Partneriaeth yr Iaith Gernyweg

Corff cynrychiadol yw Partneriaeth yr Iaith Gernyweg (Cernyweg: Keskowethyans an Taves Kernewek kɛskɔˈwɛθjans an ˈtavɛs kɛrˈnɛwɛk, kɛskɔˈwɛθjɐnz ɐn ˈtævɐzs kərˈnuːɐk) a sefydlwyd yng Nghernyw yn 2005 er mwyn hybu a datblygu defnydd yr iaith Gernyweg yng Nghernyw.[2] Mae'n gweithredu o fewn Cyngor Cernyw.

Logo Partneriaeth yr Iaith Gernyweg. Mae "maga" yn gyfystyr â "magu" yng Nghernyweg.[1]

Partneriaeth gyhoeddus a gwirfoddol yw hi[3] ac mae'n cynnwys cynrychiolwyr o blith gwahanol gymdeithasau Cernyweg a sefydliadau diwylliannol ac economig a llywodraeth leol Cernyw.[4] Ariennir y corff yn rhannol gan gynllun Amcan Un yr Undeb Ewropeaidd, gan Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol llywodraeth y Deyrnas Unedig a chan Gyngor Cernyw.[5]

Mae'r Bartneriaeth yn gyfrifol am reoli Ffurf Ysgrifenedig Safonol y Gernyweg, orgraff a gyhoeddwyd yn 2008 er mwyn ceisio uno'r nifer o orgraffau gwahanol gynt ac er mwyn cael ei defnyddio ar arwyddion ffyrdd, mewn dogfennau swyddogol ac mewn arholiadau ysgolion.[6]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. CLP Datganiad i'r Wasg, 11 Rhagfyr 2006: New logo for Cornwall Language Partnership is agreed[dolen marw]
  2. "Cornish Language Partnership : About Us". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-24. Cyrchwyd 2014-08-28.
  3. "Cornish Language Partnership". Network to Promote Linguistic Diversity. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 2014-08-28.
  4. "Cornish Language Partnership : Partnership". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-25. Cyrchwyd 2014-08-28.
  5. "Cornish Language Partnership : Funding". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-25. Cyrchwyd 2014-08-28.
  6. BBC News - Breakthrough for Cornish language - 19 Mai 2008

Dolenni allanol golygu