Ffrwydrad Maes Awyr Kabul
Ymosodiad terfysgol yn dilyn Ymgyrch ymosodol y Taleban (2021) ac a darodd un o fynedfeydd Maes Awyr Rhyngwladol Hamid Karzai yn Kabul, prifddinas Affganistan, oedd ffrwydrad Maes Awyr Kabul a achoswyd gan hunan-fomiwr o'r Wladwriaeth Islamaidd yn Khorasan (IS-K) yn tanio'i fest ffrwydrol am 17:50 o'r gloch (Amser Affganistan) ar Ddydd Iau, 26 Awst 2021. Digwyddodd y ffrwydrad wrth i awyrgludiadau o Kabul i wledydd y Gorllewin barhau yn sgil cwymp Kabul i luoedd y Taleban ar 15 Awst, ac mae'n debyg i'r terfysgwr felly dargedu'r ceiswyr lloches a'r tramorwyr a oedd yn ymgynnull ar gyrion y maes awyr. Bu farw tua 180 o bobl. Hawliodd IS-K ei bod yn gyfrifol am y derfysgaeth hon.[1]
Enghraifft o'r canlynol | hunanfomio, ymosodiad terfysgol cydgysylltiedig, saethu torfol |
---|---|
Dyddiad | 26 Awst 2021 |
Lladdwyd | 182 |
Rhan o | Islamic State–Taliban conflict |
Lleoliad | Maes Awyr Rhyngwladol Hamid Karzai |
Gwladwriaeth | Affganistan |
Rhanbarth | Kabul |
Ychydig oriau cyn y ffrwydrad, rhybuddiodd llywodraethau y Gorllewin i'w dinasyddion beidio â mynd i'r maes awyr wedi iddynt dderbyn cudd-wybodaeth yn awgrymu bod bygythiad difrifol o derfysgwyr yn targedu'r awyrgludiadau.[2] Yn fuan wedi'r ymosodiad, honnodd y Pentagon i ail ffrwydrad ddigwydd mewn gwesty gerllaw'r maes awyr, ond trannoeth cywirwyd hynny gan gyhoeddi darfu dim ond yr un ffrwydrad, a hynny ger mynedfa'r maes awyr.[1]
Ymhlith y meirw roedd 13 o luoedd Unol Daleithiau America, sef y nifer fwyaf o Americanwyr i'w lladd yn Affganistan ers 2011. Mewn ymateb, lansiwyd cyrch awyr gan yr Unol Daleithiau yn erbyn tri aelod honedig o IS-K yn Nangarhar ar 27 Awst, gan ladd dau ohonynt. Cafodd y cyrch Americanaidd ei gondemnio gan y Taleban fel "ymosodiad clir ar diriogaeth Affganistan".[3]
Cyfeiriadau golygu
- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) "Pentagon says Kabul airport attack carried out by one suicide bomber", France 24 (27 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 4 Medi 2021.
- ↑ (Saesneg) "Kabul airport attack: What do we know?", BBC (27 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 4 Medi 2021.
- ↑ (Saesneg) "Biden promises more strikes against ISIL-affiliate in Afghanistan", Al Jazeera (28 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 28 Awst 2021.