Kabul
Prifddinas Affganistan yw Kabul. Fe'i lleolir yng ngogledd-ddwyrain y wlad, 1830m (6000 troedfed) uwchben lefel y môr ar lannau Afon Kabul.
![]() | |
Math |
prifddinas, dinas, dinas fawr, dinas â miliynau o drigolion ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl |
Afon Kabul ![]() |
| |
Poblogaeth |
3,678,034 ![]() |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser |
بث +00:00 ![]() |
Gefeilldref/i |
Tehran, Istanbul ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Kabul ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
275 km² ![]() |
Uwch y môr |
1,790 metr ![]() |
Gerllaw |
Afon Kabul ![]() |
Cyfesurynnau |
34.5328°N 69.1658°E ![]() |
![]() | |
Mae Kabul yn ddinas hynafol iawn. Mae ei hanes yn dechrau 3000 o flynyddoedd yn ôl ac mae wedi cael ei dinistrio a'i hailgodi nifer o weithiau. Mae lleoliad y ddinas ar y groesffordd rhwng de a gogledd y wlad a'i safle strategaidd yn gwarchod y mynedfa i Fwlch Khyber a'r ffordd hynafol i is-gyfandir India yn golygu fod pob goresgynydd yn ceisio ei meddiannu a'i hamddiffyn. Dyna fu ei thynged pan safai yn llwybr Alecsander Mawr o Facedon a Genghis Khan, er enghraifft.
Am gyfnod Kabul oedd prifddinas Ymerodraeth y Mogwliaid (1504 - 1738) cyn iddi gael ei symud i Ddelhi. Daeth yn brifddinas Affganistan yn 1773.
Bu'n dyst i ymyrraeth yr Undeb Sofietaidd yn y wlad ar ddiwedd y 1970au ac yn bencadlys i lywodraeth ffwndamentalaidd y Taleban. Dioddefodd rhannau o'r ddinas gryn ddifrod pan ymsododd lluoedd yr Unol Daleithiau arni i ddymchwel llywodraeth y Taleban yn 2001.