Martyn Geraint

Actor a canwr o Gymro

Actor, cerddor a chyflwynydd teledu yw Martyn Geraint (ganwyd Mehefin 1963).

Martyn Geraint
GanwydMehefin 1963 Edit this on Wikidata
Wdig Edit this on Wikidata
Man preswylPontypridd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, ysgrifennwr, cyflwynydd teledu, cerddor Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Martyn yn Wdig ger Abergwaun a symudodd i Bontypridd pan oedd yn blentyn. Mynychodd Ysgol Gynradd Pont Siôn Norton ac Ysgol Gyfun Rhydfelen lle roedd yn brif ddisgybl.

Roedd yn chwarae allweddellau i'r band Treiglad Pherffaith. Ffurfiodd y band Ffenestri gyda Geraint James, gan berfformio rhwng 1984 a 1988 a ryddhau un albwm. Ail-ffurfiwyd y band ar gyfer achlysuron arbennig yn 2017.

Gyrfa golygu

Wedi gadael y coleg aeth i weithio fel cyflwynydd teledu ar raglenni fel Pen a Chynffon. Daeth yn wyneb cyfarwydd ar raglenni plant fel Ffalabalam a cyflwynodd Slot Meithrin ac yna Planed Plant Bach ar S4C am 15 mlynedd. Cyfansoddodd nifer fawr o ganeuon gwreiddiol ar gyfer plant bach yn y cyfnod yma. Bu hefyd yn cyflwyno Dechrau Canu, Dechrau Canmol am 3 blynedd.

Yn 1987, ymddangosodd fel Vinny yng nghyfres wreiddiol Doctor Who, yn y stori "Delta and the Bannermen" oedd wedi ei leoli ar wersyll gwyliau yng Nghymru y 1950au. Yn y 1990au chwaraeodd 'Hedd' ym Mhobol y Cwm. Bu hefyd yn chwarae rhannau mewn pantomeimau ac ers 1993 mae'n cynhyrchu pantomeim Cymraeg ei hun.[1]

Mae wedi sgrifennu nofelau ar gyfer pobl ifanc yn cynnwys Sêr y Nos ac O Ongl Arall.

Bywyd personol golygu

Mae'n briod â Bethan ac yn dad i 3 o blant. Mae'n byw ym Mhontypridd.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1  Llais y Llywydd: Martyn Geraint. Urdd Gobaith Cymru. Adalwyd ar 26 Tachwedd 2018.

Dolenni allanol golygu