Cymanfa Westminster

Cyngor o ddiwinyddion ac aelodau o Senedd Lloegr oedd Cymanfa Diwinyddion Westminster, a benodwyd er mwyn ailstrwythuro Eglwys Loegr mewn cyfres o gyfarfodydd rhwng 1643 a 1653. Saeson oedd y mwyfrif o'r diwinyddion, ond mynychodd sawl Albanwr hefyd a mabwysiadwyd gwaith y Gymanfa gan Eglwys yr Alban. Cymaint â 121 o weinidogion a alwyd i'r Gymanfa a 19 arall a ddaeth wedyn i gymryd lle'r rhai na fynychasant neu na allent barhau i fynychu. Lluniasant Ffurf Llywodraeth Eglwysig, Cyffes Ffydd (datganiad o gred), dau gatecism (llawlyfrau hyfforddiant crefyddol), sef y Mwyaf a'r Lleiaf, a Chyfarwyddiadur Addoliad Cyhoeddus, i gyd at ddefnydd Eglwysi Lloegr a'r Alban. Derbyniwyd y Gyffes a'r catecismau fel safonau athrawiaeth Eglwys yr Alban ac eglwysi Presbyteraidd eraill, lle y maent yn parhau i gael eu defnyddio hyd heddiw. Defnyddiwyd fersiynau diwygiedig o'r Gyffes mewn eglwysi'r Cynulleidfawyr a'r Bedyddwyr yn Lloegr a Lloegr Newydd yn yr 17il a'r 18goedd. Bu dylanwad y Gyffes i'w weld yn y byd Saesneg, ond yn enwedig yn niwinyddiaeth Protestannaidd America.

Cymanfa Westminster
Enghraifft o'r canlynolsynod Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1 Gorffennaf 1643 Edit this on Wikidata
Daeth i ben1650s Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
A painting of the Westminster Assembly in session. Philip Nye is standing and gesturing. Various figures are seated around a table. Prolocutor William Twisse is seated on a raised platform.
Darlunia'r llun hwn gan John Rogers Herbert araith arbennig o ddadleuol gerbron y Gymanfa gan Philip Nye yn erbyn llywodraeth eglwysig Bresbyteraidd.[1]

Galwyd y Gymanfa gan y Senedd Faith cyn ac yn ystod dechrau Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr. Roedd y Senedd Faith dan ddylanwad Piwritaniaeth, mudiad crefyddol a geisiai ddiwygio'r Eglwys ymhellach. Roedd y Piwritaniaid yn erbyn polisïau'r Brenin Siarl I a William Laud, Archesgob Caergaint. Fel rhan o gynghrair filwrol â'r Alban, cytunodd y Senedd y byddai canlyniad y Gymanfa yn dod ag Eglwys Loegr yn nes at gydymffurfio ag Eglwys yr Alban. Roedd Eglwys yr Alban yn cael ei llywodraethu gan gyfundrefn o gymanfaoedd etholedig o henaduriaid o'r enw Presbyteriaeth, yn hytrach na chael ei rheoli gan esgobion, sef trefn Eglwys Loegr. Mynychai comisiynwyr o'r Alban y Gymanfa a'i chyngori fel rhan o'r cytundeb. Bu i anghydfod am lwyodraeth eglwysig achosi rhwyg agored yn y Gymanfa, er gwaethaf ymdrechion i sefyll ynghyd. Y garfan o ddiwinyddion a gefnogai Bresbyteriaeth oedd y mwyafrif, ond arweiniodd gwleidyddiaeth a sefyllfa filwrol y pryd at ddylanwad mwy gan y garfan Gynulleidfaol. Roedd yn well gan y Cynulleidfawyr gynulleidfaoedd hunanlywodraethol yn hytrach na rhai wedi'u rheoli gan gymanfaoedd rhanbarthol a chenedlaethol fel yn y gyfundrefn Bresbyteraidd. Yn y pen draw, derbyniodd y Senedd ffurflywodraeth Bresbyteraidd, ond nid oedd ganddi'r grym yr oedd y diwinyddion Presbyteraidd am ei gael. Yn ystod Adferiad y fonarchiaeth ym 1660, diarddelwyd dogfennau'r Gymanfa ac adferwyd llwyodraeth esgobol yn Eglwys Loegr.

Gweithiai'r Gymanfa yn nhraddodiad diwinyddol y Protestaniaid Diwygiedig, neu'r Calfaniaid. Mae Calfinaeth yn derbyn y Beibl fel gair awdurdodol Duw y dylid seilio pob diwinyddiaeth arno. Roedd y diwinyddion yn ymroddedig i'r athrawiaeth Ddiwygiedig o ragarfaeth—sef bod Duw yn dewis gwaredu rhai pobl i fwynhau bywyd tragwyddol yn hytrach na chosb dragwyddol. Bu anghytuno yn y Gymanfa dros athrawiaeth prynedigaeth benodol—mai dim ond dros y rhai a ddewiswyd i'w gwaredu y bu farw Crist. Credai hefyd mewn diwinyddiaeth gyfamodol, fframwaith i ddehongli'r Beibl. Y cyntaf o'r cyffesau Diwygiedig i ddysgu athrawiaeth cyfamod gweithredoedd oedd un y Gymanfa, sef i Dduw addo bywyd tragwyddol i Adda cyn y Cwymp ar yr amod y byddai'n ufuddhau i Dduw'n berffaith.

Cefndir

golygu
 
Dengys y print dychanol hwn yr Archesgob William Laud a'r Piwritan Henry Burton. Mae clustiau Burton wedi'u torri fel cosb am feirniadu Laud. Mae eu sgwrs yn cyfeirio at ddienyddiad Laud a ddeuai wedi ei brawf gan y Senedd.

Galwodd y Senedd Gymanfa Westminster yn ystod cyfnod o elyniaeth gynyddol rhwng Siarl I, brenin Lloegr a'r Alban, a'r Piwritaniaid.[2] Roedd y Piwritaniaid yn mynnu y dylai arferion addoli gael eu cadarnhau naill ai'n ymhlyg neu'n echblyg gan y Beibl, wrth i'w gwrthwynebwyr roi mwy o bwyslais ar arferion traddodiadol.[3] Ym marn y Piwritaniaid, roedd Eglwys Loegr, a oedd wedi ymadael â'r Eglwys Gatholig yn ystod y Diwygiad yn Lloegr, dan ormod o ddylanwad gan Babyddiaeth o hyd. Ceisient felly gael gwared â'r dylanwadau a oedd yn parhau yn yr Eglwys a'r genedl.[4] Roedd hyn yn cynnwys ei llywodraeth esgobol.[5] Yn wahanol i ymwahanwyr, ni adawodd y Piwritaniaid yr Eglwys sefydledig.[6] Dan y Brenin Siarl, rhoddwyd gwrthwynebwyr y Piwritaniaid mewn swyddi pwysig awdurdodol a William Laud oedd y mwyaf nodedig o'r gwrthwynebwyr hyn. Ef a wnaethpwyd yn Archesgob Caergaint ym 1633, er bod yr Ucheleglwyswyr hyn yn y lleiafrif. Gorfodwyd Piwritaniaid i gadw eu barn yn gyfrinach neu i wynebu dirwyon a charcharu fel arall.[7] Dyrchafodd Laud ddynion a gefnogai Arminiaeth, safbwynt diwinyddol sydd yn erbyn diwinyddiaeth Ddiwygiedig y Piwritaniaid. Adferwyd arferion megis penlinio yn y Cymun, ymgrymu wrth glywed enw Crist a gosod byrddau'r Cymun ym mhen dwyreiniol eglwysi hefyd. Yng ngolwg y Piwritaniaid, camau ar y ffordd i Gatholigiaeth oedd pethau fel hyn.[8]

