Llywodraeth y DU. 06/05/2016. Cyrchwyd 13 Ionawr 2018. Check date values in: |date= (help)
  3. NHS UK Reyes syndrome adalwyd 13 Ionawr 2018

Rhybudd Cyngor Meddygol

golygu


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!