Mae tinitws yn symptom meddygol lle mae unigolyn yn clywed seiniau sy'n deillio o fewn y corff, yn hytrach nag o ffynhonnell allanol. Nid cyflwr iechyd mohono ond symptom o gyflyrau eraill gan gynnwys trymder clyw, trawma i'r pen, haint yn y glust a gormodedd o wêr yn y glust[1].

Tinitws
Enghraifft o'r canlynolproblem iechyd, symptom neu arwydd Edit this on Wikidata
Mathnam ar y clyw, symptom y glust Edit this on Wikidata
Arbenigedd meddygolOtorhinolaryngoleg edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Enwau Cymraeg golygu

Mae ymadroddion Cymraeg eraill am tinitws yn cynnwys:

  • Y glust soniarus[2]
  • Y gloch fach[3]
  • Merwino yn y glust
  • Tingo'r glust [4]
  • Canu yn y glust
 
Y gloch fach (hen enw Cymraeg am dinitws)

Symptomau cyffredin golygu

Er bod tinitws yn cael ei alw'n Gymraeg a'i disgrifio mewn ieithoedd eraill yn canu yn y glust gall y sawl sy'n byw efo'r cyflwr clywed sawl sŵn, gan gynnwys sïo, grwnian, hymian, mwmian, crensian, llifanu, sisiad, hisian, chwythu a chwibanu. Bydd rhai pobl yn clywed seiniau sy'n debyg i gerddoriaeth neu ganu, ac mae eraill yn clywed synau sy'n curo mewn amser gyda'u pwls (tinitws trawiadol); bydd eraill yn clywed lleisiau aneglur. Gallai'r sŵn bod yn feddal neu'n uchel, a gall y sain bod yn uchel neu'n isel. Bydd rhai pobl yn clywed y sŵn mewn un glust yn unig, bydd eraill yn ei glywed yn y naill glust a'r llall ar wahanol adegau ac eraill eto yn ei glywed yn y ddwy glust ar yr un pryd[5].

Yn anaml bydd tinitws yn symptom o gyflwr gwael difrifol. Yn y rhan fwyaf o bobl mae'n symptom sy'n para am ddim ond ychydig o amser ar y tro ac sy'n dŵad a mynd. Ond mewn rhai cleifion gall bod yn barhaus gan gael effaith andwyol ar sylwedd bywyd pobl. Gall achosion difrifol fod yn ofidus iawn, gan effeithio ar y gallu i ganolbwyntio, ac yn achosi problemau megis anhunedd ac iselder ysbryd.

Be sy'n achosi tinitws? golygu

Nid yw'n gwbl eglur yn union beth sy'n achosi tinitws, ond credir ei fod yn broblem gyda sut mae'r glust yn clywed sain a sut mae'r ymennydd yn ei dehongli.

Mae llawer o achosion yn gysylltiedig â cholli clyw sy'n cael ei achosi gan ddifrod i'r glust fewnol. Mae sŵn yn pasio o'r glust allanol i mewn i'r glust fewnol. Mae'r clust mewnol yn cynnwys y cochlea a'r nerf clywol. Mae'r cochlea yn diwb troellog, sy'n cynnwys nifer fawr o gelloedd gwallt sensitif. Mae'r nerf clywedol yn trosglwyddo signalau sain i'r ymennydd.

Os bydd rhan o'r cochlea yn cael ei ddifrodi, bydd yn methu danfon gwybodaeth gyflawn i'r ymennydd. Gall yr ymennydd wedyn fynd ati i "chwilio" am arwyddion o rannau o'r cochlea sy'n dal i weithio. Gallai'r arwyddion hyn wedyn gael eu gorgynrychioli yn yr ymennydd, a gallai hyn achosi synau tinitws.

Mewn pobl hyn, mae difrod i'r cochlea yn aml yn digwydd yn naturiol gydag oedran. Mewn pobl iau, gellir ei achosi trwy wrando ar ormodedd o sŵn uchel.

Achosion eraill golygu

Yn ogystal â difrod y glust mewnol, mae nifer o achosion posib eraill o dinitws. Gan gynnwys:

Triniaethau golygu

Bydd bron pawb yn profi tinitws yn achlysurol am gyfnodau byr iawn; yn y rhan fwyaf o achosion does dim angen gwneud dim ond gadael i'r profiad mynd heibio. Pan fo tinitws yn cael ei achosi gan gyflwr gellir ei drin, trin y cyflwr bydd ei angen yn hytrach na cheisio trin y tinitws. Er enghraifft rhoi gwrthfiotig i wella haint yn y glust neu lanhau gormodedd o ŵer o'r glust.

Y driniaeth sydd i'w gweld i weithio gorau ar gyfer tinitws yw math o gwnsela o'r enw Therapi Gwybyddol Ymddygiadol. Mae'n lleihau faint o straen y mae'r rhai â thinitws yn teimlo. Mae therapi derbyn ac ymrwymiad hefyd yn dangos addewid wrth drin tinitws. Gall technegau ymlacio hefyd profi'n ddefnyddiol.

Mae peiriannau masgio tinitws yn ystod o ddyfeisiadau sy'n creu sŵn gwyn syml sy'n cael eu defnyddio i ychwanegu sain naturiol neu artiffisial i mewn i amgylchedd y sawl sy'n dioddef er mwyn orchuddio'r canu[7].

Cyfeiriadau golygu

  1. NHS UK Tinnitus adalwyd 13 Ionawr 2018
  2. Geiriadur y Brifysgol term ymchwil = soniarus adalwyd 13 Ionawr 2018
  3. Geiriadur yr Academi term ymchwil = tinnitus adalwyd 13 Ionawr 2018
  4. Daniel Silvan Evans An English and Welsh Dictionary (1847-1858)
  5. National Institute on Deafness and Other Communication Disorders: Tinnitus adalwyd 13 Ionawr 2018
  6. MedlinePlus:Tinnitus
  7. Vernon J. (1976) "The use of masking for relief of tinnitus". Yn: Silverstein H, Norrell H, gol. Neurological Surgery of the Ear: Volume II. Birmingham: Aesculapius Publishing, 104–118

Rhybudd Cyngor Meddygol golygu


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!