Hefyd, bu gwrthdaro rhwng y brenin a'r Albanwyr. Roedd gan yr Alban eglwys dan reolaeth cyfundrefn o gymanfaoedd etholedig o'r enw Presbyteriaeth. Roedd Iago, a olynodd Siarl fel brenin yr Alban, wedi rhoi ar ddeall ei fwriad i osod elfennau llywodraeth eglwysig esgobol a'r Llyfr Gweddi Gyffredin ar yr Albanwyr, gan ddechrau ym 1604. Roedd yr Albanwyr yn ystyried hyn yn ddychweliad i Babyddiaeth. Ymyrrodd Siarl ymhellach yn Eglwys yr Alban ym 1636 a 1637,[9] a arweiniodd at Ryfel Cyntaf yr Esgobion rhyngddo a'r Albanwyr ym 1639. Galwodd Siarl senedd, o'r enw y Senedd Fer, er mwyn codi arian ar gyfer y rhyfel, ond fe'i diddymodd yn fuan wedyn pan ddechreuodd y senedd hon wrthwynebu ei bolisïau.

Ar ôl Ail Ryfel yr Esgbion â'r Albanwyr ym 1640, bu raid i Siarl alw senedd arall i godi rhagor o arian.[2] Adwaenid y senedd hon fel y Senedd Faith ac fe ddechreuodd hi gwyno ychydig yn erbyn Siarl, yn enwedig ynghylch materion crefyddol.[10] Roedd llawer o Biwritaniaid ac aelodau a oedd yn cydymdeimlo â'r Piwritaniaid yn y Senedd. Roedd y garfan hon yn gwrthwynebu'r gyfundrefn esgobol gyfredol yn gyffredinol, ond nid oedd cytundeb ynglŷn â'r gyfundrefn orau i'r Eglwys er hynny.[11] Wedyn ym 1640, cyflwynwyd y Ddeiseb Gwreiddyn a Changen gerbron Tŷ'r Cyffredin. Arwyddwyd hon gan ryw 15,000 o drigolion Llundain a galwodd am ddiddymu system yr esgobion yn llwyr.[12] Trefnwyd pwyllgorau er mwyn gweithredu diwygiadau crefyddol, a arweinodd at garcharu'r Archesgob Laud a'i gefnogwyr yn Nhŵr Llundain i ddial am ormesu'r Piwritaniaid. Hefyd, diddymwyd Llys yr Uchel Gomisiwn a Siambr y Sêr, llysoedd a oedd wedi cosbi Anghydffurfwyr Piwritanaidd yn llym.[13]

Galw'r Gymanfa

golygu

Nodyn:Stack

 
Hysbyslen alegorïol o 1646 sydd yn dangos dau dŷ'r Senedd a Chymanfa Westminster ar arch ar fôr y mae brenhinwyr yn boddi ynddo. Mae'r gerdd arni'n galw'r tri yn "Drindod y Wlad".[14]

Cyflwynwyd y syniad o gael cymanfa genedlaethol o ddiwinyddion i roi cyngor i'r Senedd ar ddiwygio'r Eglwys ymhellach i Dŷ'r Cyffredin yn gyntaf ym 1641. Roedd y cynnig hwn yn y Gwrthdystiad Mawr, rhestr o wrthdystiadau a gyflwynodd y Senedd i Siarl ar 1 Rhagfyr yr un flwyddyn.[15] Ymatebodd Siarl ar 23 Rhagfyr gan ddweud nad oedd angen diwygio'r Eglwys ymhellach. Er gwaethaf hyn, derbyniodd y Senedd dri mesur ym 1642 yn penodi cymanfa a mynnu mai'r Senedd a fyddai'n dewis ei haelodau. Serch hynny, roedd eisiau i Siarl roi ei gydsyniad brenhinol er mwyn gwneud y mesurau hyn yn gyfreithlon. Nid oedd ef yn fodlon ystyried cymanfa o'r fath onibai mai clerigwyr fyddai'n dewis yr aelodau. Roedd hyn yn debyg i sut y dewiswyd aelodau cymanfa clerigwyr Eglwys Loegr.[16]

Yn erbyn ewyllys y brenin, rhwng 12 Chwefror a 20 Ebrill 1642, dewisodd dirprwyon swyddi Lloegr yn Nhŷ'r Cyffredin ddau ddiwinydd yr un, yn ogystal â dau am bob sir yng Nghymru, pedwar dros Lundain a dau o'r ddwy brifysgol, Rhydychen a Chaergrawnt. Dewisodd y dirprwyon ddiwinyddion o'u swyddi eu hun gan amlaf er mwyn sicrhau bod yr etholaethau unigol â chynrychiolaeth yn y penderfyniadau.[17] Ychwanegodd Tŷ'r Arglwyddi 14 enw arall ar 14 Mai a chytunodd aelodau o Dŷ'r Cyffredin â hyn.[18] Yn y cyfamser, parhâi'r berthynas rhwng y brenin a'r Senedd i ddirwyio. Cododd Siarl y faner frenhinol yn Nottingham ar 22 Awst, gan ddynodi dechrau Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr. Roedd dechrau'r rhyfel yn golygu mwy o gefnogaeth i achos y Gymanfa yn y Senedd, oherwydd y byddai ei chynnal yn darbwyllo'r Albanwyr bod y Senedd o ddifrif am ddiwygio'r Eglwys ac felly yn annog yr Albanwyr i'w chynorthwyo. Ar y llaw arall, fe ychwanegodd y rhyfel bwysau at Senedd a oedd eisoes yn brysur iawn.[19]

Yn y pen draw, derbyniodd y Senedd ddeddf i gynnal y gymanfa ar ei hawdurdod ei hun heb gydsyniad Siarl ar 12 Mehefin 1643.[20] Fe enwodd gymaint â 121 o weinidogion[a] a 30 o arsylwyr seneddol na chaent bleidleisio: 20 o'r Cyffredin a 10 o'r Arglwyddi.[22] Saeson oedd y rhan fwyaf o'r aelodau; penododd y Senedd Saeson dros siroedd Cymru, ond anfonodd Eglwysi Dieithriaid Ffrainc (eglwysi ffoaduriaid Protestannaidd o Ffrainc Gatholig) ddau weinidog yn lle unrhyw rai o Ynysoedd y Sianel.[14] Cydnabyddid llawer o'r diwinyddion fel ysgolheigion o fri rhyngwladol ym maes y Beibl, ieithoedd hynafol, patristeg a diwinyddiaeth addysgol. Gweinidogion enwog oedd sawl un ohonynt hefyd.[23] Roedd y mwyafrif o'r rhain wedi cadw eu swyddi yn yr Eglwys yn ystod cyfnod William Laud. Cawsai rhai eu diwyddo o'u heglwysi neu eu gwysio gan lysoedd eglwysig am eu barn bersonol. Roedd rhai wedi ffoi i Gyfandir Ewrop ac roedd un yng ngwladfeydd America.[24] Er hyn, roeddent yn ystyried eu hun yn aelodau o Eglwys Loegr ac wedi'u hordeinio fel esgobion. Cydffurfwyr oedd y mwyafrif, hynny yw, cytunasant ddilyn Deddf Unffurfiaeth 1558 a defnyddio'r Llyfr Gweddi Gyffredin.[25]

