Ffenoleg
Dywedodd Golygydd Geiriadur Prifysgol Cymru Andrew Hawke yn 2019 wrth brosiect Llên Natur bod “tystiolaeth i'r term ffenoleg yn brin iawn (bron yn gyfyngedig i Llên Natur)”, ond meddai “rwy'n cytuno y dylai gyrraedd GPC”. Prin efallai yw'r ddealltwriaeth o ystyr phenology yn Saesneg yn ogystal. Felly dyma gynnig ar lunio diffiniad Cymraeg, fel addasiad o ddiffiniad geiriadur Saesneg Collins: ‘Yr astudiaeth o ffenomenáu dychweledig, megis ymfudo anifeiliaid, blodeuo planhigion, yn enwedig dan ddylanwad amodau hinsoddol a thymhorol, a'r tywydd yn gysylltiedig a’r amodau hynny’. (‘The study of recurring phenomena, such as animal migration, esp as influenced by climatic conditions’)