Ffurf Ysgrifenedig Safonol
Ffordd o sillafu'r iaith Gernyweg yw'r Ffurf Ysgrifenedig Safonol (Cernyweg: Furv Skrifys Savonek), a grëwyd er mwyn "darparu orgraff dderbyniol, gynhwysol a niwtral i gyrff cyhoeddus a'r system addysg".[1] Roedd hyn yn ganlyniad i broses a gychwynnwyd drwy greu corff cyhoeddus Partneriaeth yr Iaith Gernyweg, a welai angen cytuno ar un dull sillafu safonol er mwyn rhoi terfyn ar anghytundeb y gorffennol ynglŷn â'r orgraff, sicrhau cyllid oddi wrth y llywodraeth a chynyddu defnydd y Gernyweg yng Nghernyw. Daeth y cytundeb i fodolaeth wedi degawdau o drafod ar ba orgraff ddylid defnyddio ar gyfer yr iaith yn sgîl adfywiad yr iaith yn yr 20g.
Cytunwyd ar y ffurf newydd fis Mai 2008 ar ôl dwy flynedd o drafod ac roedd wedi'i dylanwadu gan y systemau sillafau blaenorol. Roedd y bwrdd trafod yn cynnwys aelodau o bob prif gymdeithas iaith Gernyweg: Kesva an Taves Kernewek, Kowethas an Yeth Kernewek, Agan Tavas a Cussel an Tavas Kernuak, ac fe dderbyniodd fewnbwn gan arbenigwyr ac academyddion o Ewrop a'r Unol Daleithiau. Golygai'r cytundeb i'r Gernyweg gael ei derbyn a'i hariannu'n swyddogol, gyda chefnogaeth oddi wrth llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd[2]
Ym Mehefin 2009, pleidleisiodd Gorsedd Cernyw â mwyafrif mawr dros dderbyn y Ffurf Ysgrifenedig Safonol.[3]
Yn 2013 adolygwyd y Ffurf er mwyn dod o hyd i broblemau â'r orgraff. Yn sgil hyn, gwnaethpwyd ambell newid er mwyn ei gwneud yn haws i ddysgwyr ac i leihau'r gwahaniaethau sillafu rhwng y tafodieithoedd.[4]
Orgraff
golyguMae'r Ffurf Ysgrifenedig Safonol yn cydnabod Cernyweg Canol Adfywiedig (CCA), Cernyweg Tuduraidd (CT) a Chernyweg Diweddar Adfywiedig (CDA) fel amrywiadau cyfartal ac yn seilio'i system arnynt. Mae'r Fanyleb wreiddiol yn 2008 yn datgan bod "yr orgraff ar y cyfan yn tueddu at sylfaen Gernyweg Canol, oherwydd y gellir casglu ynganiad cywir yn CDA a CT o edrych ar ffurf CCA mewn llawer o achosion, ond nid y ffordd arall".[5]
Unseiniau
golyguMae llafariaid diacen yn fyr bob tro. Mae llafariaid acennog mewn unseiniau yn hir o flaen cytsain sengl neu ddim cytsain o gwbl, e.e. gwag CCA [gwaːg], CDA [gwæːg] ('gwag'), lo CCA [lɔː], CDA [loː] ('llwy'), ac yn fyr o flaen cystain ddwbl neu glwstwr o gytseiniaid, e.e. ass CCA [as], CDA [æs] ('am'); hons CCA [hɔns], CDA [hɔnz] ('hwnt'). Ceir eithriadau, er enghraifft, mae llafariad hir o flaen st, e.g. lost CCA [lɔːst], CDA [loːst] ('cynffon'), a hefyd o flaen sk a sp yn CCA, e.e. Pask [paːsk] ('Pasg'). Mae llafariaid acennog mewn lluosilliau yn fyr heblaw gan siaradwyr CCA, a all ynganu cytseiniaid yn hir o flaen cysteiniaid sengl a st (a, gan rai, sk a sp), e.e. gwagen RMC [gwa(ː)gɛn], RLC [gwægɐn] ('bwlch').