Roedd y Gymanfa o dan reolaeth lem y Senedd, ac roedd i fod i drafod pynciau a roddid ganddi. Ni châi'r aelodau ddatgan eu hanghytundeb â barn y mwyafrif neu rannu unrhyw wybodaeth am y trefniadau, heblaw trwy ysgrifennu i'r Senedd.[26] Dewisodd y Senedd William Twisse, diwinydd o barch rhyngwladol, yn llefarydd[b] neu gadeirydd. Yn sgil salwch Twisse, cymerodd Cornelius Burges, un o'r nifer o aseswyr, rôl llefarydd dros dro am y rhan fwyaf o gyfnod cynnal y Gymanfa.[22] Bu 22 o aelodau penodedig farw cyn 1649 a 19 aelod arall a gymerodd eu lle hwy a lle'r rhai na fynychodd dros resymau eraill. Ychwanegwyd tri ysgrifennydd heb hawl pleidleisio ym 1643.[28]

Adolygu'r Deugain Namyn Un Erthygl

golygu
 
Capel Harri VII, man cyfarfod cyntaf y Gymanfa, mewn llun gan Canaletto
 
Symudodd y Gymanfa i Siambr Caersalem ym mis Hydref 1643.

Cychwynnodd cyfarfod cyntaf y Gymanfa â phregeth gan William Twisse yng nghorff Abaty Westminster ar 1 Gorffennaf 1643. Roedd corff yr eglwys mor llawn y bu raid i Dŷ'r Cyffredin anfon aelodau ymlaen llaw er mwyn sicrhau bod seddi ar eu cyfer.[29] Yn dilyn y bregeth, gorymdeithiodd y diwinyddion i Gapel Harri VII,[30] a fyddai'n fan cyfarfodd iddynt nes 2 Hydref pan symudasant i Siambr Caersalem, a oedd yn gynhesach a mwy preifat.[31] Ar ôl eu cyfarfod cychwynnol, roedd yn rhaid aros tua wythnos tan y cyfarfod nesaf gan nad oeddent wedi derbyn cyfarwyddiadau penodol gan y Senedd.[32]

Ar 6 Gorffennaf, derbyniasant reolau gan y Senedd a gofynnwyd iddynt archwilio deg erthygl gyntaf y Deugain Namyn Un Erthygl, safon athrawiaethol gyfredol Eglwys Loegr, ac i "ryddhau ac amddiffyn eu Hathrawiaeth rhag pob Anfri a Chamddehongliad". Ar ôl diwrnod o ymprydio, gwnaeth y Gymanfa adduned, yn unol â chyfarwyddyd y Senedd, i "beidio â dal at unrhyw beth ym Materion Athrawiaeth, ond at yr hyn yr ydwyf yn credu ei fod yn wir yn fy nghydwybod".[33] Ymrannodd y diwinyddion yn dri phwyllgor sefydlog, er bod pob pwyllgor yn agored i unrhyw aelod arall o'r Gymanfa. Byddai'r pwyllgorau'n derbyn pynciau penodol ac yna paratoi cynigion i'w trafod yn y Gymanfa lawn ar ôl pob bore o gyfarfodydd y pwyllgorau.[34] Yn ogystal â hyn, penodwyd dros 200 o bwyllgorau arbennig i ymgymryd â gorchwylion megis arholi ymgeiswyr i bregethu, cymrodyr colegau a hereticiaid drwgdybiedig.[22]

Penderfynodd y Gymanfa, ar ôl cryn drafod, y byddai'n rhaid profi pob athrawiaeth y Deugain Namyn Un Erthygl o'r Beibl.[35] Tueddai aelodau'r Gymanfa i roi areithiau hirfaith ac roedd y cynnydd yn rhwystredig o araf ym marn yr arweinwyr.[22] Roedd wythfed erthygl y Deugain Namyn Un yn argymell derbyn a chredu Credo'r Apostolion, Credo Nicea a Chredo Athanasiws, a welwyd fel datganiadau sylfaenol uniongrededd. Ni allai'r Gymanfa ddatrys y gwrthdaro rhwng y rhai nad eisiau arnynt gael eu gorfodi gan gredoau a'r rhai a oedd am gadw'r geiriau presennol y dylid eu "derbyn a['u] credu'n llwyr". Roedd y rhai a gymerodd y safbwynt cyntaf yn dadlau mai dim ond "mater" y credoau y dylent ei gredu. Ar 25 Awst, fe ohiriwyd yr erthygl nes y gellid ymdrin â'r erthyglau eraill.[36] Datgelodd yr anghytundeb gynnar hwn rwygiadau dyfnion rhwng gwahanol garfannau yn y Gymanfa.[37]

Trafod llywodraeth yr Eglwys

golygu

Er dechrau'r Rhyfel Cartref Cyntaf, cydnabyddai'r Senedd Faith y byddai angen cymorth yr Albanwyr. Am ei chymorth milwrol, mynnodd Senedd yr Alban fod y Saeson yn llofnodi Cynghrair a Chyfamod Difrifol ym 1643, a oedd yn dweud y byddai'r Saeson yn dod â'u heglwys yn nes yn ei ffurf at Eglwys yr Alban.[38] Anfonodd Senedd yr Alban gomisiynwyr i Lundain i gynrychioli'r Alban gerbron Senedd Lloegr.[39] Gwahoddwyd 11 o'r rhain, pedwar diwinydd a saith aelod seneddol, i'r Gymanfa hefyd.[40] Rhoddwyd cyfle i'r comisynwyr hyn fod yn aelodau o'r Gymanfa â phleidlais ond fe wrthodasant, am fod yn well ganddynt fod yn annibynnol o hyd fel comisynwyr eu gwlad a'u heglwys eu hun.[41] Samuel Rutherford, George Gillespie ac Alexander Henderson oedd rhai o'r Albanwyr ac roeddent ymhlith y rhai a siaradai'n ddi-flewyn-ar-dafod gan amlaf.[42]

 
Un o gomisiynwyr mwyaf blaengar o'r Alban oedd Samuel Rutherford.

Ar 12 Hydref 1643, gorchmynnodd y Senedd i'r Gymanfa beidio â gweithio ar y Deugain Namyn Un Erthygl a dechrau llunio ffurf gyffredin o lywodraeth eglwysig ar gyfer y ddwy wlad.[43] Byddai'r Gymanfa'n treulio chwarter o'i sesiynau llawn ar bwnc llwyodraeth yr Eglwys o hynny ymlaen.[44] Roedd y mwyafrif o aelodau'r Gymanfa yn cefnogi ffurflywodraeth Bresbyteraidd, sef llwyodraeth eglwysig gan gymanfaoedd etholedig o gynrychiolwyr lleyg a chlerigol, er nad oeddent yn ymrwymo'n ddogmataidd iddi.[45] Roedd yn well gan sawl aelod, rhyw ugain ohonynt, gan gynnwys William Twisse, esgobyddiaeth "gyntefig", a fyddai'n cynnwys elfennau o Bresbyteriaeth a rôl is i esgobion.[46]

