Ffenomenoleg
Athroniaeth yw ffenomenoleg sy'n ceisio deall ffenomenau drwy brofiad yr ymwybod, heb ddamcaniaethau achosol nac ychwaith ragdybiaethau a rhagsyniadau.
Datblygodd y mudiad ffenomenolegol ar ddechrau'r 20g, yn bennaf dan ddylanwad Edmund Husserl. Pwysleisiodd Husserl sythwelediad yn hytrach na dadansoddiad wrth ddisgrifio'r profiad goddrychol, gan wahaniaethu ffenomenoleg oddi ar empiriaeth a rhesymeg ddiddwythol. Ymhlith athronwyr eraill yr ysgol feddwl hon mae Roman Ingarden, Max Scheler, Emmanuel Levinas, a Marvin Farber. Cafodd ffenomenoleg cryn ddylanwad ar ddirfodaeth.