Llythyren CCA CT & CDA Ber Hir Ber Hir a [a] [aː] [æ]1 [æː] e [ɛ] [ɛː] [ɛ]1 [eː] eu [œ]2 [øː]3 [ɛ] [eː] i [i] [iː] [ɪ] [iː]4 o5 [ɔ], [ɤ] [ɔː] [ɔ]1, [ɤ]1 [oː] oa6 - - - [ɒː] oo7 - [oː] - [oː], [uː]8 ou [u] [uː] [ʊ]1 [uː] u [ʏ]9 [yː] [ɪ]10 [iː]10 y11 [ɪ] [ɪː] [ɪ] [iː]
^1 Gellir ei gwanhau i [ɐ] yn ddiacen, a oedd yn [ə] yn y Fanyleb wreiddiol [5] ond yn [ɐ] yn y geiriadur ar-lein diweddaraf.[6]
^2 [ɛ] anghrwn yn ddiacen
^3 Rhoddir [œ] yn y Fanyleb wreiddiol[5] ond ceir [øː] yn y geiriadur ar-lein diweddaraf.[7]
^4 Yngenir fel [əɪ] yn CDA mewn silliau agored acennog, ac felly fe'i hysgrifennir â'r llythyrennau amrywio ei.
^5 Gall gynrychioli [ɔ], y ffurf fer ar o hir [ɔː/oː], neu [ɤ], ffurf fer oo hir [oː/uː]. Pan fydd yn cynrychioli [ɤ], mae Adolygiad 2013 yn awgrymu y gellid ysgrifennu o fel ò er eglurder mewn "geiriaduron a deunydd dysgu".[8]
^6 Defnyddir fel llythyrennau amrywio gan siaradwyr CDA mewn ambell air pan fydd siaradwyr CCA a CT yn defnyddio a hir, sef CCA [aː] a CT [æː]. Ar ôl Adolygiad 2013, ceir yn y geiriau boas ('bod'), broas ('mawr'), doas ('dod'), moas ('mynd') a geiriau sy'n tarddu ohonynt.[8]
^7 Fe'i defnyddir pan fydd Cernyweg Cyffreddin (CC) yn ysgrifennu oe yr un pryd ag y bydd CDA yn defnyddio'r sain [uː]. Felly, nid yw oo yn cyfateb i oe CC bob tro, e.e. FfYS loor, CC loer ('lleuad') [loːr], ond FfYS hwor [ʍɔːr], CC hwoer [ʍoːr] ('chwaer'). Mae hyn oherwydd bod tystiolaeth i'r ail grŵp o eiriau ddatblygu'n wahanol yn ffonolegol i'r grŵp cyntaf ag oe.[8]
^8 Dim ond [uː] yn CDA.
^9 Rhoddir [y] yn y Fanyleb wreiddiol[5] ond ceir [ʏ] yn y geiriadur ar-lein diweddaraf.[7] Wedi'i gwanhau i [ɪ] yn ddiacen.
^10 Mae'n cael ei gwanhau i [ɪʊ] o flaen gh neu yn ddiacen ar ddiwedd gair. Mewn ychydig o eiriau, gall u gynrychlioli [ʊ] yn fer neu [uː] neu [ɪʊ] yn hir yn CT a CDA. Argymell Adolygiad 2013 y gellid sillafu'r rhain fel ù fer ac û hir mewn "geiriaduron a deunydd dysgu".[8]
^11 Gallant gael eu hynganu'n [ɛ, eː] ac felly eu sillafu'n e yn CT a CDA.
Deuseiniaid
golyguLlythyren CCA CT CDA aw [aʊ] [æʊ]1 ay [aɪ] [əɪ], [ɛː] ei2 - [əɪ] ew [ɛʊ] ey [ɛɪ] [əɪ] iw [iʊ] [ɪʊ] ow [ɔʊ] [ɔʊ], [uː]3 oy [ɔɪ]4 uw [ʏʊ]5 [ɪʊ] yw [ɪʊ] [ɛʊ]6
^1 Mae geiriau benthyg sy'n cael eu sillafu ag aw yn gallu cael eu hynganu'n [ɒ(ː)] yn CT a CDA.