Roedd yna sawl Cynulleidfäwr hefyd, a oedd yn cefnogi hunanlywodraeth i eglwysi lleol unigol. Thomas Goodwin, Philip Nye, Sidrach Simpson, Jeremiah Burroughs a William Bridge oedd eu diwinyddion mwyaf dylanwadol.[47] Fe'u galwyd yn "frodyr Anghydffurfiol" yn aml yn y Gymanfa. Ambell waith, cawsant yr enw "Annibynwyr" ond roeddent yn ymwrthod â'r term hwn. Roedd aelodau'r Gymanfa'n defnyddio'r label "Annibynwyr" am yr ymneilltuwyr a adawodd yr Eglwys sefydledig.[48] Ni ellir dweud bod y brodyr Anghydffurfiol hyn yn Annibynwyr yn yr un modd yr oedd yr ymneilltuwyr a'r Brownwyr, gan eu bod nhw wedi'u hordeinio yn esgobion ac yn parhau yn aelodau o Eglwys Loegr. Rhoddodd llwyddiant Oliver Cromwell a Byddin y Model Newydd yn y rhyfel cartref parhaol gymorth i ddylanwad y Cynulleifawyr. Roedd Cromwell yn llawer eraill yn y fyddin yn cefnogi Cynulleifaoliaeth.[47]

Roedd trydedd garfan o'r diwinyddion yn dwyn yr enw yr Erastiaid, term am y sawl a gredai y dylai fod gan y wlad rym sylweddol dros yr Eglwys. Roedd y Gymanfa gyfan yn Erastaidd yn yr ystyr i'r corff gael ei alw gan y Senedd a'i bod o dan reolaeth lwyr y wlad.[45] Serch hynny, credai'r rhai "Erastaidd" yn y Gymanfa mai awdudod sifil, yn hytrach na swyddogion yr Eglwys, a ddylai gael y grym dros ddisgyblaeth eglwysig. Roedd hyn yn cynnwys grym gwrthod rhoi'r Cymun i bechaduriaid anedifeiriol. Nid oeddent yn gweld bod gan unrhyw ffurflywodraeth benodol archiad dwyfol ac o'r herwydd ymunodd y brodyr Anghydffurfiol â hwy pan ddaeth yn eglur y byddai sefydliad Presbyteraidd yn llai goddefgar o Gynulleidfaoliaeth nag y byddai'r Senedd. Dim ond dau ddiwinydd yn y Gymanfa a ddaliai'r safbwynt Erastaidd, John Lightfoot a Thomas Coleman, ond rhoddodd presenoldeb aelodau seneddol, yn enwedig John Selden, yn ogystal ag arolygiaeth y Senedd dros y Gymanfa, ddylanwad anghyfartal i'r safbwynt Erastaidd.[49]

Roedd sawl esgobaethwr, cefnogwyr y gyfundrefn bresennol â'i hesgobion, wedi'u cynnwys yn y wŷs i fynychu'r Gymanfa, ond efallai fod y Senedd wedi'u henwebu er mwyn rhoi mwy o gyfreithlondeb i'r Gymanfa yn hytrach na disgwyl iddynt ei mynychu[50] gan nad oedd Siarl wedi cymeradwyo'r Gymanfa.[51] Dim ond un, Daniel Featley, a gymerodd ran,[50] a dim ond nes iddo gael ei arestio am frad ym mis Hydref 1643.[52]

Dechreuodd y ddadl am swyddogion yr eglwys ar 19 Hydref.[53] Cychywnnodd y Gymanfa â phwnc ordeiniad, am fod llawer o'r diwinyddion yn pryderu am y nifer cynyddol o wahanol fudiadau enwadol a diffyg unrhyw ddull o ordeinio gweinidogion yn Eglwys y wlad. Er nad oedd rhai aelodau'n meddwl bod ordeiniad yn angenrheidiol i bregethwyr (ond na ddylent weini'r sagrafennau hebddo), credai'r rhan fwyaf o'r diwinyddion fod unrhyw fath o bregethu rheolaidd heb ordeiniad yn annerbyniol ac roeddent am greu henaduriaeth dros dro ar gyfer ordeinio.[54] Bu trafod hefyd yn ystod y cyfnod cynnar hwn am natur yr Eglwys Weladwy. Roedd y Cynulleidfawyr yn ystyried un gynulleifa leol fel eglwys, tra oedd y mwyafrif yn ystyried bod yr Eglwys wladol mewn undod ac roeddent yn dychryn wrth y syniad o chwalu Eglwys Loegr.[55] Er gwaethaf y dadleuon hyn, hyd ddiwedd 1643 bu gobaith y gellid ffurfio llywodraeth eglwysig gyffredin a fyddai'n addas ym marn pob carfan.[56]

 
Thomas Goodwin oedd un o'r brodyr Anghydffurfiol.

Ar 3 neu 4 Ionawr 1644, daeth rhwyg rhwng y pum brawd Anghydffurfiol mwyaf blaenllaw a gweddill y Gymanfa pan gyhoeddodd y Anghydffurfwyr An Apologeticall Narration, taflen ddadleuol[57] yn apelio at y Senedd. Roedd yn dadlau bod y gyfundrefn Gynulleidfaol yn fwy addas i'r wlad gael rheoli materion crefyddol nag yr oedd un y Prebysteriaid. Dywedodd nad oedd y Presbyertiaid am i'r Eglwys gadw unrhyw rym go iawn heblaw'r gallu i dynnu cymdeithas oddi wrth unrhyw gynulleidfa gyfeiliornus.[58] Erbyn 17 Ionawr, roedd y rhan fwyaf o'r Gymanfa yn argyhoeddedig mai system Bresbyteraidd debyg i un yr Albanwyr oedd y ffordd orau ymlaen, ond câi'r brodyr Anghydffurfiol barhau i ddatgan eu hachos yn y gobaith y gallent gael eu cymodi yn y pen draw.[59] Y gobaith oedd, drwy osgoi mynnu i Bresbyteriaeth gael ei sefydlu gan archiad dwyfol, y gellid cymodi'r Cynulleifawyr.[47]

Er gwaethaf yr ymdrechion hyn, daeth yn amlwg ar 21 Chwefror gymaint yr oedd safbwyntiau'r carfanau yn wahanol. Mynnodd Philip Nye, un o'r brodyr Anghydffurfiol, mewn araith y byddai hedaduriaeth wedi'i gosod dros gynulleidfaoedd lleol mor bwerus â'r wlad ac felly roedd yn beryglus i'r weriniaeth, a oedd yn arwain at wrthwynebiad cryf gan y Presbyteriaid.[1] Trannoeth, dechreuodd y Gymanfa lunio argymhelliad am ffurflywodraeth Bresbyteraidd.[60] Oherwydd ei chred gref yn undeb yr Eglwys,[61] parhaodd y Gymanfa i geisio ffyrdd o gymodi'r brodyr Anghydffurfiol â'r mwyafrif drwy 1644, gan gynnwys sefydlu pwyllgor arbennig at y dibenion hynny ym mis Mawrth.[62] Serch hynny, ar 15 Tachwedd, rhoddodd yr Anghydffurfwyr eu rhesymau dros anghytuno â gweddill y Gymanfa gerbron y Senedd,[63] ac ar 11 Rhagfyr cyflwynodd y mwyafrif ddrafft o ffurflwyodraeth Bresbyteraidd.[64]

