Ffont
Maint o deip yw ffont (lluosog: ffontiau) neu ffownt (lluosog: ffowntiau).[1] Ers y 1980au datblygodd y term yn sgil dyfodiad cyfrifiaduron a'r gallu i addasu nodweddion teipiau megis uchder, pwysau, a goleddf yn hawdd. Wrth i bobl gyffredin dod yn gyfarwydd â theipograffeg trwy deipiau cyfrifiadurol, heddiw defnyddir y gair "ffont" yn aml yn gyfystyr â'r termau teip, ffurfdeip neu wyneb.

Ffontiau gwahanol o'r teip Helvetica Neue.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Geiriadur yr Academi, [fount].