Ffenestri (band)
Band pop Cymreig
Band synthpop Cymreig o'r 1980au oedd Ffenestri. Aelodau'r band oedd Martyn Geraint a Geraint James. Rhyddhaodd y band un albwm, Y Tymhorau ar label Fflach.
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | band ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1984 ![]() |
Genre | synthpop ![]() |
Yn cynnwys | Martyn Geraint ![]() |
Fe ganodd Ffenestri mewn dros gant o gyngherddau dros Gymru rhwng 1984 a 1988. Chwaraeodd y band eu gig olaf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd 1988. Ailffurfiodd y band yng Nghorffennaf 2017 i chwarae yn "Gŵyl Arall" yng Nghaernarfon.
Aeth Martyn Geraint ymlaen i fod yn actor a chyflwynydd teledu plant ar S4C. Dechreuodd Geraint James yrfa fel cyfrifydd yn 1989.[1]
DisgyddiaethGolygu
- Y Tymhorau (Recordiau Fflach, RH 001, 1985)
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Oes y Cyfrifiaduron. Daflog (30 Awst 2011). Adalwyd ar 2 Chwefror 2017.