Gwrthdaro â'r Senedd

golygu

Roedd y berthynas rhwng y Gymanfa a'r Senedd eisoes yn dirwyio ym 1644, pan anwybyddodd y Senedd gais gan y Gymanfa i wahardd unigolion "enbyd o anwybodus ac enwog o gableddus" rhag y Cymun. Er bod aelodau'r Senedd yn cytuno y dylid cadw'r sagrafen yn bur, anghytunai llawer â'r mwyafrif Presbyteraidd yn y Gymanfa ynglŷn â chan bwy yr oedd y grym i esgymuno, gan gymryd barn Erastus mai'r wlad oedd â'r hawl hon.[65] Hefyd, erbyn 1646, roedd Byddin Model Newydd Oliver Cromwell wedi ennill y rhyfel ar ran y Senedd. Roedd Cromwell, ynghyd â'r rhan fwyaf o'r fyddin, o blaid goddefgarwch crefyddol i bob math o Gristionogion er bod yr Eglwys wladol yn un Bresbyteraidd. Roedd ei ddyrchafiad i rym o ganlyniad i'w fuddugoliaethau milwrol yn golygu y byddai'r syniad o gytundeb hollol Bresbyteraidd heb ryddid i eraill addoli yn annhebygol iawn.[66] Roedd y Senedd am wybod o leiaf pa bechodau penodol a oedd yn ddigon difrifol i olygu esgymuno o'r Eglwys. Nid oedd y Gymanfa am roi'r fath wybodaeth gan fod y rhan fwyaf yn ystyried bod grym yr Eglwys yn hyn o beth yn ddiamod.[67]

Ym mis Mai 1645, dechreuodd y Senedd adael i esgymunwyr apelio at y Senedd yn erbyn dedfrydau gan yr Eglwys. Roedd gorchymyn arall gan y Senedd ar 20 Hydref yn cynnwys rhestr o bechodau y byddai'r Eglwys yn gyfyngedig yn ei grym i esgymuno o'u herwydd.[68] Er siom y diwinyddion, cynigiwyd gorchymyn mwy Erastaidd byth ym Mawrth 1646. Cyhoeddodd y Gymanfa wrthdystiad yn erbyn hwn, a oedd yn arwain at Dŷ'r Cyffredin yn ei chyhuddo o dor-fraint ac felly rhoddodd y Naw Gofyniad, sef naw cwestiwn gan y Tŷ, i'r diwinyddion ar y mater. Roedd y Senedd am i'r aelodau gynnwys eu pleidleisiau gyda'u hatebion er mwyn gorfodi'r diwinyddion cysylltedig â'r ddeiseb wrthdystiol i ddatgelu eu hun.[69]

Canolbwytiai'r Naw Gofyniad ar hawl dwyfal (jure divino) llywodraeth eglwysig.[70] Er y medrai'r diwinyddion Presbyteraidd amddiffyn eu gweledigaeth am lywodraeth yr Eglwys drwy hawl ddwyfal o'r Beibl, nid oeddent yn fodlon ateb y gofynion gan y byddai hynny'n dadlennu diffyg undeb yn y Gymanfa ymhellach ac felly yn gwanychu eu hachos gerbron y Senedd.[71] Ym mis Gorffennaf 1647, goresgynnod Byddin y Model Newydd Lundain a bu raid i aelodau seneddol ceidwadol ymadael â'r Senedd. Derbyniodd y Senedd orchymyn i sefydlu dioddefgarwch crefyddol gan sicrhau na châi gweledigaeth y Gymanfa o Eglwys Bresbyteraidd genedlaethol orfodol byth mo'u gwireddu.[72] Yn Llundain, lle yr oedd y gefnogaeth fwyaf i Bresbyteriaeth, ni sefydlwyd hedaduriaethau ond mewn 64 o 108 plwyf ddinesig, a dim ond mewn 14 o 40 swydd Lloegr y sefydlwyd synodau rhanbarthol. Ni chyfarfu cymanfa gyffredinol arfaethedig erioed.[73] Fe sefydlodd llawer o Bresbyteriaid henaduriaethau gwirfoddol, mewn sefyllfa lle yr oedd eglwys rydd yn bodoli, mewn gwirionedd. Parhâi hyn hyd yr Adferiad ym 1660 pan adferwyd cyfundrefn esgobol orfodol.[72]

Roedd y ffurflywodraeth newydd yn llawer mwy derbyniol i Gymanfa Gyffredinol Eglwys yr Alban. Fe'i derbyniodd ar 10 Chwefror 1645, ar yr amod y byddai ambell bwynt arbennig am lwyodraeth Bresbyteraidd yn cael ei ateb yn y Cyfeiriadur Addoliad Cyffredin i ddod. Ar yr un pryd, mynegasant eu hawydd i uno'r ddwy eglwys yn ffurfiol. Yn dilyn dyfodiad Cromwell i rym ac Adduned gyfrinachol rhai Cyfamodwyr â Siarl, rhoddwyd y gorau i hyn ac ni dderbyniwyd eu dogfennaeth erioed. Daeth y Gymanfa Gyffredinol i ben dan Cromwell a'r brenhinoedd a'i holynodd o 1649 hyd 1690.[74]

Cyffesu, catecismau a'r Cyfarwyddiadur Addoliad

golygu
 
Tudalen blaen argraffiad cyntaf Cyffes Ffydd Westminster, a argraffwyd ar ôl i Gymanfa Gyffredinol Eglwys yr Alban ei gymeradwyo ym 1647.

Yn ystod ac ar ôl y dadleuon am lywodraeth yr Eglwys, lluniodd y Gymanfa ddogfennau eraill nad achosasant rwygiadau agored. Ysgrifennwyd y Cyfeiriadur Addoliad Cyffredin i gymryd lle'r Llyfr Gweddi Gyffredin yn gyflym ym 1644 ac fe'i derbyniwyd gan y Senedd ar 3 Ionawr 1645.[75] Roedd diwinyddiaeth y Cyfeiriadur, a dderbyniwyd gan yr Albanwyr hefyd, rywle rhwng safbwyntiau'r Presbyteriaid a'r Cynulleidfawyr. At ei gilydd, roedd yn well gan y Presbyteriaid litwrgi sefydlog tra oedd y Cynulleifawyr yn cefnodi gweddïo o'r frest. Roedd y Cyfeiriadur yn cynnwys trefn oedfaon gyda gweddïau enghreifftiol.[76] Roedd hefyd yn argymell sallwyr a gyfieithodd Francis Rous i'w ddefnyddio wrth addoli.[75]

Cychwynnwyd Cyffes Ffydd i ddisodli'r Deugain Namyn Un Erthygl yn Awst 1646. Er nad oes llawer o gofnod gennym bellach o weithredodd y Gymanfa wrth ysgrifennu'r Gyffes, mae'n glir bod nifer sylweddol o drafodaethau dros bron pob athrawaieth a geir ynddi. Argraffwyd y Gyffes a'i hanfon i'r Senedd yn mis Rhagfyr. Gofynnodd Tŷ'r Cyffredin i aelodau'r Gymanfa ychwanegu dyfyniadau o'r Ysgrythurau i'r Gyffes, a roddwyd yn Ebrill 1648. Cymeradwyodd y Senedd y Gyffes yn ogystal â diweddariadau i'r penodau am synodau a chynghorau, geryddon eglwysig a phriodas ar 20 Mehefin 1648.[77] Derbyniasai Cymanfa Gyffredinol Eglwys yr Alban y Gyffes heb ddiwygiadau ym 1647. Roedd arferiad Siarll II ym 1660 yn dirymu'r ddeddfwriaeth hon i bob pwrpas.[78]

