Ffos Noddun

ceunant ger Betws y Coed

Ceunant cul diarffordd ar Afon Conwy yw Ffos Noddun, Ffos Noddum neu Ffos Anoddun (Saesneg: Fairy Glen) a leolir ar gyrion Betws-y-Coed, Conwy, yng ngogledd Cymru. Gelwir y coetir hynafol o'i hamgylch yn Goed Ffos Noddum, a ddynodir yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Man brydferth boblogaidd ydyw sydd yn denu nifer o dwristiaid. Saif gwesty'r Fairy Glen a'i faes parcio gerllaw, ar ochr yr A470, ac mae modd cyrraedd Ffos Noddun drwy ddilyn llwybr ar draws tir preifat. Gofynnir i ymwelwyr dalu ffi fechan mewn blwch. Mae Pont yr Afanc, pont restredig Gradd II ym Mro Garmon, yn croesi Afon Conwy yn agos iawn at Ffos Noddun.

Ffos Noddun
Trem ar Ffos Noddun, yn edrych i fyny'r afon tuag at Raeadr y Graig Lwyd.
Mathceunant Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBetws-y-coed Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.067621°N 3.783286°W, 53.067237°N 3.782108°W Edit this on Wikidata
Map
Ffos Noddun

Cyfansoddwyd cerdd Saesneg am Ffos Noddun gan Wilhelmina Stitch ym 1925.

Hen engrafiad yn portreadu dau ddyn a merch yn Ffos Noddun (tua 1860).

Cyfeiriadau golygu