Ffrwydrad llysgenhadaeth Denmarc yn Islamabad

Ymosodiad ar lysgenhadaeth Denmarc yn Islamabad, Pacistan, ar 2 Mehefin, 2008 oedd ffrwydrad llysgenhadaeth Denmarc. Bu farw o leiaf pum person ac anafwyd nifer mwy ar ôl i hunanfomiwr mewn car ffrwydro'i hunan am tua 12:10 pm (UTC+5). Diddwythodd PET, asiantaeth wybodaeth diogelwch cenedlaethol Denmarc, taw al-Qaeda oedd tu ôl i'r ymosodiad;[1] cyfaddefodd al-Qaeda eu bod yn gyfrifol am yr ymosodiad ar 5 Mehefin, 2008.[2] Roedd y ffrwydrad yn ymateb i ail-argraffiad cartwnau Muhammad y papur newydd Daneg Jyllands-Posten yn Chwefror 2006 yn ogystal â phresenoldeb lluoedd Danaidd yn Affganistan.[3]

Ffrwydrad llysgenhadaeth Denmarc yn Islamabad
Math o gyfrwnghunanfomio mewn car Edit this on Wikidata
Dyddiad2008 Edit this on Wikidata
LladdwydEdit this on Wikidata
LleoliadIslamabad Edit this on Wikidata
Map

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Daneg) PET: Al Qaida står bag. Jyllands-Posten (2 Mehefin, 2008). Adalwyd ar 10 Hydref, 2008.
  2. (Saesneg) 'Al-Qaeda' claims embassy blast. Al Jazeera English (5 Mehefin, 2008). Adalwyd ar 10 Hydref, 2008.
  3. (Saesneg) Al-Qaida claims it attacked Denmark Embassy. MSNBC (2 Mehefin, 2008). Adalwyd ar 10 Hydref, 2008.