Gwnaethai'r Gymanfa gryn dipyn o waith ar gatecism rhwng Rhagfyr 1643 ac Ionawr 1647[79] a oedd yn cynnwys 55 o gwestiynau cyn iddi benderfynu llunio dau gatescism yn hytrach nag un.[80] Cynorthwyo gweinidogion wrth ddysgu'r ffydd Ddiwygiedig i'w cynulleidfaoedd oedd diben y Catecism Mwyaf.[81] Seiliwyd y Catecism Lleiaf ar y Mwyaf ond roedd i'w ddefnyddio er mwyn dysgu'r ffydd i blant. Mynnodd y Senedd ar brawf Ysgrythurol am y catecismau hefyd.[82] Derbyniodd Cymanfa Gyffredinol yr Albanwyr y ddau gatecism ym 1648.[83]

Roedd y Gymanfa'n deall bod ei archiad dan y Gynghrair a Chyfamod Difrifol wedi'i gyflawni ar 14 Ebrill 1648 pan ddanfonodd y dyfyniadau Ysgrythurol i'r Senedd, ac roedd y comisiynwyr o'r Alban eisoes wedi gadael erbyn diwedd 1647.[84] Parhâi'r Gymanfa i gyfarfod yn bennaf er mwyn arholi gweinidogion i'w hordeinio.[85] Nid oedd y rhan fwyaf o'r diwinyddion yn fodlon ar Weriniaeth Lloegr a ddaeth i rym ar ôl carthiad y Senedd Faith gan y Cyrnol Pride ym 1648. O ganlyniad, dechreuodd y mwyafrif beidio â mynychu'r Gymanfa yn hytrach na gorfod tyngu llw Ymrwymiad i'r Weriniaeth a osodwyd ym 1649.[86] Roedd papurau newydd yn parhau i adrodd ar gyfarfodydd y Gymanfa cyn hwyred â mis Mawrth 1653, ond mae'n rhaid bod y Gymanfa wedi dod i ben rywbryd rhwng y pryd hynny a diddymiad Senedd y Gweddill gan Cromwell ar 20 Ebrill 1653.[87]

Diwinyddiaeth

golygu

Cynnyrch traddodiad Diwygiedig Prydain oedd y Gymanfa, a gymerodd y Deugain Namyn Un Erthygl fel prif ffynhonnell yn ogystal â diwinyddiaeth James Ussher a’i Erthyglau Gwyddelig o 1615.[88] Gwelai’r diwinyddion eu bod yn perthyn i draddodiad Diwygiedig ehangach Ewrop hefyd ac roeddent yn llythyru â diwinyddion Diwygiedig ar gyfandir Ewrop yn aml gan gesio’u cymeradwyaeth.[89] Hefyd, o draddodiad Prydain cyn y Diwygiad hefyd codasant ddiwinyddiaeth a bwyleisiai wybodaeth Feiblaidd ac a oedd dan ddylanwad traddodiad diwinyddol Awstin megis gwaith Anselm, Thomas Bradwardine and John Wycliffe.[90] Mae’r cofnod o drafodaethau’r Gymanfa yn dyfynnu’r Tadau Eglwysig a diwinyddion ysgolaidd yr Oesoedd Canol yn fynych.[91]

 
Bu i Edmund Calamy ddadlau dros gyffredinoliaeth ddamcaniaethol yn y Gymanfa.

Mae’r Gyffes yn cychwyn ag athrawiaeth datgeliad, neu sut y gall pobl adnabod Duw.[92] Credai'r diwinyddion fod modd i bobl adnabod Duw drwy natur yn ogystal â'r Beibl, ond hefyd, credent mai'r Beibl, neu'r Ysgrythurau, yw'r unig ffordd i ddod i adnabyddiaeth waredol o Dduw.[93] Pwnc llosg ar y pryd oedd athrawiaeth yr Ysgrythurau. Roedd ysgolheigion wedi dechrau dadlau ei bod yn debyg nad oedd y llafarnodau Hebraeg, marciau bach wedi'u hychwanegu i'r testun er mwyn helpu ei ynganu, yn yr Hen Destament yn rhan o'r testun gwreiddiol. Bu cryn drafod dros hyn rhwng dadleuwyr Diwygiedig a'r Pabyddion. Roedd y Pabyddion yn dadlau bod y fath ddarganfyddiaeth yn dangos angen magisteriwm er mwyn dehongli'r Beibl, a oedd yn wahanol i'r athrawiaeth Brotestannaidd o eglurder yr Ysgrythurau, sef y gall unrhyw un ddehongli athrawiaethau hanfodol y Beibl. Aeth ysgrifenwyr Diwygiedig o Loegr ati i amddiffyn yr athrawiaeth Ddiwygiedig.[94] Roedd gan y diwinyddion gred gref yn ysbrydoliaeth y Beibl a chredent fod Duw yn ei ddatgelu ei hun yng ngosodiadau'r Ysgrythurau.[95] Er na fu anghytundeb ar anffaeledigrwydd y Beibl, y gred nad oes gwallau ynddo, tan y 18fed ganrif, roedd y diwinyddion yn credu nad yw'r Beibl yn cynnwys camgymeriadau. Daliai llawer o'r diwinyddion y safbwynt eithaf mecanyddol o ysgbrydoliaeth Feiblaidd, gan gredu nad y geiriau a'r syniadau yn unig ond y llythrennau a'r llafarnodau hefyd a oedd wedi'u hysbrydoli gan Dduw. Ar y llaw arall, cydnabuont fod y testun wedi'i ysgfrifennu gan ddynion yn eu harddulliau eu hun. Nid oeddent yn gwahaniaethu rhwng materion hanfodol ac eilaidd wrth sôn am ysbrydoliaeth y Beibl.[96]

Roedd Piwritaniaid yn credu yn sofraniaeth Duw dros hanes a natur er dechreuad y byd ac na châi'r un o'i ddyfarniadau ei rwystro.[97] Bu cryn drafod yn y Gymanfa ynglŷn â pherthynas rhagluniaeth Duw, neu ei ddewis i waredu rhai pobl, â'r brynedigaeth a gaed drwy farwolaeth Crist.[98] Roedd llawer o ddynion Diwygiedig y pryd yn dysgu mai dim ond i'r rhai a ddewiswyd i'w gwaredu y bu farw Crist, athrawiaeth o'r enw prynedigaeth neilltuol.[99] Roedd lleiafrif uchel ei gloch yn y Gymanfa yn dadlau dros safbwynt o'r enw cyfanfydedd damcaniaethol.[100] Hwn oedd safbwynt Edmund Calamy, ac roedd ef yn dadlau bod marwolaeth Crist, yn ogystal â gwaredu'r rhai a ddewiswyd, yn cynnig gwaredigaeth i bawb ar yr amod y credont.[101] Nid oedd Cyffes y Gymanfa yn dysgu'r safbwynt hwnnw, ac mae ei hiaith yn llawer mwy cefnogol o ddehongliad prynedigaeth neilltuol,[100] ond mae cytundeb cyffredin ymhlith ysgolheigion bod yr iaith ynddi yn caniatáu denhongliad cyfanfydedd damcaniaethol.[c]

