Ffrwydradau Volgograd, Rhagfyr 2013
Dau achos o hunanfomio yn ninas Volgograd yn ne Rwsia oedd ffrwydradau Volgograd ar 29 a 30 Rhagfyr 2013. Tarodd yr hunanfomiwr cyntaf orsaf reilffordd Volgograd am 12:45 amser lleol ar 29 Rhagfyr gan ladd 18 o bobl ac anafu o leiaf 44. Y diwrnod wedyn, ffrwydrodd bws trydan am 8:30 gan ladd 16 o bobl ac anafu o leiaf 41. Ni wyddys pwy oedd tu ôl i'r ymosodiadau, ond credir taw ymwahanwyr Tsietsniaidd, o bosib Emiraeth y Cawcasws, ydynt yn ceisio amharu ar Gemau Olympaidd y Gaeaf 2014 yn Sochi.[1]
Enghraifft o'r canlynol | hunanfomio, bus bombing |
---|---|
Dyddiad | 30 Rhagfyr 2013 |
Lladdwyd | 34 |
Dechreuwyd | 29 Rhagfyr 2013 |
Daeth i ben | 30 Rhagfyr 2013 |
Lleoliad | Volgograd railway station |
Rhanbarth | Volgograd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Bombings in Russia's Volgograd: What might be behind the attacks?. CNN (31 Rhagfyr 2013). Adalwyd ar 1 Ionawr 2014.