^2 Defnyddir fel llythyrennau amrywio yn CDA pan fydd i yn cael ei deuseinoli i [əɪ] mew silliau agored acennog.
^3 Ceir ar ddiwedd sillaf o flaen llafariad sy'n cychwyn sillaf newydd.
^4 Bydd ychydig o unseiniau'n cadw'r ynganiad mwy ceidwadol [ʊɪ] yn CDA, e.e. moy [mʊɪ] ('mwy'), oy [ʊɪ] ('wy').
^5 Rhoddir [yʊ] yn y Fanyleb wreiddiol[5] ond ceir [ʏʊ] yn y geiriadur ar-lein diweddaraf.[9]
^6 Gall ddefnyddio'r llythyrennau amrywio ew yn lle yw er mwn cynrychioli'r ynganiad [ɛʊ].
Cytseiniaid
golyguLlythyren CCA CT CDA b [b] c [s] cch [tʃː] [tʃ] ch [tʃ] ck1 [kː], [k] [k] cy2 [sj] [ʃ(j)] d [d] dh [ð] [ð], [θ]3 [ð] f [f] [f], [v]4 ff [fː] [f] g [ɡ] gh [x] [h] ggh [xː] [h] h [h] hw [ʍ] j [ʤ] k [k] kk [kː] [k] ks [ks], [gz] l [l] ll [lː] [lʰ], [l] [lʰ] m [m] mm [mː] [m] [ᵇm]5 n [n] nn [nː] [nʰ], [n] [ᵈn]5 p [p] pp [pː] [p] r [r] [ɹ] [ɹ],[ɾ] rr [rː] [ɾʰ], [ɹ] [ɾʰ] s [s], [z]6 sh [ʃ] ss [sː], [s] [s] ssh [ʃː] [ʃ] t [t] th [θ] tt [tː] [t] tth [θː] [θ] v [v] [v], [f]3 [v] w [w] y [j] z [z]
^1 Defnyddir mewn geiriau y mae'n sicr mai geiriau benthyg ydynt.
^2 Mewn rhai geiriau benthyg, fel fondacyon RMC [fɔnˈdasjɔn], RLC [fənˈdæʃjɐn] ('sefydliad') o'r Saesneg foundation.
^3 Gall siaradwyr CT ynganu dh yn [θ] a v yn [f] ar ddiwedd gair mewn sillaf ddiacen. Gall siaradwyr CDA beidio ag ynganu'r seiniau hyn o gwbl, ond caiff hyn ei adlewyrchu yn y sillafiad, e.e. CT menedh [ˈmɛnɐθ], CDA mena [ˈmɛnɐ] ('mynydd').
^4 Ceir [v] yn aml ar ddechrau morffem o flaen llafariaid. Nid yw treiglo [f] i [v], sy'n digwydd mewn rhai amrywiadau Cernyweg, yn cael ei gynrychioli yn yr orgraff.
^5 Ceir diffyg rhagffrwydroli mewn rhai geiriau sy'n cynnwys mm a nn yn CDA. Mae'r rhain yn cynnwys geiriau y tybir iddynt ddod i mewn i'r iaith ar ôl i ragffrwydroli ddigwydd, e.e. gramm ('gram'), a geiriau nad oeddynt yn cael eu defnyddio erbyn cyfnod CDA, e.e. gonn ('gwn (i)').