Diwinyddiaeth gyfamodol oedd fframwaith dehongli sydd gan ddiwinyddion Diwygiedig a ddatblygwyd yn sylweddol yn ystod yr 17eg ganrif. Dan y cynllun hwn, fel a ddiffiniwyd gan y Gymanfa, gellir disgrifio sut y mae Duw yn ymdrin â dyn yn nhermau dau gyfamod: cyfamod gweithredoedd a chyfamod gras.[107] Y prif symbol Diwygiedig cyntaf i sôn yn benodol am gyfamod gweithredoedd oedd Cyffes Westminster. Gelwir hwn yn gyfamod bywyd weithiau a dywed i Dduw gynnig bywyd tragwyddol i Adda ar yr amod ei fod yn ufuddhau'n berffaith.[108] Yng Nghwymp Dyn, torrodd Adda'r cyfamod hwn drwy fwyta ffrwyth pren gwybodaeth da a drwg. Er mwyn datrys hyn, cynigiodd Duw waredigaeth ar wahân i weithgaredd dyn drwy'r hyn a elwir yn gyfamod gras. Roedd y cyfamod hwn yn galluogi dyn i fwynhau bywyd tragwyddol er gwaethaf ei anallu i ufuddhau i gyfraith Duw yn berffaith. Roedd y syniad o gyfamod gras yn nodwedd lawer mwy cyffredin mewn diwinyddiaeth uniongred Ddiwygiedig. Gosododd diwinyddion Westminster y ddau gyfamod hwn yn erbyn ei gilydd megis y ddau brif ddull y mae Duw yn eu defnyddio wrth ymdrin â'i bobl.[109]

Roedd y diwinyddion yn wrthwynebol i Babyddiaeth yn fwy nag i William Laud a'i ddilynwyr, y Laudiaid. Roeddent yn cysylltu Pabyddiaeth a Laudiaeth ag Arminiaeth ac erledigaeth. Cyn y rhyfel cartref, gwelai'r diwinyddion y ddwy garfan hon fel y bygythiad mwyaf i'r Eglwys.[110] Gyda chynnydd mudiadau enwadol radicalaidd yn ystod y rhyfel, y carfanau a oedd yn pryderu'r diwinyddion yn fwy na dadlau yn erbyn Catholigiaeth.[111] Roeddent yn bryderus, yn enwedig am y rhai yr oeddent yn eu galw'n antinomiaid. Term eithaf eang oedd hwn am bobl a gredai nad oedd y gyfraith foesol rywsut yn dal yn berthnasol i Gristionogion.[112] Roedd y diwinyddion yn ystyried y carfanau hyn yn fygythiad nes na Chatholigiaeth.[113]

Etifeddiaeth

golygu

Diarddelwyd gwaith Cymanfa Westminster gan Eglwys Loegr yn ystod yr Adferiad yn 1660.[114] Gorfododd Deddf Unffurfiaeth 1662 weinidogion Piwritanaidd i adael yr Eglwys.[115] wrth iddi fynnu ar fwy o ymlyniad wrth y Llyfr Gweddi Gyffredin a chefnogaeth am esgobiaeth nag o'r blaen. Er bod rhai Presbyteriaid am gael eu haildderbyn i'r Eglwys wladol o hyd,[116] roedd cyfyngiadau ar addoli i Anghydffurfwyr yn arwain at Bresbyteriaid yn anghofio'u gwahaniaeth barn â Chynulleifawyr a derbyn urddau eglwysig Cynulleifaol.[117]

Roedd cytundeb barn ymhlith y Saeson Protestannaid y dylai fod un Eglwys wedi'i gorfodi gan y wlad ond daeth y Rhyfel Cartref â hwn i ben, er nad oedd rhyddid crefyddol cyfan.[73] Roedd delfrydau'r brodyr Anghydffurfiol yn y Gymanfa yn arwyddocaol yn nhwf enwadaeth, yr athrawiaeth bod yr Eglwys i'w chael mewn sawl sefydliad yn hytrach nac mewn un mewn lle penodol. Er bod Protestaniaid eisoes yn cydnabod dilysrwydd eglwysi mewn gwahanol diriogaethau, noda canlyniad trafodaethau'r Gymanfa dderbyniad ehangach o'r syniad y gall sawl gwir eglwys fod yn yr un diriogaeth.[118]

 
Mae'r darlun hwn gan John Phillip, o'r enw Prebysterian Catechising, yn dangos gweinidog yn arholi merch ar ei gwybodaeth am y catecism. Catecism cyffredin i Bresbyteriaid yw Catecism Lleiaf Westminster.

Derbyniwyd Cyffes y Gymanfa gyda diweddariadau gan Gynulleifawyr yn Lloegr ar ffurf Datganiad Safwy ym 1658, yn ogystal gan y Bedyddwyr Neilltuol ar ffurf Cyffes y Beddwyr ym 1689.[114] Pan ailsefydlwyd Gymanfa Gyffredinol Eglwys yr Alban ym 1690 yn dilyn y Chwyldro Gogoneddus, cadarnhaodd Gyffes Westminster, ond dim o ddogfennau eraill y Gymanfa.[119] Mae'r Gyffes yn parhau, yn ôl Erthyglau Datgeiniol 1929, i fod yn "brif safon isradd" yr Eglwys, yn israddol i'r Beibl.[120] Mae dysgu'r Catecism Byrraf ar y cof yn angenrhediol i blant mewn llawer o eglwysi Presbyteraidd ers hynny.[121]

Bu i ymfudo ac ymdrechion cenhadol y carfanau hyn arwain at arwyddocâd eang Cymanfa Westminster drwy'r byd Saesneg.[22] Roedd ei Chyffes yn ddylanwad nodweddiadol ar ddiwinyddiaeth Brotestanaidd America.[122] Cafodd ei chynnwys gyda'r newidiadau Cynulleidfaol fel rhan o Raglen Cambridge, datganiad gan weinidogion trefedigaeth Bae Massachusetts a'r cylch,[123] ac eto yn nhrefedigaeth Connecticut fel rhan o Raglen Saybrook ym 1708. Addaswyd y Gyffes ar gyfer Bedyddwyr Americanaidd yng Nghyffes Philadelphia 1707. Gofynnai Deddf Fabwysiadu 1729 i Bresbyteriaid America gytuno â diwinyddiaeth Cyffes y Gymanfa, ac mae'r Gyffes yn parhau'n rhan o Lyfr Cyffesion yr Eglwys Bresbyteraidd (UDA).[124] Dywedwyd am y Gyffes mai hi yw "symbol athrawiaethol mwyaf dylanwadol o bell ffordd yn hanes Prostestaniaeth America" gan yr hanesydd crefyddau Sydney E. Ahlstrom.[22]

