Ffurf Llywodraeth Eglwysig Bresbyteraidd
Dogfen a luniwyd gan Gymanfa Westminster sydd yn ymdrin â llywodraeth Bresbyteraidd yw Ffurf Llywodraeth Eglwysig Bresbyteraidd (Saesneg: The Form of Presbyterial Church Government). Rhan o Safonau Westminster ydyw ac fe'i mabwysiadwyd gan Eglwys yr Alban ym 1645.
Enghraifft o'r canlynol | dogfen |
---|---|
Awdur | Cymanfa Westminster |
Rhan o | Westminster Standards |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cynnwys
golyguSwyddogion yr eglwys
golyguMae Ffurf Llywodraeth Eglwysig Bresbyteraidd yn disgrifio pedwar math o swyddog: gweinidogion/bugeiliaid, athrawon/doethuriaid, henduriaid a diaconiaid.
"Gweinidog yr Efengyl" yw bugail, ac un sydd "yn rhagori'n fwy wrth eglurhau'r Ysgrythurau, wrth ddysgu athrawiaeth iachus ac wrth argyhoeddi gwadwyr nac y mae wrth weithredu". Athrawon diwinyddol yw'r doethuriaid yn y bôn, "o ddefnydd ardderchocaf mewn ysgolion a phrifysgolion". Mae'r henadur yn wahanol i'r gweinidog ac mae ganddo ran yn llwywodraeth yr eglwys. Dylai'r diacon "ofalu'n arbennig wrth rannu'r hyn sydd ei angen â'r tlodion".
Strwythur yr eglwys
golyguDisgrifia Ffurf Llywodraeth Eglwysig Bresbyteraidd sut y dylid rhannu'r Eglwys yn gynulleidfaoedd, fel arfer "fesul ffiniau priodol eu cartrefi". Dylai fod o leiaf un gweinidog i bob cynulleidfa yn ogystal ag eraill i lywodraethu. Dylai'r rhai hyn gyfarfod yn gyson a'r gweinidog yn "gymedrolwr" y cyfarfodydd. Enwir hyn yn "gynulliad cynulleidfaol".
Hefyd, mae'r Ffurf yn dadlau dros gorff o'r enw'r "henaduriaeth" neu'r "cynulliad clasurol", a ddylai gynnwys weinidogion a henaduriaid a goruchwylio nifer o gynulleidfaoedd.
Y "cynulliad synodol" yw'r tryddydd math o gynlliad, sydd uwchben lefel yr henaduriaeth.
Ordeinio
golyguMae rhan olaf y ddogfen yn disgrifio sut y dylai'r henduriaeth ordeinio gweinidogion. Mae'n pennu oedran isaf gweinidogion yn 24 ac yn cynnwys rhestr gynhwysfawr o bwyntiau y dylid arholi ymgeisydd arnynt.
Dolen allanol
golygu- The Form of Presbyterial Church Government Archifwyd 2019-04-06 yn y Peiriant Wayback