^6 Mae dosbarthiad [s] a [z] yn wahanol ymhob amrywiad ar y Gernyweg. Mae rhai rheolau yn gyffredin i bawb, e.e. bydd s olaf neu s rhwng llafariaid neu gytsain soniarus a llafariad yn cael ei hynganu'n [z]. Gall rheolau eraill berthyn i amrywiadau penodol, e.e. fel arfer, bydd siaradwyr CCA yn ynganu s gychwynnol fel [s] ond bydd CDA yn tueddu i ddefnyddio [z] (heblaw am mewn clystyrau fel sk, sl, sn, sp a st). Nid yw treiglo [s] i [z], sy'n digwydd mewn rhai amrywiadau ar yr iaith, yn cael ei gynrychioli yn yr orgraff.
Llythrennau eraill
golyguO bryd i'w gilydd, mae'r gwahanol fersiynau o Gernyweg adfywiedig yn ynganu seiniau'n wahanol. Defnyddia'r Ffurf Ysgrifenedig Safonol nifer o strategaethau i ymdrin â'r gwahaniaethau hyn er mwyn i bawb gael defnyddio'r Ffurf.
Llythrennau rhychwantu
golyguPan fydd sain CCA yn un sain wahanol yn gyson yn CDA, bydd y FfYS yn defnyddio llythrennau rhychwantu (Saesneg: umbrella graphs).[5]
Llythrennau amrywio
golyguPan nad oes modd defnyddio llythyren rychwantu i sillafu gair, gellir defnyddio llythren amrywio (Saesneg: variant graphs)[5] yn ei lle. Nid yw'r FfYS yn mynnu bod yn rhaid defnyddio llythrennau amrywio CCA yn unig neu CDA yn unig. Er enghraifft, bydd siaradwr CT yn dewis y llythrennau o'r ddwy set sy'n adlewyrchu ei ynganiad ei hun orau.
CCA CDA Llythyren Ynganiad Llythyren Ynganiad a [aː] oa [ɒː]1 ew [ɛʊ] ow [ɔʊ] i [i] ei2 [əı] mm [mː] bm [ᵇm]3 nn [nː] dn [ᵈn]3 s [s], [z] j [dʒ] y [ı], [ıː] e [ɛ], [eː]
Llythrennau traddodiadol
golyguY llythrennau traddodiadol (Saesneg: traditional graphs)[5] yw'r drydedd set o lythrennau wahanol. Mae'r llythrennau hyn yn nes at y rhai yr oedd ysgrifenwyr Cernyweg yn eu defnyddio'n draddodiadol, ac felly mae'n well gan rai siaradwyr Cernyweg y rhain heddiw. Er y caiff llythrennau traddodiadol eu derbyn yn llwyr fel ffordd gywir o sillafu a bod croeso i unigolion eu defnyddio, maent yn wahanol i lythrennau amrywio gan nad ydynt yn gyfartal â llythrennau safonol, ac "ni fyddant yn ymddangos mewn gwerslyfrau iaith sylfaenol neu mewn dogfennau swyddogol a gynhyrchir gan gyrff cyhoeddus".[5]
^1 Diacen ar ddiwedd gair
^2 O flaen a, l, o, r ac u
Cyfeiriadau
golygu- ↑ An Outline of the Standard Written Form of Cornish PDF, Cornish Language Partnership
- ↑ Cornish language makes a comeback, The Daily Telegraph, 21 Mai 2008
- ↑ Gorsedh Kernow adopts SWF Archifwyd 2010-10-17 yn y Peiriant Wayback, LearnCornish.net, 31 July 2009
- ↑ SWF Review - Cornish Language Partnership[dolen farw]
- ↑ 5.0 5.1 5.2 5.3 5.4 5.5 5.6 5.7 5.8 An Outline of the Standard Written Form of Cornish PDF, Partneriaeth yr Iaith Gernyweg
- ↑ "Cornish Dictionary "lowen"". Cyrchwyd 28 Awst 2014.
- ↑ 7.0 7.1 "Cornish Dictionary "eur"". Cyrchwyd 27 Awst 2014.
- ↑ 8.0 8.1 8.2 8.3 "SWF Review Report". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-09-03. Cyrchwyd 27 Awst 2014.
- ↑ "Cornish Dictionary "pluwek"". Cyrchwyd 27 Awst 2014.