Nodiadau

golygu
  1. 119 o weinidogion sydd yn y fersiwn o'r ddeddf yng Nghyfnodolyn Tŷ'r Arglwyddi (y lleiaf dibynadwy, mae'n debyg), 121 sydd yn y fersiwn gyfreithiol a 120 sydd mewn copïau argraffedig cynnar. Cynhwyswyd Josias Shute yn y copïau cynnar nes i'r Arglwyddi sylweddoli ei fod newydd farw ac felly dewiswyd Simean Ashe i gymryd ei le.[21]
  2. Dewisodd y Senedd y term Saesneg "prolocutor" (llefarydd) gan mai'r term am arweinydd synod o esgobion Seisnig ydoedd, yn hytrach na defnyddio "moderator" (cymedrolwr) a oedd gan yr Albanwyr am arweinydd eu Cymanfa Gyffredinol.[27]
  3. Sonia Lee Gatiss fod Richard Muller yn dweud bod y Gyffes yn gadael lle yn fwriadol i'r safbwynt cydfydeddol.[102] Cred Jonathan Moore y gall cydfydeddwr damcaniaethol dderbyn iaith y Gyffes yn rhwydd, a dangos y gellid ei hysgrifennu i fod yn fwy unochrog o blaid cydfydedd.[103] Mae J. V. Fesko yn dadlau bod y Safonau yn tueddu at safbwynt neilltuolaidd, ond nad ydynt yn gwadu posibilrwydd safbwynt cydfydeddol damcaniaethol an-Amyraldaidd.[104] Yn nhyb Robert Letham, mae'r Gyffes o leiaf yn bwriadu gwadu cydfydedd damcaniaethol, er ei fod yn dangos nad oedd y diwinyddion cydfydeddol damcaniaethol wedi'u gwahardd o'r Gymanfa.[105] Ysgrifenna A. Craig Troxel fod y Gyffes yn gwadu Amyraldiaeth ond nid yw'n trafod y ffurfiau mwy cymhedrol eraill o gydfydeddol damcaniaethol a gyflwynwyd yn Westminster.[106]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 de Witt 1969, t. 112.
  2. 2.0 2.1 Leith 1973, t. 23.
  3. Letham 2009, t. 18–19.
  4. Leith 1973, t. 26.
  5. Paul 1985, t. 8.
  6. Paul 1985, t. 101.
  7. Letham 2009, t. 20.
  8. Fesko 2014, t. 49.
  9. Paul 1985, tt. 36–38.
  10. Holley 1979, tt. 9–10.
  11. Paul 1985, t. 3.
  12. Paul 1985, t. 56.
  13. Paul 1985, t. 58.
  14. 14.0 14.1 Van Dixhoorn 2012, t. 12.
  15. Paul 1985, t. 59.
  16. Holley 1979, t. 54, 96.
  17. Crowley 1973, p. 50; de Witt 1969, p. 15; Holley 1979, pp. 151–152.
  18. Holley 1979, t. 159.
  19. Van Dixhoorn 2012, t. 6.
  20. Letham 2009, t. 30.
  21. Van Dixhoorn 2012, t. 264.
  22. 22.0 22.1 22.2 22.3 22.4 22.5 Van Dixhoorn 2015.
  23. Letham 2009, t. 33.
  24. Van Dixhoorn 2004, pp. 83–84; Van Dixhoorn 2012, p. 14.
  25. de Witt 1969, t. 23.
  26. Crowley 1973, p. 51; Van Dixhoorn 2012, p. 9.
  27. Van Dixhoorn 2012, t. 16.
  28. Van Dixhoorn 2012, t. 170.
  29. Van Dixhoorn 2004, tt. 82–83.
  30. Van Dixhoorn 2012, t. 1.
  31. Van Dixhoorn 2012, t. 42.
  32. Paul 1985, t. 74.
  33. Crowley 1973, p. 51; de Witt 1969, pp. 32–33.
  34. Logan 1994, p. 37; Paul 1985, pp. 78, 81.
  35. Van Dixhoorn 2004, t. 88.
  36. Van Dixhoorn 2004, t. 98.
  37. Van Dixhoorn 2004, t. 104.
  38. Letham 2009, t. 40.
  39. Letham 2009, t. 41.
  40. Van Dixhoorn 2012, tt. 23, 170, 175.
  41. Paul 1985, t. 116.
  42. Van Dixhoorn 2012, t. 23.
  43. de Witt 1969, t. 62.
  44. Van Dixhoorn 2012, t. 27.
  45. 45.0 45.1 Letham 2009, t. 32.
  46. de Witt 1969, t. 25.
  47. 47.0 47.1 47.2 de Witt 1969, t. 27.
  48. Van Dixhoorn 2012, t. 30.
  49. Crowley 1973, pp. 54–55; de Witt 1969, pp. 25–26.
  50. 50.0 50.1 Van Dixhoorn 2012, t. 14.
  51. Barker 1994, t. 50.
  52. Paul 1985, t. 105.
  53. de Witt 1969, tt. 66–67.
  54. Paul 1985, tt. 143–145.
  55. de Witt 1969, tt. 72–73.
  56. de Witt 1969, t. 88.
  57. Paul 1985, p. 207; de Witt 1969, pp. 88–89.
  58. de Witt 1969, t. 94.
  59. Paul 1985, t. 214–215.
  60. Paul 1985, p. 276; de Witt 1969, p. 115.
  61. Letham 2010, t. 46.
  62. Yule 1974, pp. 38–39; Bradley 1982, p. 38.
  63. Bradley 1982, t. 41.
  64. Spear 2013, t. 194.
  65. Van Dixhoorn 2012, tt. 31–32.
  66. Letham 2009, p. 43; Yule 1974, p. 42.
  67. Yule 1974, pp. 39–40; de Witt 1994, p. 157.
  68. de Witt 1994, t. 158.
  69. Van Dixhoorn 2012, t. 33.
  70. de Witt 1969, p. 207; Paul 1985, p. 509.
  71. Paul 1985, t. 511.
  72. 72.0 72.1 Yule 1974, t. 43–44.
  73. 73.0 73.1 Benedict 2002, t. 402.
  74. Spear 2013, tt. 195–196.
  75. 75.0 75.1 Paul 1985, t. 518.
  76. Benedict 2002, t. 401.
  77. Van Dixhoorn 2012, p. 34; Paul 1985, p. 518.
  78. Benedict 2002, p. 401; Spear 2013, p. 196.
  79. Spear 1994, t. 259.
  80. Spear 1994, t. 266.
  81. Godfrey 1994, t. 131.
  82. Kelly 1994, tt. 110–111.
  83. Spear 2013, t. 196.
  84. de Witt 1969, t. 239.
  85. de Witt 1969, t. 241.
  86. Van Dixhoorn 2012, tt. 37, 229.
  87. Van Dixhoorn 2012, t. 38.
  88. Letham 2009, t. 83.
  89. Letham 2009, tt. 85–86.
  90. Leith 1973, tt. 38–39.
  91. Letham 2009, tt. 94–95.
  92. Fesko 2014, t. 69.
  93. Fesko 2014, t. 71.
  94. Muller 2003a, p. 152; Letham 2009, pp. 121–122.
  95. Leith 1973, t. 77.
  96. Letham 2009, t. 133.
  97. Leith 1973, tt. 82–89.
  98. Letham 2009, t. 176.
  99. Moore 2011, t. 123.
  100. 100.0 100.1 Moore 2011, t. 148.
  101. Letham 2009, t. 177.
  102. Gatiss 2010, t. 194 citing Muller 2003b, tt. 76–77
  103. Moore 2011, t. 151.
  104. Fesko 2014, t. 202.
  105. Letham 2009, t. 182.
  106. Troxel 1996, pp. 43–55; Gatiss 2010, p. 194.
  107. Leith 1973, tt. 91–92.
  108. Letham 2009, t. 226.
  109. Jones 2011, t. 185.
  110. Van Dixhoorn 2001, t. 111.
  111. Van Dixhoorn 2001, t. 112.
  112. Van Dixhoorn 2009, t. 403.
  113. Van Dixhoorn 2009, t. 415.
  114. 114.0 114.1 Benedict 2002, tt. 402, 404.
  115. Keeble 2014, t. 17–18.
  116. Keeble 2014, t. 20.
  117. Keeble 2014, t. 25.
  118. Hudson 1955, tt. 32–33.
  119. Spear 2013, tt. 196–197.
  120. Bradbury 2013, t. 66.
  121. Spear 1993, t. 76.
  122. Rogers 1985, t. 140.
  123. Bremmer 2008, t. 158.
  124. Rogers 1985, tt. 140–141.

Llyfryddiaeth

golygu

Darllen pellach

golygu

Dolenni allanol

golygu